Alys Davies Dawnswyr A hithau’n wreiddiol o Dde Cymru, bu Alys yn hyfforddi yn Tring Park School for the Performing Arts. Graddiodd yn 2016 gydag arbenigedd mewn balet clasurol. Yna symudodd i Bologna, yn yr Eidal i astudio am flwyddyn arall gyda Art Factory International. Yn 2022, cafodd Alys Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol o Brifysgol Middlesex. Mae Alys wedi gweithio’n llawrydd gyda chwmnïau a choreograffwyr fel Compagnia Zappalà Danza, Jones the Dance/Y Ddawns, EQ Dance CO, Dylan Quinn Dance Theatre, Liz Roche, Krystal Lowe ac Anna Watkins. Mae Alys hefyd wedi gweithio ar brosiectau masnachol, fel fideos cerddoriaeth a lluniau ffasiwn, yn dawnsio gyda choreograffwyr fel Matt Walker a Taira Foo. Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi gweithio gyda cherddorion, ysgrifenwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a golygyddion llenyddol. Daeth Alys i CDCCymru gyntaf yn 2022 yn rhan o Laboratori, ac yna eto yn 2023 i berfformio mewn 4x10. Ymunodd Alys â CDCCymru yn 2024, ac mae hi wedi gweithio ar waith gan Matthew William Robinson a Melanie Lane hyd yma. Galeri