dancers in wide, strong stances hold helmets over their heads, stretching up towards a dramatic spotlight

Technegydd Lleoliad a Theithio

Deadline Date
24/11/2025 - 12:00

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Dechnegydd aml-fedrus i ddarparu cefnogaeth dechnegol i'r cwmni wrth greu a pherfformio gwaith yn y Tŷ Dawns, ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol, ac mewn lleoliadau eraill, yn ogystal a ddarparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer llogiadau allanol yn y Tŷ Dawns.

Pecyn Swydd

Cynyrchiadau

Amdanom ni

Deadline Date
24/11/2025 - 12:00

Rôl y Technegydd Lleoliad a Theithio

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn croesawu lleisiau unigryw artistiaid o bob cwr agos a pell. Rydym yn comisiynu cydweithrediadau artistig beiddgar gyda dawns yn ganolog iddynt. Rydym yn rhannu dawns llawn uchelgais a dychymyg mewn theatrau, mannau cyhoeddus, gwyliau a lleoliadau trochiadol. Rydym yn ysbrydoli pawb i symud drwy feithrin talent a mewnwelediad, gan alluogi syniadau newydd i ddod i'r amlwg ac i ddatblygu.

Mae CDCCymru yn chwilio am berson brwdfrydig ac egniol sy’n rhannu ein hangerdd dros ddawns ac sy’n gallu ein cefnogi i greu profiadau perfformio byw bythgofiadwy yng Nghymru, yn y DU ac yn Rhyngwladol.

 

Mae'r Technegydd Lleoliad a Theithio yn adrodd i'r Pennaeth Cynhyrchu ac yn cynnig cefnogaeth yn y meusydd canlynol:

  • Cynnig cefnogaeth dechnegol i Goreograffwyr, Dylunwyr a'r Tîm Cynhyrchu wrth gynhyrchu a chreu gwaith newydd/ail-lwyfannu gwaith blaenorol.
  • Teithio ein gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gymryd rôl flaenllaw yn llwytho mewn, osod a llwytho mas ein gwaith a gweithredu’r system Goleuo/Sain yn ystod perfformiadau.
  • Cefnogi'r Pennaeth Cynhyrchu gyda rhedeg y Tŷ Dawns fel Lleoliad Perfformio.

Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, a gan ein bod eisiau adlewyrchu'r gymdeithas lle rydym yn byw a gweithio, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl b/Byddar ac anabl ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

dancer under pink confetti

Prif Nod: Darparu cefnogaeth dechnegol i'r cwmni wrth iddynt creu a pherfformio gwaith yn yTŷ Dawns, ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol, ac mewn lleoliadau eraill, yn ogystal a ddarparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer llogiadau allanol yn y Tŷ Dawns.

Yn adrodd i: Pennaeth Cynhyrchu

Lle Gwaith: Y Tŷ Dawns/Ar daith

Math o Gytundeb: Cytundeb Oriau Blynyddol yn seiliedig ar 3 diwrnod yr wythnos

Cyflog: £30,349 Pro rata ( £18,209pa)

Dyddiad cau: 24 November 12.00yh

Prif Gyfrifoldebau

Cynhyrchu

  • Cyflawni y rôl Trydanwr Cynhyrchu pan fod angen
  • Cynorthwyo Dylunwyr Golau gyda rhaglennu goleuo
  • Gweithredu’r system goleuo / sain yn ystod perfformiadau a digwyddiadau
  • Cefnogi y Pennaeth Cynhyrchu gyda gofynion gweinyddol technegol a chynhyrchu
  • Sicrhau bod cofnodion cywir a priodol yn cael eu gwneud ac eu cadw yn ystod cyfnod ymarfer

Teithio

  • Teithio gwaith y cwmni yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Cynorthwyo gyda llwytho mewn, gosod a llwytho mas ein holl gynhyrchiadau fel y pennir gan y Pennaeth Cynhyrchu
  • Gweithredu’r system goleuo / sain yn ystod perfformiadau a digwyddiadau ar daith
  • Cynorthwyo gyda newidiadau cyn-sioe ac yn yr egwyl (gan gynnwys newidiadau set) ar daith
  • Arwain y gwaith o rigio, ffocysu a raglennu offer goleuo / sain ar daith
  • Cynorthwyo gyda gosod a gweithredu elfennau technegol eraill
  • Cynorthwyo’r Pennaeth Cynhyrchu i greu cynlluniau goleuo a chynlluniau dogfennol
  • Cynorthwyo gyda goruchwyliaeth criw
  • Cadw a chynnal offer technegol tra ar daith

