Faye Tan Dawnswyr Rwy'n dod o Singapore a chefais fy hyfforddi yn Singapore Ballet Academy, School of The Arts Singapore, Rambert School a VERVE (Cwmni perfformio ôl-raddedig y Northern School of Contemporary Dance). Roeddwn yn ddawnsiwr cwmni yn Frontier Danceland (Singapore) am dair blynedd, cyn ymuno â CDCCymru yn haf 2019. Rwyf wedi perfformio gwaith gan amrywiaeth o goreograffwyr, gan gynnwys Shahar Binyamini, Marcos Morau, Alexandra Waierstall, Caroline Finn, Andrea Costanzo Martini, Anton Lachky, Nigel Charnock a Richard Chappell. Rwyf wedi creu ffilmiau dawns sydd wedi cael eu dangos mewn gwyliau ffilm yn y DU ac yn Singapore, ac rwyf wedi cael fy nghomisiynu i goreograffu gwaith ar gyfer School of The Arts Singapore, Frontier Danecland, CDCCymru, VERVE, Rambert School a The Centre for Advanced Training. Mae fy ngwaith addysgol a gwaith allgymorth yn y maes dawns yn cynnwys hwyluso rhaglenni hyfforddiant ieuenctid fel rhaglen Pulse Frontier Danceland, a rhaglen Aelodau Cyswllt CDCCymru, yn ogystal â chymryd rhan mewn gwaith ymgysylltiad cymunedol gyda Richard Chappell Dance. faye-tan.com Galeri Llun gan: Kirsten Mcternan, Elywel Photography, Jorge Lizalde, Iolo Penri, Riccardo Giori Byrfyfyrio unigol Mabon gan Osian Meilir Waltz gan Marcos Morau Skinners gan Melanie Lane Wild Thoughts gan Andrea Costanzo Martini Rygbi gan Fearghus Ó Conchúir Lunatic gan Nigel Charnock