5 dancers in a row with their arms in the air in circles
CDCCymru yn Cyflwyno

Dream

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
22 minutes

Mae Dream gan y dewin Christopher Bruce CBE yn ddarn dawns calonogol, swynol a hiraethus wedi’i ysbrydoli gan ddyddiau chwaraeon yn yr ysgol gynt a phartïon stryd Jiwbilî.

Mae'r goleuadau sepia a gwisgoedd 'fintej' y 1950au yn bwrw'n ôl i ddyddiau dathliadau'r Jiwbilî a ffeiriau haf. Mae Dream wedi'i osod i Bolero and Lent, Ravel, symudiad olaf Valses Nobles et Sentimentales ac yn gorffen gyda'r ail symudiad o Penillion gan y cyfansoddwr Cymreig Grace Williams.

Crëwyd Dream yn wreiddiol yn 2012 ar gyfer yr Olympiad diwylliannol ac fe'i perfformiwyd fel rhan o GB Dance – sy'n dangos y ddawns orau o bob cwr o Gymru, Lloegr a'r Alban.

Derbyniodd Dream gymeradwyaeth ledled y byd, ac rydym mor falch cael dod â hi yn ôl i'r llwyfan digidol, ar adeg pan fo llawenydd mor bwysig. 

Llun: Andy Ross

Tîm Creadigol

Coreograffi: Christopher Bruce CBE

Cerddoriaeth: Last movement from ‘Valses Nobles et Sentimentales - Lent’ and ‘Bolero’ by Ravel; 2nd movement from “Penillion” by Grace Williams

Dylunio: Christopher Bruce CBE

Y Cynllun Goleuo: Guy Hoare

Gwireddu a Chreu Gwisgoedd : Nia Thomson and Angharad Spencer

Dawnswyr:  Lee Johnston, Eleesha Drennan, Annabeth Berkeley, Neus Gil Cortés, Gareth Mole, Josef Perou, Matteo Marfoglia, Camille Giraudeau, Naomi Tadevossian, Nicholas Bodych  

Llun Headshot: Mark Bruce

 

Coreograffwr

Christopher Bruce CBE

Christopher Bruce headshot

Ysgrifennodd y coreograffydd Christopher Bruce CBE yn ei nodiadau rhaglen gwreiddiol, "Gyda Gemau Olympaidd 2012 yn digwydd yn ystod blwyddyn Jiwbilî'r Frenhines, cefais fy hun yn meddwl yn ôl i bartis stryd dathliadol y 1950au cynnar.

Mae llawer o debygrwydd rhwng hyfforddiant athletwyr a dawnswyr, ond gyda phob cystadleuydd a pherfformiwr mae'n dechrau gyda breuddwyd y mae'n rhaid iddyn nhw weithio'n galed i'w gwireddu. Felly, mae'n cydnabod dau ddigwyddiad pwysig ym mywyd Prydain, Gemau Olympaidd 2012 a'r Jiwbilî. Fodd bynnag, mae'n ddathliad o bleser pur symudiad hynod gorfforol yn ei holl ffurfiau."

Mae'r goleuadau sepia a gwisgoedd 'fintej' y 1950au yn bwrw'n ôl i ddyddiau dathliadau'r Jiwbilî a ffeiriau haf. Mae Dream wedi'i osod i Bolero and Lent, Ravel, symudiad olaf Valses Nobles et Sentimentales ac yn gorffen gyda'r ail symudiad o Penillion gan y cyfansoddwr Cymreig Grace Williams.

Crëwyd Dream yn wreiddiol yn 2012 fel rhan o GB Dance – sy'n dangos y ddawns orau o bob cwr o Gymru, Lloegr a'r Alban. Aeth ymlaen i deithio ledled y DU yn 2012 cyn ymweld â Tsieina yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyswllt, Lee Johnston, a oedd yn ddawnsiwr gyda CDCCymru yn Dream yn 2012, "Roedd Dream yn bleser pur i’w berfformio, wrth i Folero Ravel ddatblygu, felly hefyd y wefr ddofn ymysg y dawnswyr a’r gynulleidfa – gallem deimlo pawb yn dawnsio pob eiliad gyda ni wrth i ni garlamu o nofio i rwyfo i dennis, gan ragweld pryd y byddai chwerthin a chymeradwyaeth yn tanio ac yn atseinio drwy’r awditoriwm. Rydym mor falch o’i gyflwyno i’r llwyfan digidol, i nodi’r achlysur pryd y byddai’r Gemau Olympaidd wedi cael eu cynnal, gan gynnig y profiad dawns Olympaidd ysgogol hwn ar adeg pan mae  ychydig o lawendd yn hanfodol”.

Adolygiadau

Dream evokes the visceral Olympic rush without losing sight of the ordinary men and women behind it.
The Guardian

Intimate, human and funny
The Guardian

"Dream ... simultaneously take[s] the breath away of the audience with its playful exuberance"
Buzz Magazine

"a delightful piece of balletic Alan Bennett-ese...comedy and deft dancing"
The Arts Desk