CDCCymru yn Cyflwyno Rygbi Pecyn Dysgu ages 4+ Yn y pecyn hwn, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o weithgareddau dawns diddorol i'r holl deulu, i'w mwynhau gyda'ch gilydd, dewch i ddawnsio! Dogfennau i’w lawrlwytho Full Learning Pack Pecyn Dysgu Llawn Fel cwmni dawns, rydym yn deall ei fod yn anodd cadw'n actif wrth fod yn gaeth i'ch cartref, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn amhosib! Yn y pecyn hwn, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o weithgareddau dawns diddorol i'r holl deulu, i'w mwynhau gyda'ch gilydd, DEWCH I DDAWNSIO! Cyn i chi gychwyn unrhyw dasg ddawns, sicrhewch eich bod wedi ymestyn a chynhesu eich corff. Sicrhewch fod yr ystafell yn wastad, bod digon o le i symud, a cheisiwch symud unrhyw beryglon, megis matiau neu ddodrefn, i un ochr Sgroliwch i lawr – rydym wedi gadael cyfarwyddiadau a thiwtorialau fideo ar y tair tasg gyntaf – mae ein pecyn yn cynnwys saith tasg ddiddorol yn cynnwys dawns, tudalennau lliwio, ysgrifennu syniadau a mwy. LLIWIAU AR Y LLAWR Oedran a Argymhellir 4+ Hyd 10 munud+ Maint grŵp 1+ Gan ddefnyddio unrhyw wrthrych lliw (er enghraifft sbotiau papur, clustogau neu degannau), gorchuddiwch y llawr fel bod gennych amrywiaeth o liwiau a gwrthrychau wedi'u gwasgaru'n hafal. Gallwch droi'r dasg yn her helfa drysor lliwiau cartref os y dymunwch! Unwaith rydych wedi casglu eich gwrthrychau, gwaeddwch ddilyniant o liwiau, ac mae'n rhaid i'ch dawnsiwr daro ar y lliwiau yn y drefn gywir. Mae'r gweithgaredd hwn yn helpu i: Gynhesu'r corff Dysgu a chofio patrymau Dod o hyd i ffyrdd creadigol i symud Archwilio'r man a gwahanol lwybrau Dogfennau i’w lawrlwytho Download the instructions for 'Throw down Colours' here Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau ar gyfer ‘Lliwiau ar y Llawr’ yma CREU'R DARLUN Oedran a argymhellir 5+ Hyd 10 munud+ Maint grŵp 1+ Gan ddefnyddio eich corff, ceisiwch ail-greu darlun o fewn amser penodol, a daliwch y siâp hwnnw. Gallwch ddefnyddio llun neu wrthrych yn y cartref, neu rhowch enghraifft o siâp neu ddarlun. Neu, defnyddiwch eiriau sy'n creu darlun corfforol cyffrous yn eich barn chi. Gallwch greu rai cardiau â'r geiriau arnynt, ac ychwanegu llun ar y diwedd i gefnogi dysgu llythrennedd. Gofynnwch i'r dawnswyr ddewis darlun o'r pecyn. Gallwch hyd yn oed roi'r geiriau mewn bag a'u dewis nhw ar ddull 'Lucky Dip'. Yna, bydd y dawnswyr yn dyfalu'r siâp sy'n cael ei ail-greu! Mae'r gweithgaredd hwn yn helpu i: Adeiladu sgiliau gweithio mewn tîm Dod o hyd i ffyrdd creadigol i ddefnyddio'r corff Datblygu ffocws Ysgrifennu Arlunio Sgiliau motor Dogfennau i’w lawrlwytho Download the instructions for 'Make the Image' here Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau ar gyfer ‘Creu'r Darlun’ yma DAWNS RYGBI Oedran a Argymhellir 4+ Hyd 10 munud+ Maint grŵp 1+ Meddyliwch am y siapiau rydych yn eu gweld ar y cae mewn gêm rygbi. Meddyliwch am y siapiau mae'r chwaraewyr yn eu creu - wrth sgorio cais, taclo, neu'r siapiau eraill rydych yn eu gweld o gwmpas y stadiwm, megis y bêl, y pyst neu'r stadiwm ei hun. Dewiswch bedwar sy'n ddiddorol a chyffrous i chi. Ychwanegwch siapiau sy'n uchel a siapiau rydych yn eu gweld ar y llawr i roi amrywiaeth i'ch dawns! Mae'r gweithgaredd hwn yn helpu i: · Datblygu cof a dilyniant · Dod o hyd i ffyrdd creadigol i ddefnyddio'r corff · Datblygu ffocws · Ysgrifennu · Darlunio · Sgiliau motor Dogfennau i’w lawrlwytho Download the instructions for 'Rugby Dance' here Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau ar gyfer ‘Dawns Rygbi’ yma Mwy o Weithgareddau Os ydych yn chwilio am fwy o weithgareddau, gallwch eu lawrlwytho o’n taflenni gwahanol isod. ARWAIN, CYFFWRDD A DILYN Gweithiwch mewn parau, gydag un person yn arwain a'r llall yn dilyn. Mae'r arweinydd yn cyffwrdd y dilynwr i'w arwain a gwneud iddo symud. Mae'n rhaid i'r dilynwr symud pob rhan o'r corff tuag at yr arweinydd i allu cychwyn symud. PEIRIANNAU Camwch i mewn i'r gwagle a pherfformiwch arwydd ailadroddus, boed ar eich pen eich hun, gyda phartner neu eich teulu. CREU DARLUN Defnyddiwch rai o'r darluniau isod i ail-greu'r hyn rydych yn ei weld, boed ar eich pen eich hun, gyda phartner neu eich teulu. DYLUNIWCH EICH CIT RYGBI EICH HUN Dyluniwyd y citiau yn ‘Rygbi’ gydag atgofion a phersonoliaethau ein dawnswyr unigol. Gan ddefnyddio'r templed a ddarperir isod, crëwch eich cit eich hun. Dogfennau i’w lawrlwytho Design your own rugby kit - blank kit / Dyluniwch eich cit rygbi eich hun – cit clir Dogfennau i’w lawrlwytho Download the instructions for 'Lead, Touch and Follow' here Download the instructions for 'Machines' here Download the instructions for 'Create an Image' here Download the instructions for 'Design your own Rugby Kit' here Dogfennau i’w lawrlwytho Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau ar gyfer ‘Arwain, Cyffwrdd a Dilyn’ yma Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau ar gyfer ‘Peiriannau’ yma Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau ar gyfer ‘Creu Darlun’ yma Lawrlwythwch y cyfarwyddiadau ar gyfer 'Dyluniwch eich cit Rygbi Eich Hun’ yma HER FFILM DDAWNS Her ddawns i roi cynnig arni gartref! Syniadau a sgiliau yn cynnwys: Gwneud ffilm, golygu, creu cerddoriaeth, dawns, ysgrifennu sgript, creadigrwydd a mwy! Rhowch eich cyffyrddiad chi arno. Dogfennau i’w lawrlwytho Dancing Safely Disclaimer