blank banner with orange text reading 'skinners'
Melanie Lane

Skinners

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
30 minutes
Yn teithio fel rhan o
two dancers twist together under a strange blue light, there is a red neon line running horizontally across the page behind them

Frontiers | Gorwelion

Hydref 2024

Hydref 2024: Dewch i ddianc i fyd llawn cyffro
Folk image, 2 dancers, 1 leaping into the air

Teithio rhyngwladol

Dysgwch fwy am berfformiadau rhyngwladol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Skinners gan Melanie Lane

Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Rydym yn defnyddio hidlyddion i bylu realiti, a rhithffurfiau i guddio pwy ydym ni. Rydym yn siarad gyda Deallusrwydd Artiffisial, ac mae’r Deallusrwydd hwnnw yn siarad yn ôl gyda ni. Rydym yn gwegian ar ymyl dyfodol gwefreiddiol a dychrynllyd lle mae’r corff dynol yn camweithio rhwng cnawd a rhith, ffaith a ffuglen.

Y tu hwnt i’r ffantasïau a wireddir gan dechnoleg, erys ein dynoliaeth. Sut y gallwn ddychwelyd at y byd go iawn? Sut y gallwn ddychwelyd at ein croen, sy’n rhan annatod ohonom?

Mae Skinners gan Melanie Lane (coreograffydd o Awstralia o darddiad Ewropeaidd a Jafanaidd) yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Yamila Rios, gwisgoedd gan Don Aretino a goleuadau gan y dylunydd Cymreig Ceri James.

Tîm Creadigol

Coreograffwr: Melanie Lane
Cyfansoddwr: Yamila Rios
Dylunio Gwisgoedd: Don Aretino
Dyluniad Goleuo: Ceri James

Creu Gyda: Alys Davies, Samuel Gilovitz, Jill Goh, Niamh Keeling, Mario Manara, Edward Myhill a Faye Tan

Melanie Lane
Coreograffydd a pherfformiwr o Awstralia a chanddi dreftadaeth ddiwylliannol Jafanaidd/Ewropeaidd yw Melanie Lane. Mae’n gweithio ar draws y celfyddydau gweledol, theatr, cerddoriaeth a ffilm. Mae ei gwaith yn ymdrin â hanes ffisegol a diwylliannol er mwyn archwilio mytholegau cymdeithasol cyfredol, gan eu hallosod ar ffurf dyfodol swreal sy’n ddryslyd, yn doredig ac wedi’i ad-drefnu. Cyflwynwyd y gweithiau annibynnol hyn ledled y byd mewn gwyliau a theatrau yn Ewrop, Indonesia, Unol Daleithiau America ac Awstralia. Gan ddefnyddio’i threftadaeth Ewropeaidd ac Indonesaidd, mae Lane yn symud rhwng tirluniau a dylanwadau diwylliannol. Mae Melanie yn ymgysylltu’n rheolaidd ar draws prosiectau yn Indonesia fel coreograffydd, cydweithredwr, perfformiwr a mentor.

Ffoto: Barbara Dietl

Coreograffwr

Melanie Lane

Melanie has long black hair and red lipstick, she stands infront of a lush hedge

Galeri
four dancers support another who is held updside down
two dancers one holding another like a child in the air
a dancer in a strong pose as others watch on
close up of hands supporting hands
two dancers, one topless holds onto the other as if seeking somehthing
Yn mynd ar daith i
Aberhonddu
Theatr Brycheiniog
Dydd Mercher 16 Hydref 2024, 19:30
Drenewydd
Y Hafren
Dydd Sadwrn 26 Hydref 2024, 19:30
Bangor
Pontio
Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024, 19:30
Huddersfield
Lawrence Batley Theatre
Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024, 19:30
Aberystwyth
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024, 19:30