Rhaglan Ddigidol am fersiwn o'r rhaglen hon sy'n gyfeillgar i argraffwyr cliciwch yma Rhaglen Heno -Skinners (30 munud) -Egwyl (20 munud) -August (32 munud) -Sgwrs ar ôl y sioe (15 munud) Cynnwys -Cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Artistig Matthew William Robinson -Cwrdd â'r tîm -Skinners -August -Cefndir Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru -Cefnogwch Ni -Rhowch yw eich barn – cwblhewch ein harolwg -Cadwch mewn Cysylltiad, dilynwch ni neu ymunwch â’n rhestr bostio Croeso i Gorwelion Wrth i'm cyfnod gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) ddirwyn i ben, mae perfformiad heno'n crynhoi'r weledigaeth yr wyf wedi anelu ati'n ddiflino. Gweledigaeth sy'n herio normau sefydledig, sy'n ymgysylltu'n feirniadol â'n byd newidiol, ac sy'n datblygu rôl dawns o fewn y gymdeithas gyfoes. Mae Gorwelion yn ymdrin â'r trawsnewidiadau sylweddol sy'n llunio ein bodolaeth. Bydd heno'n cynnwys dau gomisiwn newydd sy'n troedio'r dirwedd hon: Skinners gan Melanie Lane ac AUGUST, gwaith a grëwyd gennyf i. Mae Skinners yn cwestiynu cymhlethdodau ein hoes ddigidol, gan ein hysgogi ni i ailasesu ein corfforoldeb mewn realiti a gyflwynir yn gynyddol gan brofiadau rhithiol. “Mae AUGUST yn ymdrin â her ansicrwydd ac ymadael, gan ystyried y tensiwn rhwng y person oedden ni a’r person y byddwn ni’n datblygu i fod yn ystod cyfnodau o newid. Nid yw'r gweithiau hyn yn cynnig datrysiadau syml. Yn hytrach, maent yn creu lle ar gyfer myfyrdod beirniadol; fforwm i ystyried sut all cymuned a phrofiadau cyffredin ein tywys ni drwy heriau mwyaf enbyd bywyd. Mewn oes lle mae ymraniad yn nodweddiadol o'n cymdeithas, mae cwmnïau fel CDCCymru yn hanfodol. Rydym yn uno lleisiau ac arferion, er mwyn meithrin sgwrs ystyrlon rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd, gan daflu goleuni ar groestoriadau ein hamrywiol safbwyntiau. Heno, rydym yn eich croesawu chi i mewn i'n byd ac yn edrych ymlaen at glywed eich barn. Ers 2021, rwyf wedi cael yr anrhydedd o arwain y cwmni, gan gydweithio ag ensemble arbennig o artistiaid a gweledyddion. Gyda’n gilydd, rydym wedi creu 14 darn o waith newydd, wedi teithio ar hyd a lled Cymru ac wedi mynd â’n gwaith o Gymru at gynulleidfaoedd yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn Korea, yn yr Almaen, yn Ffrainc, yn Lwcsembwrg ac yn yr Eidal. Diolchaf o galon i bawb sydd wedi cefnogi CDCCymru ar hyd y daith hon. I'r dawnswyr, y tîm a phob un y bûm yn ddigon ffodus o gael gweithio ochr yn ochr â hwy - chi yw canolbwynt y cwmni hwn, ni fyddai'n bodoli heboch. Gyda’n gilydd, rydym wedi troi dychymyg yn realiti. Diolch i'n cynulleidfa a rhanddeiliaid am eich ffydd ynof a'ch cefnogaeth ddiysgog yn ystod fy amser yma. Mae'r cwmni'n edrych tuag at ei Orwel newydd ei hun, ac edrychaf ymlaen at weld beth sy'n dod nesaf gennych chi. Diolch ichi am ymuno â ni. Matthew William Robinson Cyfarwyddwr Artistig Dawnswyr Dysgwch ragor am bob dawnsiwr drwy ymweld â'n tudalen isod cliciwch yma i ddarllen bywgraffiadau ein dawnswyr CYFARWYDDYDD YMARFER Victoria Roberts TÎM TECHNEGOL Geraint Chinnock, James Tomlinson, Harvey Evans, Will Lewis I gwrdd â gweddill tîm Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, cliciwch yma. Skinners Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Rydym yn defnyddio hidlwyr i bylu realiti a rhithffurfiau sy'n cuddio pwy ydyn ni. Rydym yn siarad ag AI, ac mae'n siarad yn ôl gyda ni. Rydym yn gwegian ar ymyl dyfodol cyffrous a brawychus lle mae'r corff dynol yn gwingo rhwng cnawd a rhith, ffaith a ffug. Y tu hwnt i'r ffantasïau a wneir yn bosibl gan dechnoleg, mae ein dynoliaeth yn parhau. Sut ydym yn dychwelyd i'r byd corfforol, ac i'r croen rydym