Cweithredol Dros Dro (Prif Weithredwr ar y Cyd) Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â sgiliau rheoli pobl, cyllid, rheoli newid, ac sydd â gwybodaeth am ffrydiau incwm niferus. Dogfennau i’w lawrlwytho Interim Executive Director Job Description, Large Print, screen reader friendly, PDF Print Bras Gyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro PDF Print Bras Gyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Word Interim Executive Director Job Description, Large Print, screen reader friendly, Word Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro (Prif Weithredwr ar y Cyd). Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â sgiliau rheoli pobl, cyllid, rheoli newid, ac sydd â gwybodaeth am ffrydiau incwm niferus. Bydd gennych brofiad sylweddol o arwain a byddwch yn hyderus ymhob agwedd o reolaeth ariannol. Byddwch mwy na thebyg wedi gweithio yn y maes celfyddydau a/neu trydydd sector ac wedi arfer arwain timau deinamig. Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, a gan ein bod eisiau adlewyrchu'r gymdeithas lle rydym yn byw a gweithio, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl b/Byddar ac anabl ac o’r Mwyafrif Byd-eang. Nid oes dyddiad cau pendant am y swydd hon. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried wrth iddynt gael eu derbyn. Swydd Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro (Prif Weithredwr ar y Cyd) Yn atebol i: Bwrdd Ymddiriedolwyr Lleoliad gwaith: Tŷ Dawns, Bae Caerdydd Cyfradd ffioedd: Yn seiliedig ar gyflog blynyddol o £50,000 pro rata Oriau a chontract: Hyblyg 40-60% (15-22.5 awr) yr wythnos am gyfnod o 6-8 mis, tra bod y cwmni yn gorffen penodi Cyfarwyddwr Artistig newydd (Prif Weithredwr ar y Cyd) ac yn recriwtio Cyfarwyddwr Gweithredol parhaol (Prif Weithredwr ar y Cyd) Dyddiad cau: Nid oes dyddiad cau pendant am y swydd hon. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried wrth iddynt gael eu derbyn. Nodyn gan y Cadeirydd Rydym ni, Bwrdd CDCCymru, yn gwahodd ymgeiswyr i ymuno â ni fel Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro, i arwain y cwmni wrth i ni recriwtio Prif Weithredwyr ar y Cyd a’u rhoi ar waith dros y chwech i wyth mis nesaf. Mae’n gyfnod heriol i sector y Celfyddydau ac i’r Bwrdd, ac mae’r cwmni wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau dyfodol cynaliadwy. Bu CDCCymru yn llwyddiannus wrth ennill cyllid ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddiogelu’r cwmni ar gyfer 2025/26. Mae’r Bwrdd a’r cwmni hefyd wedi cwblhau adolygiad strategol o’i fodel busnes, ac wedi gwneud newidiadau i’r model a’r strwythur. O ganlyniad i hyn, yn anffodus, mae rhai pobl wedi gorfod gadael a/neu newid eu swyddi. Gadawodd y Cyfarwyddwr Artistig, Matthew Robinson, ar ddiwedd 2024, gan adael rhaglen gyfoethog wedi ei chynllunio ar gyfer 2025, a gwaddol o ragoriaeth artistig. Mae’r tair gweithred yma wedi rhoi sicrwydd i’r cwmni, a bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro yn adeiladu ar gryfderau a gwerthoedd y cwmni, gan arwain y tîm i ddarparu a chreu dyfodol newydd. I edrych ar bosibiliadau'r swydd a gweithio gyda ni cysylltwch â mi Alison Thorne Cliciwch yma i anfon e-bost: recruitment@ndcwales.co.uk Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro yn darparu eiriolaeth busnes ac arweinyddiaeth a darpariaeth strategol i’r cwmni, gan arwain a chefnogi tîm sydd wedi gweld dipyn o newid rhaglen, ac o ganlyniad, ceir strwythur newydd gyda rhai swyddi newydd a rhai wedi newid. Hefyd, goruchwylio cynlluniau busnes ac ariannol, AD, a chyfrifoldebau llywodraethu. Dyletswyddau a chyfrifoldebau Bwriad