Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i berfformio i 80,000 yn Stade de France Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn rhoi adloniant i dorf o 80,000 o bobl yn Stade de France ddydd Sadwrn 18 Mawrth, pan fydd Cymru yn herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth Guinness Rygbi’r Chwe Gwlad. Bydd CDCCymru yn perfformio hanner amser yn y stadiwm fel rhan o flwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023 Llywodraeth Cymru. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n perfformio rhan fach o ‘Say Something’, gwaith dawns diweddaraf y Cwmni gan y coreograffwyr Sarah Golding ac Yukiko Masui (SAY), i fît bocsio byw gan Dean Yhnell (Beat Technique) o Dredegar. Mae 'Say Something' yn dathlu llawenydd symudiad ac yn archwilio’r disgwyliadau cynyddol i gael llais. Mae’r gwaith newydd hwn yn rhan o daith arfaethedig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, PWLS, sy’n agor ym Mangor ar 23 Mawrth. Dywedodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru: “Mae hwn yn gyfle gwych i rannu ein hoffter o ddawns ac i gyfleu holl egni Cymru gyfoes gyda thorf enfawr ym Mharis. Daethom ar draws Dean Yhnell ym Mhenrhys yn Rhondda Cynon Taf, lle mae’n un o brif artistiaid y prosiect cydweithredol Above & Beyond yr ydym yn ei hwyluso. P’un ai yw ym Mhenrhys neu Baris, rydym eisiau rhannu gweledigaeth o Gymru fel cenedl sy’n ddiwylliannol gysylltiedig, sy’n awyddus i roi adloniant i bobl ac i ysbrydoli.” Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Rwyf wrth fy modd bod Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ein cynorthwyo i lansio’r flwyddyn Cymru yn Ffrainc, fydd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad ar draws y celfyddydau, addysg, chwaraeon a busnes.“ “Mae CDCCymru yn arddangos Cymru gyfoes, amrywiol a chelfyddydol wych i’r byd. “Hoffwn ddiolch i’n partneriaid Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru a Ffrainc sydd wedi gweithio gyda ni i gynorthwyo’r gweithgaredd hwn.”