4 pairs of feet standing in soil
CDCCymru yn Cyflwyno

Dawnsiwr Laboratori

Blwyddyn 4

 

Laboratori 2022
Archwilio creu ar y cyd

Dydd Llun 27 Mehefin i ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022

Gan ddychwelyd am ei phedwaredd flwyddyn, mae Laboratori Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwahodd artistiaid coreograffig i archwilio a datblygu eu harfer greadigol, ac eleni am y tro cyntaf erioed, rydym hefyd yn galw am artistiaid gweledol annibynnol.

GALW AM GOREOGRAFFWYR, DAWNSWYR AC ARTISTIAID GWELEDOL

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru | Chapter

Yn 2022, mae'r rhaglen gyffrous yn croesawu partneriaeth gyda Chapter sy'n creu'r cyfle i archwilio ar y cyd, ymchwilio a chwarae rhwng artistiaid coreograffig a gweledol, gyda chefnogaeth ac arweiniad ffigyrau o'r sector dawns a chelfyddydau gweledol.

Bydd artistiaid yn cael pythefnos o amser taledig yn y stiwdio i archwilio syniadau gyda'i gilydd ar y cyd â chwmni o ddawnswyr. Bydd coreograffwyr ac artistiaid gweledol yn cael cynnig mentoriaeth ac arweiniad cefnogol yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Laboratori yn creu man diogel, agored ar gyfer arloesi ac arbrofi i roi cynnig ar syniadau newydd, datblygu ymarfer a magu perthnasoedd creadigol newydd ar draws ffurfiau ar gelfyddyd.

Rydym yn galw am y coreograffwyr, yr artistiaid gweledol a'r dawnswyr canlynol:

Dau Goreograffydd

Gwahoddir coreograffwyr o Gymru ar unrhyw gam o'u gyrfa i wneud cais am Laboratori 2022 gan Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chapter. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i dreulio pythefnos gyflogedig yn y stiwdio dan fentoriaeth coreograffwyr profiadol iawn, i archwilio eu hymarfer artistig, ymchwilio i syniadau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes a datblygu perthnasoedd creadigol ar draws ffurfiau ar gelfyddyd. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'r artistiaid Jo Fong a Sioned Huws fel mentoriaid coreograffig.

Bydd gan goreograffwyr y cyfle i naill ai cydweithio gydag artist gweledol neu weithio'n annibynnol. Bydd ffocws yr wythnos ar gydweithio, arbrofi a datblygu, ac er y bydd cyfle i rannu'ch gwaith gyda chyfoedion, nid oes pwysau i greu canlyniadau penodol.

Ffi Gynhwysol: £1,100 yn ychwanegol at gostau teithio a llety fel sy'n briodol.

Dau Artist Gweledol

Gwahoddir artistiaid gweledol wedi'u lleoli yng Nghymru ar unrhyw gam o'u gyrfa i wneud cais am Laboratori 2022 gan Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chapter. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i dreulio pythefnos gyflogedig yn y stiwdio, i weithio ar y cyd â choreograffwyr a dawnswyr dan fentoriaeth tîm curadu Chapter. Mae'r cyfnod preswyl yn cynnig amser a lle i artistiaid archwilio posibiliadau cydweithredol, myfyrio ac ymestyn eu hymarfer annibynnol, a dysgu sgiliau newydd gan artistiaid yn gweithio ar ffurfiau eraill ar gelfyddyd.

Ffi Gynhwysol: £1,100 yn ychwanegol at gostau teithio a llety fel sy'n briodol
 

Ddau Ddawnsiwr 

Fel rhan o'r rhaglen Laboratori, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chapter yn ceisio dawnswyr a fydd yn cael cyfle i fod yn rhan o'r cwmni, gweithio gyda mentoriaid coreograffig, yn ogystal â chydweithio â choreograffwyr ac artistiaid gweledol Laboratori.

Bydd dawnswyr yn gweithio rhwng 10am-5.45pm gan gynnwys cymryd rhan mewn dosbarth corfforol dyddiol ac amser creadigol yn y stiwdio gyda choreograffwyr ac artistiaid gweledol Laboratori.

Ffi Gynhwysol: £1,022 yn ychwanegol at gostau teithio a llety fel sy'n briodol

 

Y Cais

Mae'r cyfnod ymgeisio yn agor dydd Gwener 29 Ebrill, ac yn cau am 9am dydd Gwener 20 Mai.

Yn croesawu partneriaeth gyda

Chapter logo

Gyda chefnogaeth:

The Fenton Arts Trust logo

Galeri
Deb Light looks at her postit note wall
Dancer with plastic costumes in background
Artist and dancers holding long string at various levels
June Cambell Davies holds a yellow fabric scarf

Blwyddyn 3

Yn 2021, cynhaliwyd y Laboratori dros bythefnos yng Ngogledd a De Cymru; un wythnos yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd, trwy gyfrwng y Saesneg, ac un wythnos yn Pontio ym Mangor, trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Gan ddychwelyd am ei drydedd flwyddyn, mae Laboratori Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwahodd coreograffwyr i archwilio a datblygu eu harfer creadigol, o dan fentoriaeth ffigyrau blaenllaw yn y sector dawns. 

Yn rhoi wythnos o fentoriaeth â thâl i goreograffwyr yn y stiwdio gyda dawnswyr CDCCymru, mae Laboratori yn creu man diogel, agored ar gyfer arloesi ac arbrofi wrth roi cynnig ar syniadau newydd a chwestiynu rhai sy'n bodoli eisoes.  

