gan Thomas Carsley Fan the Flames Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 12 Minutes Mae gweithiwr swyddfa, myfyriwr a hen ddyn unig, sydd wedi diflasu ac sy'n anfodlon â'r byd heddiw, yn dod o hyd i'r cryfder sydd y tu mewn iddynt. Dawns gain, fywiog ac emosiynol. Ceir cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Eric Martin Kamosi. Tîm Creadigol Coreograffydd: Thomas Carsley Goruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn Tudor Dylunio Golau: Geraint Chinnock, Will Lewis Cerddoriaeth: Eric Martin Kamosi Thomas Carsley Yn ddiweddar graddiodd Thomas Carsley o Liverpool Institution for Performing Arts. Dechreuodd goreograffu mwy pan ddechreuodd ei hyfforddiant yn LIPA a daw ei arddull dawns a choreograffi o'r symudiad Cyfoes/Hip Hop sy'n cynnwys arbrofi i fynegi hwyliau'r thema gyfan. Cyrhaeddodd Thomas rownd derfynol Dawnsiwr Ifanc y BBC yn 2019 hefyd a gweithiodd gyda mentoriaid yn cynnwys Ivan Blackstock a Kenrick Sandy. Eric Martin Kamosi Mae Eric Martin Kamosi yn gyfansoddwr a cherddor electronig sy’n chwarae’r gitâr ac yn creu cerddoriaeth werin, roc, concrit, electronig a minimaliaeth, gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau, recordiadau maes a seiniau electronig. Mae wedi cyfansoddi a pherfformio ar gyfer darnau dawns broffesiynol a theatr gorfforol, ac wedi creu gosodiadau cerddorol, dyluniad synau, cerddoriaeth a chyfansoddiadau algorithmig ar gyfer offerynnau byw fel rhan o radd BA (Anrh) ‘Cerddoriaeth a Sain Greadigol’ o Brifysgol De Cymru, a gradd Meistr mewn ‘Cyfansoddi Digidol a Pherfformio’ o Brifysgol Caeredin a Mmus o Guildhall School of Music and Drama. Ar ôl ymgymryd â hyfforddiant cyfansoddi cyfryngau a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y sgrin a theatr fyw, mae Eric yn parhau i ymddiddori mewn gweithio gydag artistiaid o ystod eang o ddisgyblaethau. Galeri