CDCCymru yn Cyflwyno LANSIO Noson Dawns Ieuenctid Mae LANSIO yn creu llwyfan cynhwysol i bobl ifanc yng Nghymru fynegi eu hunain a’u gweledigaeth ar gyfer dawns. Bydd yn noson gyffrous sy’n datgelu dyfodol dawns, ac mae LANSIO yn noson o ddathlu artistiaid ifanc cyffrous sydd wrth eu bodd yn symud. Bydd yn noson gyffrous sy’n datgelu dyfodol dawns yn Gymru. Mae LANSIO yn creu llwyfan cynhwysol i bobl ifanc fynegi eu hunain a’u gweledigaeth ar gyfer dawns. Disgwyliwch ddawns bwerus, emosiynol fydd yn archwilio themâu a materion sy’n bwysig i’r artistiaid ifanc cyffrous sydd yn rhan o’r cyfan, gan ddathlu eu mwynhad o symud. Eleni bydd CDCCymru yn gwahodd grŵp i berfformio gydag Aelodau Ifanc CDCCymru, i greu noson sy’n ymgorffori Dawns Ieuenctid yng Nghymru. Mae Lansio yn gyfle i grwpiau dawns ar draws Cymru berfformio mewn lleoliad proffesiynol. Ymgeisiwch gyda’ch darn yn barod i’w berfformio am hyd at 10 munud. Mae’n bosib eich bod wedi perfformio eich darn yn barod, neu eich bod newydd fod yn ei ymarfer, neu mae’n bosib y byddech chi am greu rhywbeth newydd yn arbennig ar gyfer Lansio. Bydd grwpiau sy’n cael eu dewis yn gweithio gyda dylunydd goleuo i orffen eich gwaith ac yna’n perfformio ochr yn ochr â grwpiau dawns i gynulleidfa fyw mewn dwy sioe. Mae ceisiadau ar gyfer 2024 bellach wedi cau Galeri