Dancers with Parkinson's dancing together - screenshot from 'Reflections'

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn lansio ffilm ddawns newydd - Reflections.

Mae Reflections yn ffilm deimladwy a dyrchafol gyda dawnsio gan gyfranogwyr rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson's CDCCymru. Mae'r ffilm bellach ar gael i’w gwylio ar-lein, ynghyd â rhaglen ddogfen fer.

Y ffilm yw’r enghraifft orau o ymrwymiad parhaus Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i wneud dawns ar gyfer pawb, a phob gallu; gan fod ganddi'r pŵer i wella lles meddyliol a chorfforol.

Cafodd y ffilm Reflections ei chreu eleni mewn ymateb i  Afterimage, darn o ddawns hudolus gan Fernando Melo a aeth ar daith fel rhan o Awakening, taith CDCCymru yn 2019. Paratôdd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru Fearghus Ó Conchúir goreograffi’r ffilm mewn dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson's y gwanwyn hwn gyda’r arweinwyr dosbarth Yvette C Halfhide a Helen Woods. Cafodd y darn ei ffilmio a'i olygu gan y gwneuthurwr ffilm Jonathan Dunn.

Wrth drafod y ffilm dywedodd Fearghus:

“Gall pob math o bobl symud, maen nhw'n symud mewn gwahanol ffyrdd, maen nhw'n dod â gwahanol wybodaeth, gwahanol fathau o gyrff a phrofiadau, ond i mi, mae creadigrwydd yn ffordd i helpu hynny i fod yn weladwy, i ddangos sut y gall dawns fod yn wahanol... Mae wedi bod yn bwysig adeiladu coreograffi, a ffordd o weithio a allai edrych ar ôl, parchu a choleddu unigoliaeth yr holl wahanol bobl sy'n cymryd rhan ac mae hynny'n golygu ar eu dyddiau da, ac ar y diwrnodau sydd ddim mor hawdd iddyn nhw."

Roedd Afterimage yn ddarn o ddawns a oedd yn defnyddio drychau enfawr fel y gallai gwrthrychau ymddangos a diflannu’n fyw ar y llwyfan. Ysbrydolwyd y set gan rith o’r enw Pepper’s Ghost. Roedd y ddawns yn cynnwys coreograffi wedi'i dynnu gan ddefnyddio sgwrs wedi'i recordio fel rhythm ar gyfer symud.

Ar gyfer y ffilm Reflections, defnyddiodd Fearghus y syniadau hyn gyda'r dawnswyr a chreu coreograffi a ffilm sy'n siarad am y cof, hel atgofion, colled, aduniad, cyfeillgarwch a chariad. 

Dywedodd Wendy, un o'r cyfranogwyr “Nid yn unig ydych chi'n gweld pobl eraill sydd â chlefyd Parkinson's, ond rydym ni i gyd yn chwerthin, ac mae'n hyfryd gwybod y gallwch chi i gyd chwerthin er bod gennych y salwch ofnadwy yma, rydych chi eisiau dal i fynd, nid yw bywyd ar ben.”

Gallwch wylio’r ffilm a’r rhaglen ddogfen fer yn eu cyfanrwydd ar-lein nawr ar wefan Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

 

_______________________________________________

Mewn Partneriaeth â Bale Cenedlaethol Lloegr (ENB), mae dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson's Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ffordd hwyliog ac anffurfiol i ddarganfod themâu ein darnau dawns.

Profwyd bod Dawnsio ar gyfer Parkinson's yn cefnogi pobl â Parkinson’s i fagu hyder a chryfder, gan leddfu dros dro symptomau ym mywyd bob dydd rhai o'r cyfranogwyr. Mae'r dosbarthiadau’n fynegiadol, yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s.

Mae rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson’s ENB wedi bod yn rhedeg ers 2008 ac mae’n rhan o aelodaeth Dance for PD, i gefnogi'r Bartneriaeth Dawnsio ar gyfer Parkinson's a People Dancing ac i gael cysylltiad â Parkinson’s UK. Mae gan raglen genedlaethol Dawnsio ar gyfer Parkinson’s ENB gysylltiadau agos â Parkinson’s UK a Chymdeithas Clefyd Parkinson's Ewrop (EPDA).

 

Mae'r cwmni'n creu gwaith arloesol gyda phob math o bobl, ac ar eu cyfer, mewn bob math o wahanol lefydd, gan helpu i ddangos sut gallem fod yn unigol neu gyda'n gilydd.   Mae’r cwmni’n cyflwyno ei waith mewn gwahanol fformatau a chyd-destunau ledled Cymru a ledled y byd, gan gomisiynu coreograffwyr yn bennaf nad ydynt wedi cael eu comisiynu yn y DU eto.

Wedi'i sefydlu yn 1983 fel Diversions, ymgymerodd y cwmni â phreswyliad yn 2004 yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru. Ystyrir y Tŷ Dawns yn un o'r cyfleusterau cynhyrchu ac ymarfer dawns gorau yn Ewrop ac mae'n gartref ac yn ganolfan ddawns ar gyfer datblygiad proffesiynol a magu talent dawnsio yng Nghymru. Ymunodd Fearghus Ó Conchúir â'r cwmni fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Hydref 2018.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gofrestredig fel Cwmni Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419 ac yn Elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227.