y swydd yw darparu arweinyddiaeth strategol a chreadigol i CDCCymru, gan gynnwys: Arweinyddiaeth Strategol Busnes a Chyllid Arweinyddiaeth Tîm Llywodraethu Rhaglennu Rolau a Chyfrifoldebau y Prif Weithredwr Bydd Uwch Dîm Rheoli’r cwmni yn cynnwys y Cyfarwyddwr Artistig (Prif Weithredwr ar y Cyd), y Cyfarwyddwr Gweithredol (Prif Weithredwr ar y Cyd), y Rheolwr Cyffredinol a’r Pennaeth Cynhyrchu, unwaith y bydd recriwtio Cyfarwyddwr Artistig a’r Cyfarwyddwr Gweithredol wedi ei gwblhau. Arweinyddiaeth Strategol Arwain, monitro a gweithredu cynllun busnes a chyfeiriad y cwmni, gan sicrhau bod rhaglen artistig y dyfodol yn adlewyrchu gweledigaeth ac adnoddau'r cwmni'n llawn Ysbrydoli a chymell pawb yn y cwmni, gan arwain esblygiad y gweithgareddau artistig a chreu diwylliant o arloesedd, dysgu a datblygu Ymgysylltu a gweithio'n effeithiol gyda'r Uwch Dîm Rheoli i sicrhau eu bod yn cyflawni yn unol â’r cynllun busnes Galluogi darparu’r rhaglen artistig a theithio yn effeithiol, er mwyn parhau i wella ar nodau artistig y cwmni a’r cynulleidfaoedd y maent yn eu denu Cefnogi datblygiad meddylfryd arloesol ar incymau, brand a gweithgareddau newydd ar draws y sefydliad Hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant ac amrywiaeth er mwyn sicrhau bod y cwmni'n adlewyrchu'r Gymru gyfoes Ymgysylltu a chymryd rhan gyda'r sector dawns a chelfyddydau ehangach ledled Cymru, i greu datrysiadau i'r heriau, gan feithrin partneriaethau a syniadau creadigol. Busnes a Chyllid Monitro rheolaeth ariannol a phrosesau cyllidebu, gan gymryd cyfrifoldeb cyffredinol am sefydlogrwydd ariannol a dyfodol hirdymor y cwmni Goruchwylio swyddogaeth gyllid y sefydliad, yn cynnwys arolwg blynyddol, bancio a llif arian, cynllunio ac atebolrwydd ariannol, cyllidebu ac ail-ragweld, a chais am Ryddhad Treth i Theatrau Cynllunio a chefnogi gweithgarwch codi arian o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys ymddiriedolaethau, busnesau, ffynonellau statudol ac unigolion Sicrhau cydymffurfiaeth ariannol, gan gynnwys monitro gweithdrefnau ariannol a gwella prosesau lle bo angen, gan weithio gyda’n tîm cyllid allanol newydd yn Anwen Rheoli perthnasoedd gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, perchennog y safle. Arweinyddiaeth Tîm Gwneud pethau'n glir o ran cyfrifoldebau staff a gweithdrefnau cwmni, a hwyluso gweithio tîm/trawsadrannol Gweithio gyda'r Uwch Dîm Rheoli, sicrhau prosesau cynllunio a gwerthuso cadarn ar gyfer holl weithgarwch y cwmni Ysbrydoli a gwella diwylliant a thôn y gwaith, gan annog arloesedd a gweithredu cwmni rhagweithiol a deinamig Goruchwylio gwaith aelodau'r staff hynny sy’n uniongyrchol o dan reolaeth llinell y Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro, yn cynnwys cynnal cyfarfodydd un i un ac arfarniadau blynyddol yn rheolaidd Goruchwylio a chymryd rhan yn y broses recriwtio, rheoli perfformiad, disgyblu, a chwynion, yn unol â'r polisïau Sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith cyflogaeth, iechyd a diogelwch a darparu llesiant corfforol a meddyliol. Llywodraethu Gweithio'n agos â Chadeirydd y bwrdd ac ymddiriedolwyr eraill, a bod yn atebol iddynt, er mwyn sicrhau bod gan y cwmni systemau a phrosesau llywodraethu ar waith sy'n bodloni'r amcanion, atebolrwydd a chyfrifoldebau sefydliadol a busnes Sicrhau bod y bwrdd yn derbyn gwybodaeth brydlon, reolaidd a chywir i wneud y penderfyniadau gorau posibl Cefnogi Cadeirydd y bwrdd i greu pwyntiau ymgysylltu a chynlluniau gwaith perthnasol ar gyfer y bwrdd, y pwyllgorau a grwpiau gorchwyl a gorffen Sicrhau bod y cwmni'n gweithredu'n unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a