PULSE | PWLS Rhaglen Ddigidol Noder: Mae disgrifiad sain ar gael ym mob lleoliad - cysylltwch â’r theatr i gael defnyddio clustffonau, neu gallwch lawrlwytho ffeil MP3 i’w chwarae ar eich ffôn drwy eich clustffonau eich hun Disgrifiad Sain Heno, byddwn yn rhannu dwy o’n creadigaethau diweddaraf, sef Waltz a Say Something. Yn Waltz gan Marcos Morau, daw’r dawnswyr i’r golwg gan ddisgleirio mewn golau llachar. Fel cerfluniau symudol, maent yn eich gwahodd i chwilio am ystyr mewn byd cythryblus a dryslyd. Mae trac sain Waltz yn awgrymu bod hon “yn walts sy’n meddwl am ein cyrff, yr hyn maen nhw’n ei olygu o ran ein hachubiaeth”. Efallai fod Waltz yn cynnig cyfle inni feddwl amdanom ein hunain, am eraill, am ein byd, ac am bopeth sy’n ein clymu ac yn ein gwahanu. Yn Say Something gan Sarah Golding ac Yukiko Masui (SAY), caiff yr holl synau a glywch eu gwneud gan leisiau’r anhygoel MCZani a Dean Yhnell. Caiff angerdd heintus yr artistiaid dros gerddoriaeth ei blethu trwy’r gwaith hwn. Mae Say Something yn ein hatgoffa mai trwy symud i sŵn cerddoriaeth, ble bynnag y bo hynny’n digwydd, y gallwn wneud synnwyr o’r byd. Mae PWLS yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei rannu, rhythm sydd gyda ni drwy gydol ein hoes. Mae’n ffordd o fesur amser, mae’n rhythm cyfnewidiol sy’n ymateb i’r byd o’n hamgylch. Heno, bydd PWLS yn llenwi’r gwagle o’ch cwmpas. Rydym yn eich gwahodd i wrando ar yr hyn y mae hynny yn ei ysbrydoli ynoch chi. Does dim ffordd iawn na ffordd anghywir: eich profiad chi, yr hyn rydych yn ei ddychmygu, yn ei deimlo ac yn ei feddwl – dyna sy’n bwysig heno. Un agwedd yn unig yw PWLS ar y dawnsio rydym yn ei greu ac yn ei rannu â phobl ledled Cymru a’r byd. O ddawnsio gyda phobl sy’n byw â Parkinson’s i ysbrydoli pobl ifanc i roi cynnig ar ddawnsio drostynt eu hunain, rydym yn dawnsio er mwyn galluogi pobl i fynegi syniadau sydd y tu hwnt i eiriau. Os ydych chithau hefyd yn danbaid dros ddawnsio, ymunwch â ni yma. Diolch am ddewis treulio amser gyda ni a phawb arall o’ch cwmpas heno. Beth am symud, gyda’n gilydd. Diolch o galon i Gyngor Celfyddydau Cymru ac ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am gefnogi PWLS, fel rhan o’u buddsoddiad yn NAWR i gydnabod 40 mlynedd ers ein sefydlu. Diolch hefyd i’n cefnogwyr Lifft – rydym yn gwerthfawrogi’n fawr. Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Y Drefn: Waltz gan Marcos Morau: 30 munud Egwyl: 20 munud Say Something gan Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY): 31 munud Ar 9 a 21 Tachwedd, cynhelir trafodaeth â chymorth BSL yn dilyn y perfformiad (ar ôl saib byr): 15 munud CWRDD Â DDAWNSWYR Tîm Cynhyrchu Tîm Technegol: Geraint Chinnock, David Enos, Harvey Evans, Will Lewis Cyfarwyddwr Artistig: Matthew Robinson Cynyrchydd Gweithredol: Chris Ricketts Cyfarwyddyr Ymarfer: Victoria Robinson Prif Weithredwr: Paul Kaynes a Tîm CDCCymru Waltz gan Marcos Morau Coreograffydd: Marcos Morau Cynorthwywyr Coreograffig: Valentin Goniot and Marina Rodriguez Cerddoriaeth: Valse Triste, Op 44. gan Jean Sibelius. Suspirium gan Thom Yorke Crawler gan Holly Herndon Pneuma gan Caterina Barbieri Sound Design: Marcos Morau Lighting Design: Bernat Jansà Goruchwyliwr Gwisgoedd a Gwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu Gwneuthurwr Gwisgoedd: Daniel Thatcher Rhaglennydd Goleuo: Will Lewis INSIDE Waltz Gwyliwch