Artistiaid wedi’u cadarnhau ar gyfer cyfres ffilmiau byrion gydweithredol Tŷ Cerdd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Thŷ Cerdd yn gwneud pum ffilm fer gan gydweithio â chrewyr cerddoriaeth ac artistiaid dawns sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, mewn cyfres o’r enw plethu: affricerdd. Mae Tŷ Cerdd wedi comisiynu pum crëwr cerddoriaeth o dras Affricanaidd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, fel rhan o fenter gydweithredol â Phanel Cynghori’r Is-Sahara. Mae’r ffilmiau’n rhan o affricerdd, un o geinciau Tapestri, menter newydd (a ariennir gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru) i greu archif gerddorol fyw o bobl, ieithoedd a chymunedau Cymru. Yn ôl Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Gwefr arbennig i ni yw cydweithio â CDCCymru ar Plethu:affricerdd. Mae prosiect Plethu CDCC gyda Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth ac mae’r cyfle i greu partneriaeth newydd rhwng crewyr cerddoriaeth ac artistiaid dawns yn cynnig gorwelion artistig newydd bendigedig. Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi’r parau – mi wyddon ni’n ddi-os y bydd y canlyniadau’n plesio.” Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi comisiynu’r pum artist dawns o unrhyw ddisgyblaeth i gydweithio â’r pum crëwr cerddoriaeth hyn i wneud ffilmiau byrion neu fideos cerddoriaeth gwreiddiol. Hyd yma cafwyd 15 o ffilmiau Plethu y gellir eu gwylio am ddim ar yr hyb digidol ar wefan CDCCymru. “Rydyn ni wrth ein boddau cydweithio â Thŷ Cerdd ar Plethu: affricerdd, esblygiad pellach yn y prosiect Plethu sydd erbyn hyn yn paru artistiaid dawns â chrewyr cerddoriaeth. Mae prosiectau â chydweithredu’n ganolog iddynt yn rhan o’m huchelgais a’m gweledigaeth i CDCCymru ac mi ydw i’n edrych ymlaen at weld canlyniad y partneriaethau hyn ar draws ffurfiau ar gelfyddyd yn y pum ffilm newydd.” Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig, CDCCymru. Rhyddheir y ffilmiau rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2022. Dilynwch @ndcwales a @TyCerdd_org am y dyddiadau rhyddhau. Y pum partneriaeth Plethu: affricerdd yw: Idrissa Camara ac Eric Martin Kamosi Gitarydd a cherddor electronig yw’r crëwr cerddoriaeth Eric Martin Kamosi sy’n creu cerddoriaeth werin, roc, diriaethol, electronig a minimalaidd gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau, recordiadau maes a synau electronig. Hyfforddodd Idrissa o oedran ifanc gyda’r enwog Fale Bassikolo du Guinee. Ef fu’r prif goreograffydd gyda llawer o gwmnïau dawns blaenllaw yng Ngini a Senegal ac yn arloeswr wrth ddysgu’r ddawns i’r rhai sydd â nam ar eu clyw yng Nghwmni Theatr Weledol y Gymdeithas Genedlaethol Chwaraeon a Diwylliant i’r Byddar. June Campbell Davies a Seun Babatola (A.K.A Mista B) Cerddor, awdur geiriau a rapiwr sy’n gymdeithasol effro yw A.K.A Mista B. Amrywiai ei chwaeth gerddorol o frêc-bît i fetel i drip-hop ac mae’n credu yn y bôn mai dim ond haenen sgleiniog yw genre. Dawnswraig, coreograffydd ac artist carnifal o Gaerdydd yw June. Mae hi hefyd wedi gweithio’n gydweithredol fel cantores ac artist sain ar sawl albwm yn ogystal â bod yn ymgynghorydd ac yn hwylusydd gyda Charnifal Butetown. Kitsch n Sync ac E11ICE Hunan arall yw E11ICE y gantores a rapwraig amlgenre a aned yng Nghernyw ac sy’n byw yng Nghaerdydd, Thalia Ellice Richardson. Yn cyfuno alawon a geiriau meddylgar ar lifau grymus, mae cerddoriaeth E11ICE yn adlewyrchu ei siwrnai drwy bob dydd gan wneud y cyffredin yn anghyffredin. Gan dynnu ysbrydoliaeth o bopeth sy’n retro, vintage a rhyfeddol o wirion, mae rhywun yn nabod menter gydweithredol Kitsch & Sync yn syth wrth eu brand arloesol o theatr ddawns hynod a difyr. Rosanna Carless a Sizwe Chitiyo Wedi’i eni yn Harare, Zimbabwe, canwr, rapiwr a chyfansoddwr caneuon 23 oed yw Sizwe ‘SZWÉ’ Chitiyo sy’n byw yn ne Cymru. Ar ôl dechrau ei yrfa gerddorol yn broffesiynol 4 blynedd yn ôl, byddai Sizwe yn chwarae setiau acwstig o gwmpas Cymru cyn mentro i gynhyrchu electronig 3 blynedd yn ôl. Maged Rosanna yn Aberystwyth cyn symud i Fryste ac, yn y pen draw, Lundain lle y syrthiodd mewn cariad â dawns y stryd a brêcin. Ar ôl ymuno â sawl criw dawns y stryd, bu Rozanna yn brwydro fel B-girl unigol mewn digwyddiadau a chonfensiynau gan ennill y trydydd lle yn ‘Criw Dawns y Stryd Gorau Llundain’. Ers hynny mae Rosanna wedi gweithio gyda chwmnïau fel HSBC a Sony yn ogystal â chydag artistiaid cerddorol fel Giggs, STylo G a Wiley. Gundija Zandersona a Jeferson Lobo Wedi’i eni ym Mrasil, cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd yw Jefferson Lobo sy’n byw yng Nghaerdydd. Gwahoddiad yw ei gerddoriaeth i fyd o bosibiliadau sonig anrhagweladwy: cytseiniau melys wedi’u cyfuno ag alawon llyfn a ffraeth sy’n ffurfio sylfaen ei bair cerddorol, gyda phinsiad o gerddoriaeth jazz, gerddorfaol, Ladin, reggae, ddyfodolaidd a cherddoriaeth fyd. Perfformwraig, coreograffydd ac addysgwraig o Latfia yw Gundija Zandersona sy’n byw yng Nghaerdydd. Fel cyfarwyddwr gweithredol i Kokoro Arts Cyf. ac artist dawns annibynnol, mae’n gweithio ar draws amrywiaeth o genres gan gynnwys gwaith i deuluoedd a chynulleidfaoedd ifainc, testun llafar a symudiad, theatr gorfforol a dawns gyfoes.