yn byw ynddo? Mae Skinners gan Melanie Lane, coreograffydd o Awstralia o dras Ewropeaidd a Jafanaidd, yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Yamila Rios, dyluniadau gwisgoedd gan Don Aretino a golau gan y dylunydd o Gymru, Ceri James. "Gan dynnu ar ddamcaniaeth ‘Uncanny Valley’, atgynhyrchiad arswydus o'r ffurf ddynol, mae SKINNERS yn ffugiant damcaniaethol sy'n troedio byd lle mae cyrff yn llithro rhwng cnawd a rhith, mythau a delwau." "Rwy'n gobeithio y bydd yn creu lle i bobl freuddwydio a theithio i'r bydoedd rhyfeddol hyn gyda ni, yn ogystal â galluogi iddynt adael â chwestiynau y gallant fyfyrio arnynt drostynt eu hunain a sut ydym yn gweithredu a bodoli yn y byd dryslyd hwn." Tîm Creadigol Coreograffydd: Melanie Lane Cyfansoddwr: Yamila Rios Dylunydd Gwisgoedd: Don Aretino Dylunydd Goleuo: Ceri James Crëwyd â'r Dawnswyr canlynol: Alys Davies, Samuel Gilovitz, Jill Goh, Niamh Keeling, Mario Manara, Edward Myhill a Faye Tan Melanie LaneCoreograffydd a pherfformiwr o Awstralia sydd o dras Jafanaidd/Ewropeaidd yw Melanie Lane. Mae’n gweithio ar draws y celfyddydau gweledol, theatr, cerddoriaeth a ffilm. Mae ei gwaith yn ymdrin â hanes ffisegol a diwylliannol er mwyn archwilio mytholegau cymdeithasol cyfredol, gan eu seilio ar wahanol fathau o ddyfodol swreal sy’n ddryslyd, yn doredig ac wedi’u haildrefnu. Cyflwynwyd y gweithiau annibynnol hyn ledled y byd mewn gwyliau a theatrau yn Ewrop, Indonesia, yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Gan dynnu ar ei thras Ewropeaidd ac Indonesaidd, mae Lane yn symud rhwng tirweddau a dylanwadau diwylliannol. Mae Melanie yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn prosiectau yn Indonesia fel coreograffydd, cydweithredwr, perfformiwr a mentor. Coreograffwr Melanie Lane Cafodd y gwisgoedd yn Skinners gan Don Aretino eu creu drwy rendro dyluniadau a ysbrydolwyd gan ddillad stryd a gemau cyfrifiadur yn ddigidol a'u hargraffu ar wisgoedd gwyn tebyg i gafftanau. Ar gip, mae'r dawnswyr yn ymddangos yn ddau ddimensiwn bron. Mae'r masgiau rhwyllog tryloyw wedi'u creu i fod yn debyg i hidlwyr wyneb ac maent yn ymddangos yn bicseledig, bron fel rhithffurfiau gwingol. Roedd dyluniad unigryw a thechnegau creu patrwm y gwisgoedd yn Skinners yn galluogi iddynt gael eu creu heb adael prin dim toriadau gwastraff ar eu hôl. Gwnaed y lycra a brintiwyd yn ddigidol o bolyester sydd wedi'i ailgylchu 100%, felly mae'n golchi ac yn sychu'n gyflym iawn - gan ei wneud yn hynod ystyriol o'r amgylchedd. Yma gallwch weld rhai o'r brasluniau cychwynnol, nawsfyrddau a rendradau gwisgoedd. Don AretinoMae gwaith Don Aretino, y dylunydd o Berlin sy'n enedigol o Indonesia, yn archwilio'r cydgysylltiad rhwng dyhead o'r un rhyw, crefydd a dadansoddiad cymdeithasol. Mae'n creu'r naratifau hyn drwy gasgliadau beiddgar a fwriadwyd i anesmwytho a chreu dadl sy'n groes i'r norm presennol. Yn ogystal â chreu'r casgliadau hyn, mae Don Aretino hefyd wedi gweithio ar amrywiol brosiectau celfyddydau perfformio fel dylunydd gwisgoedd ynghyd â'i bartner dylunio Muyao Zhang. AUGUST Ysbrydolwyd AUGUST gan fachludau'r haul - lle rhwng ataliaeth ac anfeddylgarwch. Mae AUGUST yn ymwneud â diweddiadau a ffarwelio. Ynghylch y newidiadau sy'n ein taflu ni at ein gilydd ac yn ein gwahanu. Yn lliwiau gwan y gwyll a neon llachar y nos, mae AUGUST yn troedio tirwedd nwydus sy'n symud rhwng y peryglus a'r prydferth. Cydweithrediad artistig rhwng y coreograffydd Matthew William Robinson, y cyfansoddwr Torben Sylvest, y dylunydd George Hampton Wale, y dylunydd goleuo Emma Jones ac artistiaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. “Mae AUGUST yn ymdrin â her ansicrwydd ac ymadael, gan ystyried y tensiwn