Michelle has short hair, a yellow jumper and a kind smile

Michelle Carwadine-Palmer

Prif Weithredwr Dros Dro

Rydw i wedi gweithio yn sector y celfyddydau perfformio ers mwy na dau ddegawd ar draws amrywiaeth o sefydliadau yn y DU, yn cynnwys cwmnïau teithiol rhanbarthol a rhyngwladol, yn ogystal â thai derbyn a thai cynhyrchu. Roedd fy nghleientiaid llawrydd diweddar yn cynnwys ymgymryd â swyddi Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro ar gyfer Punchdrunk Enrichment, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac yn awr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf rydw i wedi ymgymryd â rolau Prif Swyddog Gweithredol a rolau Rheoli Celfyddydau Gweithredol yn National Theatre Wales, y Salisbury Playhouse (Wiltshire Creative yn awr) a’r Corn Exchange Newbry, ac roedd fy mhrif gyfrifoldebau’n cynnwys creu a chyflawni strategaeth fusnes, strategaeth codi arian, AD, llywodraethu, ymgysylltu gwleidyddol, eiriolaeth, materion ariannol a thwf sefydliadol, gweithrediadau busnes a’r gyfraith.