fideo ‘tu ôl i’r llenni’ lle mae’r dawnswyr Ed a Jill yn siarad am y broses greu "Music has always been a great source of inspiration. Of any genre and any age, they always talk about me at different times, I like to listen to music while doing anything. Waltzes have always evoked in me a character of partying, of power, historical context, reasons for celebration, elevation, protocol, ritual, conventions… I have placed the waltz in various contexts, put the waltz in crisis, to such an extent that the waltz has stopped playing, they have left remains, ashes from another time, ashes tinged with the luxury of the halls where the waltz began to be heard." Marcos Morau Marcos Morau Rhwng Barcelona ac Efrog Newydd, astudiodd Marcos Morau ffotograffiaeth, symudiad a theatr. Mae’n adeiladu bydoedd a thirweddau dychmygol lle mae symudiad a darlun yn cwrdd ac yn amlygu ei gilydd. Ers dros ddeng mlynedd, mae Marcos yn rhedeg La Veronal, fel cyfarwyddwr, coreograffydd, a dylunydd set, golau a gwisgoedd. Teithiodd y byd yn cyflwyno ei weithiau mewn gwyliau, theatrau a chyd-destunau rhyngwladol. Ar wahân i’w waith gyda La Veronal, mae Marcos Morau yn artist gwahoddedig ar gyfer cwmnïau a theatrau amrywiol er mwyn datblygu creadigaethau newydd, sydd wastad hanner ffordd rhwng celfyddyd olygfaol a dawns, gyda sylw arbennig i ddramäwriaeth. Fel y Dyfarniad Dawns Genedlaethol ieuengaf yn Sbaen, mae ei iaith yn rhan o dreftadaeth, o symudiad haniaethol a theatr gorfforol, wedi’u cymysgu ynghyd mewn cyfuniad swrrealaidd a thywyll. Iaith corff rymus a seilir yn nifodiant unrhyw resymeg organig, gan ddadelfennu symudiad a’i wneud yn hunaniaeth unigryw. Ffoto: Albert Pons Say Something gan Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY) Mae Say Something yn ystyried beth mae’n ei olygu i ‘gynrychioli’, a’r disgwyliad cynyddol i gael llais. Gan weithio gyda’r bîtbocswyr MC Zani a Dean Yhnell, mae’r gwaith hwn yn wledd gorfforol, weledol a sonig diflino. Cerddoriaeth: MC Zani, Dean Yhnell Dylunio Gwisgoedd: George Hampton Wale Dyluniad Goleuo: Joshie Harriette Gwneuthurwr Gwisgoedd: George Hampton Wale, Deryn Tudor and Octavia Austin Bîtbocsiwr (Bangor, Llundain, Caerdydd): Dean Yhnell INSIDE Say Something Gwyliwch fideo ‘tu ôl i’r llenni’ lle mae Sarah ac Yukiko yn siarad am y broses greu "Music was the catalyst of our collaboration. It is always at the forefront of our work. We've always had a passion for performing live with musicians so we are thrilled that we can bring Beatboxer Beat Technique(Dean) into "Say Something" to perform live in some venues" SAY dance SAY Yn syml, acronym am Sarah Golding a Yukiko Masui yw SAY. Bu’r ddau artist dawns hyn yn perfformio a chreu yn rhyngwladol ers 2012. Yn 2019, daeth Sarah ac Yuki â’u grymoedd deinamig at ei gilydd a ffurfio cyfuniad lle gwnaethant ddatblygu eu brwdfrydedd am ‘greu’ dawnsfeydd i ganeuon a cherddoriaeth newydd yr oeddent yn syml yn mwynhau bownsio iddynt. Mae SAY yn ymfalchïo mewn cynnwys cerddoriaeth artistiaid maent yn gweithio â hwy yn eu proses greadigol. Mae’n bwysig bod cydweithrediad gonest yn digwydd rhwng y ddwy ffurf o gelfyddyd i greu synergedd cyfan rhwng cerddoriaeth a dawns er mwyn cyflwyno cynulleidfaoedd newydd i ddawns gyfoes. Mae gwaith coreograffig Sarah yn cynnwys Balletboyz (y cyflwyniad) Royal Court, TrinityLaban, Mountview (As