rhwng y person oedden ni a’r person y byddwn ni’n datblygu i fod yn ystod cyfnodau o newid. Mae wedi’i ysbrydoli gan y cyfnod yn dilyn marwolaeth fy nhad, a’r ffordd y mae’r profiad hwnnw wedi dylanwadu, ac yn parhau i ddylanwadu, ar fy mywyd." Tîm Creadigol Coreograffydd: Matthew William Robinson Cyfansoddwr: Torben Sylvest Dylunydd Gwisgoedd: George Hampton-Wale Dylunydd Goleuo: Emma Jones Crëwyd â'r Dawnswyr canlynol: Alys Davies, Samuel Gilovitz, Jill Goh, Niamh Keeling, Mario Manara, Edward Myhill, Tom O’Gorman a Faye Tan Matthew William Robinson Mae Matthew Robinson (ef/yntau) yn artist gweithredol sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Bydd yn gweithio ar y cyd ag eraill yn rhyngwladol, mewn amrywiaeth o gyd-destunau - fel dawnsiwr, coreograffydd, hwylusydd, cyfarwyddwr ymarferion a chyfarwyddwr artistig, ac ef yw Cyfarwyddwr Artistig presennol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ei waith coreograffi wedi ei gyflwyno'n eang ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, mewn lleoliadau a gwyliau yn Ewrop a thu hwnt. Drwy gyfrwng y corff, mae'r gwaith yn mynd ati i geisio cyfleu gwrthddywediadau ac emosiynau cymhleth, drwy gyfansoddiadau coreograffig hynod gorfforol. Gan gydweithio ar draws ffurfiau, mae Matthew yn rhan o sawl partneriaeth gydweithredol sydd eisoes ar y gweill, a rhai sydd yn yr arfaeth, ym meysydd sain, ffasiwn, theatr a thechnoleg. Coreograffwr Matthew William Robinson George H. Wale Mae George yn artist, dylunydd a gwneuthurwr o'r Fenni. Mae eu hymarfer yn cynnwys cerflunio, perfformio a gwisgoedd ac mae ganddynt gefndir ym maes symudiad a dawns sy'n rhoi dealltwriaeth ar gyfer eu gwaith. Mae gwaith George wedi cael ei lwyfannu gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, g39, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ymysg prosiectau gwisgoedd y gorffennol, mae cydweithrediadau â choreograffwyr fel Mario Bermudez, Matthew Robinson, Fleur Darkin, James Batchelor a Lea Anderson MBE. Amdanom Ni Dawns a grëwyd yng Nghymru, ac a rannwyd gyda’r byd Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dathlu lleisiau unigryw artistiaid o bell ac agos. Rydym yn comisiynu cydweithrediadau artistig sydd â dawns yn eu calonnau. Rydym yn rhannu ein gwaith dawns uchelgeisiol a chreadigol mewn theatrau, mannau cyhoeddus, gwyliau, ac amgylcheddau trochol, er mwyn creu profiadau a pherfformiadau bythgofiadwy. Rydym yn ysgogi pobl i symud drwy feithrin talent a dealltwriaeth, gan alluogi i syniadau newydd gael eu hesblygu a’u datblygu. Dysgu Mwy Cefnogwch Ni Mae rhaglen artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi'i hysgogi gan ymrwymiad i greu gwaith newydd, ysbrydoli artistiaid, datblygu dawn ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau drwy brofiadau dawns o safon uchel sy'n cyfoethogi. Fel elusen, ni allwn gyflawni hyn heb haelioni ein cefnogwyr gwerthfawr – cefnogaeth sydd ei hangen nawr yn fwy nag erioed. Bydd cyfraniad o unrhyw faint yn ein helpu ni i barhau â'n gwaith. Cyfrannwch Yma Arolwg Rydym wrth ein bodd yn clywed gan ein cynulleidfaoedd, mae hyn yn cadw cysylltiad rhyngom. Dywedwch wrthym eich barn am y sioe heno drwy dreulio pum munud yn cwblhau arolwg adborth y gynulleidfa. Fel arall, gallech gwblhau cerdyn post adborth yn y cyntedd a'i bostio i ni'n rhad ac am ddim. Ymunwch â’n rhestr Cadwch mewn Cysylltiad I gael gwybod y newyddion diweddaraf a'r hyn sydd ar y gweill gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, mae modd i chi ein dilyn ni ar Instagram, Facebook neu Linkedin - neu ymunwch â'n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn syth i'ch mewnflwch. Facebook Instagram Linked In Mailing List