Dawns i bawb & NDCwales logo

Mae Dawns i Bawb yn falch iawn o gyhoeddi datblygiad menter Dawns Ieuenctid newydd mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Mae Dawns i Bawb yn falch iawn o gyhoeddi datblygiad menter Dawns Ieuenctid newydd mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Bydd y datblygiad hwn yn ychwanegiad cyffrous i'n darpariaeth dawns ar gyfer dawnswyr
ifanc 11-25 oed ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Trwy sefydlu ‘Cwmni Dawns Ieuenctid Gogledd Orllewin Cymru’ byddwn yn ceisio cynnig y canlynol i ddawnswyr ifanc yr ardal.

- Darparu llwybr blaengar o ddatblygu sgiliau dawns ar gyfer y dawnswyr ifanc sy'n dymuno derbyn hyfforddiant uwch mewn techneg dawns, coreograffi a pherfformiad.

- Gweithdai misol gyda Llysgenhadon Dawns Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
ar gyfer Gogledd Cymru.

- Cyfleoedd perfformio gyda Dawns i Bawb a Cwmni Dawns Cenhedlaethol Cymru

- Cefnogaeth i ddawnswyr ifanc sydd yn ystyried dawns fel gyrfa.

Bydd y Cwmni yn cyfarfod yn fisol yn Llandudno ac yn cychwyn drwy greu gwaith ar gyfer perfformio digwyddiad 'codi llen' ar gyfer perfformiad Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Galeri, Caernarfon ar 26 Tachwedd. Bydd y cwmni ieuenctid yn agored i bob person ifanc ledled Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau a'u profiadau dawns.

Dywedodd Catherine Young, Cyfarwyddwr Artistig Dawns i Bawb:
"Rwy'n falch iawn fod Dawns i Bawb yn cael y cyfle i weithio ochr yn ochr â'n Cwmni Dawns Cenedlaethol i ddatblygu cyfleoedd i ddawnswyr ifanc ledled Gogledd Orllewin Cymru. Mae angen nodi o fewn y maes hwn ychydig iawn o gyfleoedd blaengar sydd ar gael i artistiaid dawns ifanc. Mae angen inni yn y dyfodol agos ystyried sut yr ydym yn cefnogi ac yn meithrin y rhai a allai ystyried dawns fel gyrfa."


Dywedodd Fearghus Ó Conchúir, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru:
“Mae llwyddiant dawns yng Nghymru yn dibynnu ar lawer o wahanol sefydliadau yn cydweithio. Felly, mae CDCCymru yn hapus iawn i gydweithio â Dawns i Bawb i gefnogi'r fenter hon sy'n creu cyfleoedd newydd ar gyfer datblygu talent dawns yng Ngogledd Orllewin Cymru. Bydd y fenter o fudd arbennig i'r rhai sydd â diddordeb mewn llwybrau gyrfaoedd dawns ac rwy'n falch y gallwn chwarae ein rhan, gyda Dawns i Bawb, wrth gefnogi pobl i gyflawni eu potensial."

 

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith arloesol gyda pob math o bobl, ac ar eu cyfer, mewn pob math o leoedd, gan helpu i ddangos sut y gallem fod yn unigol a gyda'n gilydd. Mae'r cwmni yn cyflwyno ei waith mewn cyd-destunau a fformatau gwahanol ar draws Cymru a ledled y byd, gan gomisiynu'n bennaf goreograffwyr nad ydynt wedi'u comisiynu yn y DU o'r blaen. Mae CDCCymru yn ymrwymedig i weithio gyda phobl ifanc, y bydd llawer ohonynt yn profi dawns gyfoes am y tro cyntaf, i ddatblygu gwerthfawrogiad o ddawns trwy wylio, cymryd rhan a sôn am ddawns.Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi'i gofrestru fel Cwmni Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr Rhif 1672419 ac mae wedi'i gofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr Rhif 326227. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.


Mae Dawns i Bawb yn sefyliad dawns yn y gymuned i Ogledd-Orllewin Cymru. Ein nôd yw bod ein gwaith yn ysbrydoli pobl o bob oed a gallu. Rydym yn cydweithio a chreu gyda pobl lleol, ac ymarferwyr dawns, coreograffwyr a chwmniau proffesiynol ac amatur. Credwn y gall pawb ddawnsio ac ymdrechu i hyrwyddo manteision dawns i'n cymunedau o fewn cyd-destun twf personol, iechyd a lles cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a chymunedol a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae Dawns i Bawb wedi’i gofrestru fel Cwmni Cyfyngedig Rhif. 05412315 a fel elusen Rhif. 1109455, ac yn derbyn cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chynghorau Sir Gwynedd, Conwy ac Ynys- Môn