chynghori'r bwrdd ar faterion llywodraethu. Rhaglennu Sicrhau bod gan y cwmni raglen gydlynol ar draws pob maes gwaith ac arwain prosesau cynllunio Adnabod a datblygu cyfleoedd ar gyfer rhaglen a theithiau 2026 Arwain y gwaith o archebu teithiau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, gan ymateb i ymholiadau, trafod telerau â lleoliadau a hyrwyddwyr er mwyn cynhyrchu’r incwm teithio uchaf posibl. Rolau a Chyfrifoldebau y Prif Weithredwr Cyfrifoldeb cyffredinol am reoli a llesiant staff Cyfrifoldeb llawn am adolygu a chynnal yr holl brosesau a pholisïau, yn cynnwys contractau cyflogaeth, polisïau iechyd a diogelwch, asesiadau risg a llawlyfr staff y cwmni, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith Gweithio'n agos â'r ymddiriedolwyr, a bod yn atebol iddynt, er mwyn sicrhau bod y cwmni'n bodloni ei amcanion sefydliadol a busnes Gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ar ôl cwblhau adolygiad y sector gyfan Dawns, i archwilio ffyrdd newydd o sicrhau sector gynaliadwy Gweithredu fel arweinydd y cwmni a bod yn llysgennad ac eiriolwr i'r cwmni a dawns yng Nghymru Meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol a chydweithredwyr strategol. Dyletswyddau cyffredinol Cefnogi gweithrediadau dydd i ddydd y Tŷ Dawns Gweithredu fel esiampl i'r holl gyflogeion o ran ymddygiad proffesiynol, safonau a pholisïau Chwarae rôl weithredol yn datblygu, hyrwyddo a gweithredu holl bolisïau CDCCymru, gan gynnwys dwyieithrwydd, gwrth-hiliaeth, gwrth-orthrymder, cynrychiolaeth, hygyrchedd, cynaliadwyedd amgylcheddol ac iechyd a diogelwch Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i gefnogi amcanion elusennol y cwmni a chefnogi gweithgareddau codi arian, gan gynnwys casglu ac adrodd am ystadegau Dylai pob aelod o staff gydymffurfio â rheoliadau GDPR ynghylch cofnodion rheoli data personol Ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n rhesymol ddisgwyliedig gan y bwrdd er mwyn cyflawni’r rôl Manyleb Person Hanfodol O leiaf pum mlynedd o brofiad mewn uwch arweinyddiaeth o fewn y sector celfyddydau, dawns, neu drydydd sector perthnasol Profiad o gynllunio a rheoli ariannol a phrofiad llawn o Elw a Cholled/Incwm a Gwariant Profiad o ddatblygu model busnes a chynllunio a darparu ffrydiau incwm o ystod o ffynonellau Profiad o arwain, rheoli a chymell cydweithwyr a thimau Profiad o arwain newid strategol Sgiliau dylanwadu ac eiriolaeth amlwg gyda'r gallu i reoli a datblygu cysylltiadau'n gyflym gydag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid Dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chydymffurfiaeth gyfreithiol ac ariannol perthnasol Dealltwriaeth o faterion llywodraethu a phrofiad o weithio gydag ymddiriedolwyr a/neu gyfarwyddwyr anweithredol a bod yn atebol iddynt Dealltwriaeth o’r cyd-destun gwleidyddol ac economaidd ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru Dymunol Gwybodaeth am ystod o lwybrau codi arian Y gallu i siarad Cymraeg Priodoleddau Ymrwymiad effeithiol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ynghyd â gallu amlwg i sicrhau newid Dealltwriaeth ddiwylliannol o hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg Cydweithredwr creadigol gydag ymrwymiad i geisio cydweithrediadau dynamig ac i weithio mewn partneriaeth Meddylfryd masnachol a chreadigol Dealltwriaeth o werthoedd y cwmni a chael ffydd ynddynt Ymrwymiad i ddysgu a chyfranogiad, ac i gysylltu â chynulleidfaoedd a'u datblygu Ymwybodol o risg ond nid yn wrth-risg Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol Sgiliau deallusrwydd emosiynol Yn ymarferol, ac yn gallu