Matthew Robinson NO-SHOW Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 11 munud Roedden nhw’n barod am barti, ond doedd neb arall. Mae dau ffrind yn ceisio difyrru eu hunain wrth iddynt aros i westai eu parti gyrraedd. Disgwyliwch weld dawnsio gwefreiddiol yn agos, yn y gwaith dawns tameidiog hwn gan Matthew Robinson. Tîm Creadigol Danswir: 2 Premiere: Spring 2023 Coreograffydd: Matthew Robinson NDCWales’ Artistic Director Dylunio Gwisgoedd a Golau: Matthew Robinson Cerddoriaeth: Concerto Koln: Concerti a quattro da chiesa, Op. 2 [1712]: Concerto No.1 in D minor: III. Andante, IV. Allegro assai and Concert+o No.4 in A minor: III. Presto by Evaristo Felice Dall'Abaco Coreograffwr Matthew Robinson Matthew Robinson Mae Matthew Robinson yn artist ymarferol sydd wedi gweithio fel dawnsiwr, coreograffydd, hwylusydd, Cyfarwyddwr Ymarferion a Chyfarwyddwr Artistig. Ymunodd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Medi 2021. Am nifer o flynyddoedd roedd yn rhan o Theatr Ddawns yr Alban, yn perfformio gwaith gan ystod o goreograffwyr rhyngwladol gan gynnwys Sharon Eval, Damien Jalet, Hofesh Shechter a Victor Quijada. Yn 2013 cafodd ei wahodd i gymryd cyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Ymarferion, yn cefnogi’r dawnswyr a’r artistiaid gwadd yn eu proses greadigol, a’r cwmni ar sawl taith ryngwladol. Yn 2016 cefodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig VERVE. Wedi’i leoli yn y Northern School of Contemporary Dance, datblygodd y cwmni enw da am gomisiynau beiddgar a hyfforddiant artistig o’r radd flaenaf ar gyfer artistiaid dawns newydd. Gan gydweithio â lleisiau coreograffig byd enwog a ffres, gyda’u gilydd llwyddon nhw i greu rhaglenni dawns unigryw a difyr. Gan gyrraedd miloedd o bobl bob blwyddyn, ar y llwyfan, ar-lein a thrwy waith allgymorth, arweiniodd VERVE am bum mlynedd. Fel artist mae’n ceisio trosglwyddo croesosodiadau a theimladau cymhleth trwy adeiladwaith coreograffi beiddgar a chorfforol sydd â sawl haen emosiynol. Mae’n creu ei waith artistig fy hun mewn cyd-destunau annibynnol, cydweithredol a thrwy gomisiynau. Ei waith diweddaraf, September, yw ei ail gydweithrediad â’r cynhyrchydd cerddoriaeth Torben Lars Sylvest. Mae Matthew yn raddedig o Ysgol Ddawns Fodern Llundain. Galeri