You Like It, Children of Eden, Candide). Yn ddiweddar gweithiodd am y tro cyntaf yn y West End fel cyfarwyddwr symudiadau ar gyfer y ddrama hynod lwyddiannus, Cruise. Mae gwaith coreograffig Yuki’n cynnwys Norrdans, London School for Contempoary Dance, London Studio Centre, Northern School of Contemporary Dance and Ballet Boyz (R&D). Comisiynwyd ei gweithiau gan The Place, DanceXchange, Riley Theatre, Norrlands Opera ymhlith eraill, a theithiwyd hwy’n ogystal. Mae hi hefyd wedi coreograffu sioeau cerdd a chynyrchiadau theatr megis A Little Night Music (Story House), GUY: A New Musical (Bunker Theatre) a Miss Julie (Southwark Playhouse). Ffoto: Henry Curtis Dillad “Dillad awyr agored a dillad chwaraeon y 90au sydd wedi ysbrydoli’r gwisgoedd. Meddyliwch am grwpiau merched fel TLC, ffilmiau fel Clueless a dillad sgïo’r 90au. Caiff y gwisgoedd eu gwneud o ffabrigau technegol – neilonau anodd eu rhwygo, deunyddiau rhag y glaw a deunyddiau jersi – ffabrigau sy’n dwyn i gof allu’r corff i symud ac sydd hefyd yn amddiffyn y corff. Ymhellach, mae’r ffabrigau’n dwyn i gof dechnolegau analog fel parasiwtiau neu farcutiaid i gyfleu rhyw fath o ryddid a’r syniad o fynd ar antur. Mae gan bob dawnsiwr ei bryd a’i wedd arbennig ei hun i gyfleu ei bersona. Ar y cyfan, mae’r amlinell yn llac, ac mewn gwrthgyferbyniad ceir topiau tynn yma ac acw, fel rhyw fath o deyrnged i TLC. Mae’r lleoliad yn amwys – nid ydym yn siŵr a ydynt yn yr awyr agored, dan do, yn y gofod, yn y môr. Mae yna gyfeiriad amlwg at y 90au, ond ceir elfen esthetig ddyfodolaidd hefyd. Mae’r palet lliwiau’n gymysgedd o wyrdd llachar, pinc golau a thri arlliw o lwyd – mae’r lliwiau hyn i gyd bron â bod yn lliwiau pastel, ond maent hefyd yn lliwiau llachar a dwys. O’r herwydd, mae modd i’r lliwiau newid i raddau helaeth dan y goleuadau.” George Hampton Wale - Dylunio Gwisgoedd Goleuo “Mae’r goleuadau’n newid ac yn esblygu’n barhaus, nid ydynt byth yn llonydd, maent fel pe baent yn berfformiwr yn eu rhinwedd eu hunain, yn anadlu, yn newid ac yn pylsio lliwiau drwy’r adeg. Mae’r llawr gwyn yn helpu i gyfleu bod y goleuadau’n cael eu paentio ar y llawr; ceir ymdeimlad o le dyfodolaidd, gwagle sy’n cael ei archwilio. Mae’r goleuadau’n ceisio cyfoethogi presenoldeb corfforol a chysylltiad y dawnswyr, yn ogystal â’u hemosiwn ar y llwyfan. Caiff y lliwiau eu gwrthgyferbynnu a’u hasio i greu cydbwysed. Pinc a Glas, Gwyrdd a Melyn, Glas a Gwyrddlas, Glas a Melyngoch, Melyngoch a Phinc.” Joshie Hariette - Dyluniad Goleuo Os oes gennych 5 munud i'w sbario, byddem wrth ein bodd yn clywed mwy o'ch meddyliau Llewi'r Arolwg a Ymunwch â’n rhestr Diolch am brynu tocyn a chefnogi Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Nid oes yn rhaid i’r stori ddod i ben yn y fan hon… Gallwch barhau i chwarae eich rhan trwy ddod yn Gefnogwr Lifft. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni ein cynulleidfaoedd er mwyn ein helpu i barhau i gyflwyno gwaith artistig, llawn dychymyg mewn ffyrdd beiddgar ac athrylithgar ar draws graddfeydd, mannau a lleoliadau. Rydym yn cynnwys pobl mewn cyfleoedd cyfranogol a chreadigol, rydym yn datblygu doniau ac yn galluogi artistiaid i gyflawni eu dyheadau unigryw eu hunain. Am gyn lleied â £2.50 y mis, gallwch ymuno â chymuned sy’n credu yng ngallu dawns i gyfoethogi bywydau. Ymunwch â Lifft heddiw PULSE | PWLS is supported by: