Deunydd Tundra Marcus Morau a P.A.R.A.D.E. Marc Rees i gael eu darlledu ar-lein ym mis Tachwedd Bydd cyfle i gynulleidfaoedd ar draws y DU weld fersiwn newydd ffres o Parade gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru sydd wrth wraidd cynhyrchiad epic Marc Rees, P.A.R.A.D.E., a bydd uchafbwyntiau’n cael eu darlledu ar BBC Four ar Dachwedd y 5ed am 10.40pm. Cynhyrchiad newydd gan Caroline Finn, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Marc Rees yw P.A.R.A.D.E., fydd yn cael ei ddarlledu ar y sianel, diolch i gomisiwn gan The Space, asiantaeth ddatblygu a gefnogir gan y BBC a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Bydd y rhaglen yn cynnwys rhannau allweddol o P.A.R.A.D.E. Marc Rees - sioe ysblennydd o gerddoriaeth, dawns, theatr a chyfraniad cymunedol a berfformiwyd yn ac o gwmpas Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, fel rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant Chwyldro Rwsia. Ysbrydolwyd y fersiwn newydd o Parade ar gyfer Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gan y bale radical gwreiddiol, a berfformiwyd gyntaf gan Ballet Russes Serge Diaghilev yn 1917, ac a grëwyd gan grŵp dethol o artistiaid Ewropeaidd byd enwog - Erik Satie, Jean Cocteau, Leonide Massine a Pablo Picasso. Roedd Parade yn gwyrdroi nifer o gonfensiynau’r gelfyddyd; ffair a strydoedd cyffredin Paris oedd y lleoliad, ac roedd y cymeriadau’n cynnwys clowniau, acrobatiaid, bwytawyr tân, a pherfformwyr carnifal er mwyn denu cynulleidfa; ysbrydolwyd y sgôr cerddorol gan gerddoriaeth y neuaddau cerdd, ragtime a ffeiriau; roedd offerynnau'r gerddorfa’n cynnwys teipiadur, gwn, seiren, poteli llaeth a chorn niwl; ac roedd gwisgoedd rhai o’r dawnswyr wedi eu gwneud o gardfwrdd. Mae’r fersiwn fodern o’r Parade gwreiddiol fydd yn cael ei darlledu ar BBC Four yn cynnwys sgôr gerddorol fyw - yn cynnwys pob un o offerynnau anhygoel Satie - wedi eu chwarae gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a bydd uchafbwyntiau o’r digwyddiad tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru, gyda galwad i’r gad mewn rali wleidyddol yn paratoi’r ffordd ar gyfer y digwyddiadau ar y llwyfan. Josie d’Arby sy’n cyflwyno’r darllediad teledu 30 munud. Yn ddiweddarach ym mis Tachwedd bydd modd i wylwyr ar-lein weld mwy o’r digwyddiadau a gymerodd le o gwmpas Canolfan y Mileniwm a darganfod mwy am y cynhyrchiad gwreiddiol a’i fersiwn newydd ffres, ynghyd â darn Marcos Morau ar gyfer y cwmni - Tundra. Dywedodd Caroline Finn, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: “Parade oedd un o’r cynyrchiadau mwyaf arloesol a chwyldroadol a lwyfannwyd erioed. Yn ymdrin â bywyd bob dydd pobl gyffredin, ac wedi ei berfformio gyntaf yn 1917, mae’r bale hwn yn parhau i gynrychioli galar pobl am gysylltiad ystyrlon â bywyd wrth i fecaneiddio daflu cysgod cynyddol ar ein bywydau. Ganrif yn ddiweddarach ers ei dechreuad oedd yn sbarduno terfysg, roeddwn i eisiau dod â ni’n ôl at yr hyn mae Parade yn ei wneud mor dda; ysbryd creadigol arloesol gydag islais o orthrwm; a’r cyfan ar gefndir swrrealaidd gyda thro dystopaidd a chyfoes Cymreig.” Dywedodd Marc Rees, crëwr P.A.R.A.D.E.: “Mae fy holl waith yn ymateb i bobl a lle ac ar gyfer Parade roeddwn i eisiau archwilio lleoliad Canolfan Mileniwm Cymru. Gan ddefnyddio R17 fel llwyfan, hwn oedd ein cyfle i greu fersiwn fodern o Parade sydd yr un mor berthnasol ac atseiniol yn awr ag yr oedd gan mlynedd yn ôl; yn sioc i’r synhwyrau ac yn sbarduno chwyldro, ond drwy gyfrwng y celfyddydau, diwylliant a mynegiant creadigol.” Dywedodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: “Rydym wrth ein boddau fod cynulleidfaoedd yn cael cyfle i brofi’r digwyddiad anhygoel hwn ar-lein, a bod The Space wedi’n galluogi i gofnodi P.A.R.A.D.E. Mae hwn wedi bod yn brosiect artistig ar y cyd cyffroes rhwng Cwmni Theatr Cenedlaethol Cymru, Marc Rees, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Rubicon Dance, Pure Evil a nifer o artistiaid cyffroes sydd wedi gweithio ar y prosiect uchelgeisiol hwn sy’n torri tir newydd.” Dywedodd Fiona Morris, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Creadigol The Space: Mae The Space yn falch iawn o gael gweithio gyda Chwmni Theatr Genedlaethol Cymru a llu o bartneriaid creadigol Cymreig eraill i sicrhau fod y digwyddiad hanesyddol arwyddocaol hwn yn cael ei ddathlu a’i gyflwyno i gynulleidfaoedd o gwmpas y DU a thu hwnt.”