Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn penodi Llysgenhadon Dawns i raglen Cymru. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda lleoliadau a phartneriaid cymunedol mewn tri rhanbarth o Gymru i gyflwyno pobl i ddawns fel cyfranogwyr a chynulleidfaoedd. Drwy gymorth gan Sefydliad Foyle, mae CDCCymru mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Taliesin (Abertawe); Pontio (Bangor); Dawns i Bawb (Gogledd-orllewin Cymru) a Theatr Clwyd (Gogledd-ddwyrain Cymru) wedi penodi tri 'Llysgennad Dawns' i helpu i ddenu cynulleidfaoedd a chyfranogwyr newydd ar gyfer dawns yn y rhanbarthau hynny ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan ddarparu gweithgarwch cyfranogiad a chodi proffil dawns i gynulleidfaoedd. Treialodd CDCCymru y model hwn o weithio y llynedd yn Lloegr pan gafodd grant tebyg gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i weithio gyda 4 lleoliad a oedd yn awyddus i ddatblygu ymgysylltiad â phobl ifanc ac oedolion. Denodd rhaglen o weithdai, perfformiadau 'cychwynnol' mewn lleoliadau cyn perfformiadau'r Cwmni a sgyrsiau bobl hen ac ifanc, i wylio dawns, i roi cynnig ar ddawns eu hunain ac i ddysgu am ddawns. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith arloesol gyda phob math o bobl, ac ar eu cyfer, mewn pob math o leoedd, gan helpu i ddangos sut y gallem fod, yn unigol a gyda'n gilydd. Mae'r cwmni yn cyflwyno ei waith mewn cyd-destunau a fformatau gwahanol ar draws Cymru a ledled y byd, gan gomisiynu'n bennaf goreograffwyr nad ydynt wedi'u comisiynu yn y DU o'r blaen. Mae CDCCymru yn ymrwymedig i ysbrydoli cynulleidfaoedd a chreu cyfleoedd ar gyfer pob math o bobl i gymryd rhan mewn dawns ym mhob math o wahanol ffyrdd. Gweithdai Dawns Y Llysgenhadon Dawns yw Luke Ganz (Abertawe); Angharad Harrop (Bangor a'r Gogledd-orllewin) ac Angharad Jones ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae Luke Ganz, Llysgennad Dawns Abertawe yn dod o Bort Talbot ac yn athro, coreograffydd a dawnsiwr sydd wedi gweithio gyda Hofesh Shechter, Hannah Bruce & Co, Errol White, Dog Kennel Hill, Maya Levy, Yael Flexer, Ben Wright, Joe Moran, Stacey Spence (Trisha Brown Company) a Charlotte Darbyshire. Ar hyn o bryd mae Luke yn cyd-gyfarwyddo Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir yn Abertawe yn ogystal â darlithio ac addysgu yng Ngholeg Pen-y-bont, ac mae wedi addysgu ar draws De Cymru mewn amryw o golegau ac ysgolion. Mae Llysgennad Dawns yr Wyddgrug Angharad Jones wedi'i lleoli yng Ngogledd Cymru fel artist dawns llawrydd dros y pum mlynedd diwethaf ac yn ddiweddar mae wedi ymuno â thîm Ymgysylltu Creadigol clodwiw Theatr Clwyd fel Cydymaith Dawns. Mae Angharad wedi ymrwymo i ddarparu gweithgareddau dawns i bobl o bob oedran a gallu ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau o fewn y gymuned fel ymarferydd dawns. Mae Angharad hefyd yn gweithio'n rheolaidd gyda'r cwmnïau dawns Little Light Dance a Digital Theatre a Vertical Dance Kate Lawrence yng Ngogledd Cymru fel perfformiwr ac ymarferydd dawns. Mae'r Llysgennad Dawns ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru, Angharad Harrop wedi gweithio fel artist annibynnol fel perfformiwr, crëwr ac athrawes. Gweithiodd hefyd gyda grwpiau dawns cymunedol lleol gan gynnwys Dawns i Bawb a gyda gwahanol grwpiau ar draws cymunedau gwledig yng Ngogledd Cymru. Mae hi hefyd yn ddarlithydd mewn Dawns ym Mhrifysgol Caer. Bu'n athrawes ym Mhrifysgol Edge Hill, Ormskirk a Phrifysgol De Montfort, Caerlŷr. Mae rôl Angharad fel "cyfaill dawns" Pontio wedi ei galluogi i ddatblygu ei dawns ar waith ffilm, ymgysylltu â chymunedau lleol drwy brosiectau dawns y ganolfan ac yn fwy diweddar sicrhau lle blaenllaw i ddawns yng Nghynhadledd Niwrowyddoniaeth CONSALL a gynhaliwyd yn Pontio. Llysgennad Dawns Sarah Rogers, Amwythig Cyfarwyddwr artistig CDCCymru, Fearghus Ó'Conchúir "Rydym wrth ein bodd i groesawu i dîm CDCCymru y Llysgenhadon Dawns dawnus. Byddant yn rhan allweddol o sut rydym yn gweithio gyda'n lleoliadau partner i ddatblygu potensial cynulleidfaoedd a chyfranogwyr yn y tri rhanbarth. Rydym yn gobeithio gyda hwy i ysbrydoli a sbarduno angerdd mewn mwy o bobl dros ddawns ac ymwybyddiaeth o'i gwerth i unigolion a chymunedau." Bydd y Llysgenhadon Dawns yn cyflwyno gweithdai a gweithgareddau yn eu cymunedau lleol yn gysylltiedig â pherfformiadau Taith Awakening CDCCymru ym mis Mawrth a mis Ebrill 2019. I gael rhagor o wybodaeth am y daith, ewch i ndcwales.co.uk/awakening