Marcos Morau Waltz Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 30 munud Waltz gan Marcos Morau Mae waltz atgofus yn chwarae yn y pellter. Allan o’r lludw daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig. Os wnaethoch chi fwynhau byd coreograffig trydanol Tundra yn 2017, mae hwn yn gyfle arall i brofi gwaith gan Marcos Morau, y coreograffydd arloesol o Sbaen. Yn teithio fel rhan o Surge | Gwefr Medi-Tachwedd Darganfyddwch dri byd newydd sy’n ymestyn o chwedloniaeth hynafol i ffuglen wyddonol ddyfodolaidd. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich trawsgludo drwy stori, amser a lle gyda’r triawd o ddawnsfeydd hudolus a chynllunio hyfryd. Gwybod mwy Tocynnau Tîm Creadigol Hyd: 30 minutes Dawnswyr: 9 Premiere: Spring 2023Coreograffydd: Marcos MorauCynorthwywyr Coreograffwyr: Valentin Goniot and Marina Rodriguez Cerddoriaeth: Valse Triste, Op 44. (Berlin Philharmonic) gan Jean Sibelius.Suspirium gan Thom YorkeCrawler gan Holly Herndon.Pneuma gan Caterina Barbieri Goruchwyliwr Gwisgoedd a Gwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine ChiuGwneuthurwr Gwisgoedd: Danial ThatcherRhaglennydd Goleuo: Will Lewis Ffoto: Albert Pons Coreograffwr Marcos Morau Adolygiadau “utterly compelling” “striking visuals and visceral physicality” "dazzling" The Times “remarkable unison” “endlessly inventive” “it’s rare in dance to feel totally intrigued by what might happen next”The Observer “meticulously drilled" “eye-catching". “mysterious, other-worldly" Culture Whisper Marcos Morau A hwnnw wedi’i hyfforddi rhwng Valencia, Barcelona ac Efrog Newydd mewn ffotograffi, symud a theatr, mae Marcos Morau (Valencia,1982) yn adeiladu bydoedd a thirweddau dychmygol gyda golwg glir ar gyfoesedd. Cafodd ei enwi’n Farchog Urdd y Celfyddydau a Llythrennau (‘Knight of the Order of Arts and Letters’) yn 2023 gan Weinyddiaeth Celfyddydau Ffrainc, a’i ddewis fel coreograffydd gorau’r flwyddyn yn 2023 gan y cylchgrawn Almaenaidd nodedig Tanz. Mae Marcos Morau yn dal i ddatblygu o safbwynt artistig, a chanddo yrfa arbennig iawn fel coreograffydd a chyfarwyddwr llwyfan. Ers 2004, mae o wedi cyfarwyddo La Veronal, sydd wedi dod yn un o’r cwmnïau dawns amlycaf ym myd dawns yn Ewrop, ac yn 2013, derbyniodd y Wobr Ddawns Genedlaethol gan Weinyddiaeth Diwylliant Sbaen. Mae La Veronal, sydd wedi’i ganmol gan feirniaid rhyngwladol ac yn enillydd sawl gwobr, wedi dangos ei sioeau yn y theatrau a’r gwyliau gorau, mewn mwy na thri deg o wledydd: sef y Théâtre National de Chaillot ym Mharis, y Biennale di Venezia, y Festival d'Avignon, Tanz Im August ym Merlin, Festival RomaEuropa, SIDance Festival yn Seoul, Sadler's Wells yn Llundain neu Danse Danse Montreal, ymhlith sawl un arall. Yn ogystal â’i waith parhaus gyda La Veronal, mae Marcos Morau yn artist gwadd mewn sawl cwmni a theatr ledled y byd, lle bydd yn datblygu creadigaethau newydd, a hynny bob amser hanner ffordd rhwng y celfyddydau perfformio a dawns: sef y Nederlands Dans Theater, Ballet de l’Opéra de Lyon, Les Grands Ballets Canadiens, Bale Brenhinol Denmarc neu Fale Brenhinol Fflandrys, ymhlith sawl un arall. Ers 2023, mae’n artist cyswllt yn y Staatsballet Berlin, y Nederlands Dans Theater a’r Triennale Milano. Mae dyfodol Morau a La Veronal yn mynd ar drywydd fformatau ac ieithoedd newydd, lle mae opera, dawns a theatr gorfforol yn ymblethu’n nes nag erioed, gan geisio dulliau newydd o fynegi pethau a chyfathrebu yn y byd sydd ohoni, sydd bob amser yn gythryblus a newidiol Galeri
Surge | Gwefr Medi-Tachwedd Darganfyddwch dri byd newydd sy’n ymestyn o chwedloniaeth hynafol i ffuglen wyddonol ddyfodolaidd. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich trawsgludo drwy stori, amser a lle gyda’r triawd o ddawnsfeydd hudolus a chynllunio hyfryd. Gwybod mwy Tocynnau