blaenoriaethu tasgau Sut i wneud cais Os hoffech drafod y cyfle hwn yn fanylach cyn gwneud cais, cysylltwch ag: Alison Thorne (Cadeirydd) – recruitment@ndcwales.co.uk Os hoffech wneud cais gyda sain, fideo neu ffurf sy’n hygyrch i chi, gwnewch hynny, gan gynnwys y pwyntiau isod. Llenwch y Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal a'i hanfon gyda'ch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o 2 dudalen) yn amlinellu sut ydych yn bodloni'r fanyleb person a'r sgiliau sydd gennych sy'n addas i'r rôl at: recruitment@ndcwales.co.uk Yn eich llythyr eglurhaol, eglurwch yn fanwl ac yn y drefn a nodwyd yn y pecyn swydd sut rydych yn bodloni bob categori yn adran Hanfodol y Fanyleb Person a nodwch hefyd pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd a'r hyn sy'n eich ysgogi. Yn eich CV rhowch dystiolaeth o'ch sgiliau a phrofiad yn ogystal ag: Enw a manylion cyswllt dau ganolwr proffesiynol/cyflogaeth. (Ni fyddwn yn cysylltu â chanolwyr hyd nes gwahoddir ymgeiswyr i ail gyfweliad) Datganiad bod gennych yr hawl i weithio yn y DU neu angen trwydded gweithio i wneud hynny Llenwch y ffurflen Cyfleoedd Cyfartal, sydd at ddibenion monitro ac sydd ar wahân i'ch cais Nid oes dyddiad cau pendant am y swydd hon. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried wrth iddynt gael eu derbyn. E-bostiwch Alison yma i ofyn cwestiynau E-bostiwch eich cais yma Cewch fynediad at Gyfleoedd Cyfartal yma Diogelu Data Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i greu rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ac fel sail i'n penderfyniad ynghylch pwy i'w benodi. Bydd eich holl fanylion yn cael eu cadw'n ddiogel, gyda mynediad yn gyfyngedig i'r rhai sy'n ymwneud â'r broses recriwtio yn unig. Bydd eich cais yn cael ei gadw ar ffeil am o leiaf tri mis ar ôl y dyddiad cau a'i ddinistrio dim hwyrach na deuddeg mis ar ôl hynny. Mae data cyfle cyfartal recriwtio hefyd yn cael ei wneud yn ddienw ac yn cael ei ddefnyddio'n fewnol i ganfod ffyrdd o wella ein prosesau a chyrraedd y gronfa ehangaf bosibl o ymgeiswyr. Drwy gyflwyno eich cais i ni, rydych yn rhoi eich caniatâd i'ch data gael ei ddefnyddio yn y modd hwn. Addewid Recriwtio Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd, p’un a ydynt yn cael eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio. Gwahoddir ymgeiswyr anabl sy’n dangos eu bod yn cwrdd â manyleb y person am gyfweliad, ac rydym wedi ymrwymo i fodloni gofynion mynediad; dim ond i chi roi gwybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi. Cydraddoldeb Nod CDCCymru yw i ddawns fod yn rhan o fywyd pawb, ac mae'n cyflwyno ei waith mewn gwahanol fformatau a chyd-destunau ledled Cymru a ledled y byd. Credwn y dylai amrywiaeth gael ei hymgorffori'n llawn yn ein diwylliant a'n gwerthoedd cyfundrefnol, ac rydym yn parhau i ehangu amrywiaeth y Cwmni a'i waith. I'r perwyl hwnnw rydym yn siarad â phobl o ystod o gymunedau ac yn gwrando arnynt, i gyflwyno dealltwriaeth a mewnwelediad, ac i adnabod newidiadau y gallwn eu gwneud. Mae manylion ynghylch y camau yr ydym yn eu cymryd i'w gweld yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Cyfiawnder Cymdeithasol Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd holl weithgareddau CDCCymru. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad i ddawns. Bydd CDCCymru yn ceisio sicrhau nad oes neb yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector celfyddydau, a chan y rhai sy’n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, hil, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Gellir talu costau teithio a threuliau ac arian gofal plant.