CDDCymru: NOW|NAWR Rydym wedi cael 16 mis anhygoel Rydym wedi cael 16 mis anhygoel yn rhannu NAWR: gwaith tymor ein pen-blwydd yn 40. Gallwch weld ychydig o’n hanes! CDCCymru yn cyhoeddi rhaglen o waith ar gyfer 22/23 o’r enw NOW | NAWR, yn cynnwys: PARTi – prosiect cyd-greu ar gyfer dawnswyr CDCCymru ac aelodau o gymunedau Ystradgynlais a Rhydaman; taith Wanwyn dros y DU, yn cynnwys gwaith newydd gan Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY), dau bît-bocsiwr yn cynnwys Dean Yhnell, artistiaid ffasiwn a dylunio golau a dawnswyr CDCCymru, yn ogystal â Waltz Marcos Morau, a gaiff ei pherfformio yn y DU am y tro cyntaf; 4x10; pedwar darn newydd 10 munud o hyd yr un, wedi’u creu gan artistiaid o Gymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn cynnwys Cydymeithion Artistig newydd CDCCymru June Campbell-Davies ac Osian Meilir, comisiwn newydd gan Daisy Howell a gwaith wedi’i berfformio gan Gydymeithion Ifanc CDCCymru wedi’i goreograffu gan Matthew Robinson; Prosiect cydweithio newydd, rhyngwladol gyda Korean National Contemporary Dance Company (KNCDC), wedi’i leoli yn Ne Corea; a gwaith erioed cyntaf y cwmni ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd, wedi’i goreograffu gan Lea Anderson MBE.