Cronfa Ddiwylliannol Weston Sefydliad Garfield Weston yn dyfarnu grant i CDCCymru Rydym yn falch iawn fod Sefydliad Garfield Weston wedi dyfarnu grant i ni, fel rhan o Gronfa Ddiwylliannol Weston, a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Mae dros 100 o sefydliadau diwylliannol ledled y DU wedi derbyn dros £30 miliwn gan geisiadau, gyda'r cyfanswm yn cyrraedd dros £128 miliwn. Mae'r gronfa'n ceisio cefnogi'r sector i ailgychwyn ei waith, adnewyddu gweithgareddau ac ail-ddenu cynulleidfaoedd ar ôl bod ar gau yn dilyn Covid-19. Bydd y grant o £155,862 yn darparu cymorth hanfodol i'n helpu ni ddarparu ein taith theatr ac awyr agored eleni, a galluogi ein lleoliadau i gynnal rhaglenni dawns eto, a dod â llawenydd a phŵer iachaol y gelfyddyd i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru. Byddwn yn gweithio gyda'n lleoliadau i fonitro effaith Covid-19, cyflwyno cyfleoedd cyfranogi gan Lysgenhadon Dawns CDCCymru er mwyn cynnal a datblygu cysylltiadau gyda chymunedau ym mhob cwr o Gymru. Dywedodd ein Prif Swyddog Gweithredu, Paul Kaynes, 'Mae'r cymorth a'r hyder hwn yn ein gwaith gan Sefydliad Garfield Weston yn rhoi hwb gwerthfawr i ddarparu rhaglenni eleni, a chyflwyno dawns i bobl wahanol mewn lleoedd gwahanol. Bydd Cronfa Ddiwylliannol Weston yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar ein hadferiad, ac i gefnogi eraill, yn dilyn effaith ddinistriol Covid-19 ar y celfyddydau'n gyffredinol.'