Freelance Taskforce support from NDCWales, Groundwork and Rubicon Dance Er mwyn cefnogi artistiaid dawns llawrydd yng Nghymru, mae Rubicon a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi arwyddo'r llythyr isod, ac wedi ymrwymo i dalu artist llawrydd i fod yn rhan o'u 'gweithlu llawrydd theatr a pherfformio'r DU'. Bu i Groundwork gychwyn y rhaglen gyda Rubicon a CDCCymru. Mae Groundwork yn cefnogi 'dawnswyr, symudwyr a gwneuthurwyr ar draws Cymru'. Bu i Groundwork, Rubicon a CDCCymru gytuno i ddyrannu'r cyllid fel a ganlyn: Bydd Deborah Light a Zosia Jo, aelodau o dîm Groundwork, yn rhannu'r rôl a ddarperir gan Rubicon. Cynigiwyd y rôl gan CDCCymru, drwy wahoddiad, i artistiaid dawns o etifeddiaeth wahanol/lliw. Ar ôl dangos diddordeb bu i Krystal S. Lowe ac Anthony Matsena gael eu dewis i gyflawni'r rôl. Bydd y 4 gweithiwr llawrydd hyn yn cael eu talu cyfanswm o £175 y dydd am 6.5 diwrnod. Bydd ganddynt ryddid i gyflawni'r rôl mewn modd sy'n briodol iddynt, ac yn gofalu am y gymuned lawrydd maent yn gyfrifol amdani'n unig, nid oes disgwyl iddynt gynrychioli Rubicon neu CDCCymru. Gobeithir y bydd aelodau o dîm Groundwork a gweithwyr llawrydd eraill yn gweithio gyda'i gilydd i atgyfnerthu lleisiau artistiaid dawns amrywiol yng Nghymru. Bydd Groundwork yn gwahodd a thalu pobl amgen i ychwanegu eu lleisiau yn y broses hon drwy eu rhaglen o weithgaredd, ac mae CDCCymru wedi cyfrannu arian ychwanegol i gefnogi'r ymgynghoriad ehangach hwn. Dechreuwyd y tasglu hwn gan FUEL ac mae dros 100 o sefydliadau’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gefnogi gweithiwr llawrydd i fod yn rhan ohono. Nod y Tasglu Llawrydd hwn yw cryfhau dylanwad cymuned hunangyflogedig y theatr a pherfformio. Bydd yn creu cysylltiadau parhaus rhwng gweithwyr llawrydd, sefydliadau, cyllidwyr a’r llywodraeth ac yn cryfhau llais yr hunangyflogedig yn y sgyrsiau ynglŷn â sut ydym yn rheoli’r ymateb i’r argyfwng Covid-19, ac yn mynd ati gyda’r broses adfer, yn sector y celfyddydau perfformio.