CDCCymru yn Cyflwyno
They Seek to Find the Happiness They Seem
Gan Lee Johnston
Mae They Seek to Find the Happiness They Seem yn archwilio’r gwahanu a’r datgysylltu all ddigwydd mewn perthynas. Mae’n defnyddio darnau wedi’u had-drefnu o ddelweddau o ddiwylliant poblogaidd sy’n cysylltu gyda ni gyd ar lefel isymwybodol.
Cerddoriaeth: Lines On A Page by One Hundred Violins; The Four Seasons: Spring 2 by Vivaldi (recomposed by Max Richter); The Four Seasons: Winter 3 by Vivaldi (recomposed by Max Richter); The Four Seasons: Summer 2 by Vivaldi (recomposed by Max Richter).
Dylunio Golau: Joseff Fletcher
Dylunio Gwisgoedd: Zepur Agopyan
Lee Johnston

“beautifully intimate...heartbreakingly sad”
- Steve Stratford Reviews

“Mae They Seek to Find the Happiness They Seem yn ddarn arbennig i Joe a minnau ac fe’i crëwyd yn ddidrafferth ac yn ddirgel iawn. Ar y pryd, roeddwn wedi fy swyno gan y byd mewnol annealladwy rhwng cyplau ac unigolion. Wedi’i adeiladu o bos jig-so o ddarnau wedi’u had-drefnu o straeon cariad clasurol a phartneriaethau dawns enwog, mae’n canolbwyntio ar thema gwahanu a datgysylltu mewn perthynas. Dewiswyd y deunydd ffynhonnell yn benodol o ddiwylliant poblogaidd, deunydd sy’n rhan o’n hymwybyddiaeth gyfunol ond y gallwn ei gario heb wybod, fel bod rhyng-chwarae rhwng cydnabyddiaeth a’r corf yn llywio’r profiad o wahanu a datgysylltu ymhellach.”
- Lee Johnston


