Rhagor o gyfleoedd i deuluoedd weld y talentog Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio ei sioe ddawns ddychmygus, hwyliog a gwallgof, Zoetrope, yng Nghaerdydd ym mis Ebrill. Ar ôl ei hymddangosiad gyntaf un ym mis Rhagfyr, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio ei sioe ddawns deuluol, Zoetrope, i ragor o deuluoedd ym mis Ebrill yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Mae’r profiad teuluol hudol hwn yn cyfuno holl ddifyrwch y ffair gydag acrobateg a dawns, er mwyn archwilio ystyr bywyd, cychwyniad y byd ffilm, a’r hyn sy’n ein denu at hud a lledrith. Syniad y coreograffydd enwog Lea Anderson MBE oedd Zoeptrope a bu’n gweithio gyda’r dawnswyr talentog o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn 2023 i greu sioe gyntaf un y cwmni yn arbennig i deuluoedd. Mae'r coreograffydd arloesol enwog, Lea Anderson yn cael ei dathlu am ei gwaith creadigol gwreiddiol sy’n gwneud dawns yn fwy hygyrch a chynhwysol i gynulleidfaoedd, sef y rheswm y’i dyfarnwyd â MBE yn 2006. Dechreuodd ysbrydoliaeth Lea ar gyfer Zoetrope yn ystod ei chyfnod preswyl yn Amgueddfa Ffilm Bill Douglas, lle cafodd ei swyno gan ddyfeisiau animeiddio cyn-ffilmio fel soetropau – a elwir hefyd yn 'Olwynion Bywyd'. I ddod â'r syniadau hynny i'r llwyfan, mae Lea yn gweithio gyda'r dylunydd Simon Vincenzi i greu cast o greaduriaid gwych o wahanol gyfnodau yn hanes esblygiad gyda gwisgoedd yn seiliedig ar y darluniau du a gwyn a ddefnyddir mewn peiriannau söetrop. Mae'r cast yn newid gwisg ar y llwyfan, gyda gwisgoedd beiddgar sy'n cynrychioli esblygiad dyn yr holl ffordd o'r gell gyntaf, i fadfallod a masgiau mwnci i benwisgoedd wedi'u hysbrydoli gan atomau ac yn y pen draw i fysedd esgyrnog hir a phennau sgerbwd lle mae'r olwyn fywyd honno’n dod i ben, cyn dechrau eto. Lea oedd cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig cwmnïau Cholmondeleys a The Featherstonehaughs a sefydlwyd yn y 1980au. Ers hynny, mae wedi teithio'n helaeth ledled y DU a thramor. Roedd y cwmnïau’n adnabyddus am eu gwaith arloesol mewn mannau a lleoliadau nad ydynt yn rhai theatrig – fel y gwelodd rhai rhieni ac efallai rhai neiniau a theidiau ar hyd a lled Caerdydd a De Cymru fwy na dau ddegawd yn ôl. "Dydw i ddim yn siarad i lawr gyda phobl iau, oherwydd maen nhw’n union fel fi. Rwyf bob amser yn creu gwaith yr hoffwn i ei weld ... Mae rhywbeth ynddo i bawb... Rwyf wedi ceisio gwneud rhywbeth sy'n agored iawn a llawn hwyl". Bydd Zoetrope yn cael ei pherfformio ar un noson sef nos Wener 26 Ebrill ac un prynhawn sef dydd Sadwrn 27 Ebrill. Nid perfformiad yn unig yw Zoetrope: i deuluoedd ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill am 2:30pm bydd diwrnod o hwyl am ddim i’r teulu gyda gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal cyn y perfformiad yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru. Gellir mynychu’r Diwrnod Hwyl i'r Teulu ar thema Zoetrope yn rhad ac am ddim gyda thocynnau a brynwyd ar gyfer y sioe, lle all plant wneud eu söetrop eu hunain, dysgu sut i jyglo, rhoi cynnig ar ddawnsio rhuban a dysgu cyfres o symudiadau o'r sioe hyd yn oed, cyn mwynhau'r perfformiad gyda'i gilydd. Bydd rhieni hefyd yn cael gallu cael taflenni gweithgareddau hwyliog ac amrywiol am Zoetrope i'w cwblhau gartref, a bydd ysgolion yn cael cynlluniau gwersi hyblyg arbenigol sy'n ymgorffori pynciau amrywiol fel gwyddoniaeth a chelf, yn ogystal â dawns, sydd bellach yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Cymru. "Zoetrope yw'r wledd berffaith i'r teulu," meddai Maris Lyons, Cynhyrchydd Ymgysylltu CDCCymru. “Mae’r hyn yr ydym yn ei gynnig yn ymestyn y tu hwnt i'r sioe, gyda gweithgareddau am ddim i'r teulu yn digwydd drwy'r prynhawn yn y Tŷ Dawns. I deuluoedd sydd eisiau dawnsio, rydym yn cynnig sesiwn ddawns deuluol am ddim lle byddwch yn gallu dysgu rhywfaint o'r coreograffi o'r sioe. Mae'r awr hon o hwyl dawns ar gyfer pob oedran a lefel ffitrwydd. Rydym hefyd yn cynnig cyfle i aelodau'r gynulleidfa roi cynnig ar wneud eu Söetrop eu hunain hefyd, felly os ydych yn mwynhau celf a chrefft, yna mae hwn yn gyfle gwych i chi wneud rhywbeth a mynd ag ef adref!” Bydd Zoetrope yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd rhwng 26 a 27 Ebrill. Pris tocynnau yw £12 a £6 i rai dan 26 oed. Cefnogir Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae gwybodaeth Archebu’r Swyddfa Docynnau i’w chael yn https://zoetrope.my.canva.site/