Mentoriaid: Caroline Bowditch & Sioned Huws
Coreograffwyr: Josh Attwood, Billy Maxwell-Taylor, Faye Tan, Tayla Smith, Angharad Harrop, Anya Sirina
Dawnswyr: Natasha Dawkes, Lucy Jones, Sioned Bowen, Elan Elidyr, Aisha Naamani, Ed Myhill, Marine Tournet, Niamh Keeling, Tim Volleman, Angharad Jones-Young, Mika George Evans

Gyda chefnogaeth:

The Fenton Arts Trust logo

Dysgwch fwy am Laboratori De Cymru 2021

Dysgwch fwy am Laboratori Gogledd Cymru 2021

Blwyddyn 2

Prif Hwylusydd: Catherine Bennett
Mentoriaid: Shobona Jeyasingh CBE, Bebe Miller, Frances Rings
Coreograffwyr: Marcus J Willis, Richard Chappell, Bakani Pick-Up; Thomas Carsleyg, Eleesha Drennan, Faye Tan, Aisha Naamani, Ed Myhill

Yn ystod Hydref 2020, bydd CDCCymru yn cynnal yr ail raglen Laboratori, gan ddod â choreograffwyr annibynnol sefydledig ac sy'n dod i'r amlwg, dawnswyr CDCCymru a grŵp o Fentoriaid eithriadol at ei gilydd, gyda phob un ohonynt yn arbenigwyr ac yn arloeswyr ym maes dawns gyfoes.

Mae Laboratori yn rhoi cyfle i goreograffwyr gweithredol archwilio a chwestiynu eu harfer eu hunain, wrth brofi syniadau coreograffig a ffyrdd o weithio newydd gyda'n tîm o ddawnswyr proffesiynol.

"Rwyf wrth fy modd bod y coreograffwyr o fri rhyngwladol hyn wedi cytuno i rannu eu gwybodaeth a phrofiad drwy Laboratori. Mae gan bob un ohonynt arferion artistig sy'n hynod berthnasol i'r oes sydd ohoni ac mae gwydnwch eu gyrfaoedd yn rhywbeth gwerthfawr y gallwn ddysgu oddi wrtho."

Lee Johnson 

Blwyddyn 1

 

Yn 2019, rhoddodd Fearghus wahoddiad i Lea Anderson fod y mentor cyntaf oherwydd ei hanes yn creu darnau o ddawns unigryw sy'n wledd i'r llygaid ar gyfer mathau gwahanol o leoliadau, o leoliadau cabaret i orielau. Yn ogystal, gofynnodd Fearghus i Éric Minh Cuong Castaing fod yn fentor ar gyfer yr ail wythnos, i rannu ei brofiad o weithio â dawns, technolegau (fel penwisgoedd Rhith-wirionedd a dronau), ac amrywiaeth o berfformwyr.

Mae'r holl broses yn dwyn ynghyd nifer o bethau sy'n bwysig i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: lle gall syniadau newydd ymddangos, syniadau a fydd yn y tymor hir yn cyffroi ein cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y byd.  Rydym eisiau cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus yr artistiaid yn ein cwmni, yn ogystal ag artistiaid dawns yn y sector annibynnol yng Nghymru, a gwyddom fod rhan o'r datblygiad proffesiynol hwnnw yn deillio o greu'r cysylltiadau creadigol hynny rhyngom. Oherwydd bod Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar daith mor aml, mae'r enydau hyn o gyfnewid syniadau creadigol gyda'n cydweithwyr dawns yng Nghymru yn werthfawr. 

Mentoriaid: Lea Anderson & Éric Minh Cuong Castaings
Coreograffwyr & Dawnswyr: Ed Myhill, Jack Philp, Gundija Zandersona, Eddie Ladd, Deborah Light, Tim Volleman and Nikita Goile
Dawnswyr: Tim Volleman, Nikita Goile, Faye Tan, Elena Sgarbi, Paola Drera, Aisha Naamani, Lucy Jones, Anna Kazsuba, Osian Meilir Ioan, Camille Giraudeau, Paola Drera, Emma Lewis, Elan Elidyr, Shakeera Ahmun, Hanna Hughes, Ed Myhill, Folu Odimayo

Lansiodd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Laboratori yn 2019 mewn partneriaeth â Groundwork Pro, grŵp o artistiaid dawns annibynnol wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae Laboratori yn gyfle i roi cynnig ar syniadau coreograffig a ffyrdd newydd o weithio, yn y gobaith, y bydd rhywbeth newydd ac annisgwyl yn codi rhywle o fewn y broses.

"Mae canfod beth sydd ddim yn gweithio cystal yr un mor bwysig â gwybod beth sy'n gweithio.  Ac mae cael yr amser i weld potensial rhywbeth sydd ddim i weld yn gweithio'n iawn ar hyn o bryd yn hynod ddefnyddiol - a rhywbeth nad oes gennym bob tro'r amser i'w wneud pan rydym yn y rhythm arferol o greu darn o goreograffi."

- Fearghus Ó Conchúir.

Galeri
2 images, one of 3 people looking at a piece of paper, the second on someone wearing a vr headset looking to the left
3 pictures, one with a dancer on the floor reaching forward, the middle a dancer on her knees reaching to the sky, the third a dancer running her hand along a curtain