Adeilad

  • Cefnogi rigio, ffocysu a rhaglennu offer goleuo a sain a ddefnyddir yn Tŷ Dawns gan CDCCymru neu gan gwmnïau allanol
  • Cynorthwyo gyda gosod a gweithredu elfennau technegol eraill megis “flys”, set a llwyfan a ddefnyddir yn Tŷ Dawns gan CDCCymru neu gan gwmnïau allanol
  • Cefnogi gweithgareddau yn y Tŷ Dawns gan cwmnïau allanol, gan weithredu fel Trydanwr ar ddyletswydd yn ystod perfformiadau a digwyddiadau
  • Cynorthwyo gyda’r goruchwyliaeth o griw dros dro, fel y bo angen
  • Cynorthwyo gyda profion blynyddol o fewn yr adeilad megis LOLER COSHH a PAT
  • Cynorthwyo gyda chynnal yr offer goleuo a offer technegol
  • Sicrhau bod pob ardal wedi ei chadw’n glir ac yn daclus, gan ddatrys neu riportio unrhyw faterion i’r Pennaeth Cynhyrchu
  • Cynorthwyo’r Pennaeth Cynhyrchu gyda’r rhedeg â chynhaliaeth yr uned storio

Cyffredinol

  • Darllen a deall cynlluniau goleuo, Gwybodaeth Technegol a dogfennau eraill
  • Mynd i gyfarfodydd cynhyrchu, cyfarfodydd cwmni a cyfarfodydd adrannol fel y bo angen
  • Sicrhau bod polisïau Iechyd a Diogelwch CDCCymru a Asesiadau Risg yn cael eu dilyn
  • Dirprwyo dros y Pennaeth Cynhyrchu yn ôl yr angen
  • Chwarae rhan weithredol i ddatblygu, hyrwyddo a gweithredu polisïau CDCCymru gan gynnwys dwyieithrwydd, gwrth-hiliaeth, gwrth-orerth, cynrychiolaeth, mynediad, cynaliadwyedd amgylcheddol ac iechyd a diogelwch

Manyleb Personol

Ni ddylai ymgeiswyr gael eu rhwystro rhag ymgeisio os nad ydynt yn dangos cymhwysedd ym mhob un o’r meysydd isod. Byddem yn disgwyl i ymgeiswyr allu dangos peth cymhwysedd mewn y rhan fwyaf o’r meysydd hyn:

  • Sgiliau da mewn rigio, ffocysu a chynnal lanternau
  • Cyfforddus wrth weithio ar uchder
  • Profiad o ddefnyddio a gweithredu consolau goleuo ETC
  • Profiad theatrig blaenorol neu profiad teithio gyda chynyrchiadau
  • Gwybodaeth am gynnal offer trydanol a profion PAT
  • Profiad o weithio gyda dylunwyr goleuo a gyda gweithwyr creadigol eraill
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd Dylunio Cynorthwyol Cyfrifiadur (CAD)
  • Profiad gydag agweddau technegol eraill mewn theatr megis offer hedfan (“flying”), sain a fideo
  • Y gallu i yrru faniau neu gerbydau mwy
  • Mae hyfforddiant o weithio ar uchder a trwydded IPAF yn ddymunol, er bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu
  • Y gallu i ymateb i broblemau’n greadigol, heb ffws ac mewn modd positif
  • Agwedd agored a hyblyg, parod i ddysgu a datblygu sgiliau newydd
  • Gweithiwr tîm rhagorol sydd â allu i weithio i amserlen penodol
  • Brwdfrydedd ac angerdd dros y sector perfformio byw
  • Y gallu i siarad Cymraeg neu fod yn barod i ddysgu

 

Pecyn Swydd

Mae'r pecyn swydd hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth am y swydd ac am y cwmni a'r cyd-destun y byddwch yn gweithio ynddo

Sut i wneud cais

Os hoffech drafod y cyfle hwn yn fanylach cyn gwneud cais, cysylltwch ag: recruitment@ndcwales.co.uk

Os hoffech wneud cais gyda sain, fideo neu ffurf sy’n hygyrchi chi, gwnewch hynny, gan gynnwys y pwyntiau isod.

Llenwch y Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal a'i hanfon gyda'ch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o 2 dudalen) yn amlinellu sut ydych yn bodloni'r fanyleb person a'r sgiliau sydd gennych sy'n addas i'r rôl i: recruitment@ndcwales.co.uk

Yn eich llythyr eglurhaol, amlinellwch, ac yn y drefn a nodir yn y pecyn swydd, sut rydych chi'n bodloni ac yn cyflawni'r gofynion a amlinellir yn y Manyleb Person. Yn ogystal, nodwch pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y rôl a'ch cymhelliant.

Yn eich CV rhowch dystiolaeth o'ch sgiliau a phrofiad yn ogystal ag:

  • Enw a manylion cyswllt dau ganolwr proffesiynol/cyflogaeth. (Ni fyddwn yn cysylltu â chanolwyr hyd nes gwahoddir ymgeiswyr i ail gyfweliad)
     
  • Datganiad bod gennych yr hawl i weithio yn y DU neu angen trwydded gweithio i wneud hynny
     
  • Llenwch y ffurflen Cyfleoedd Cyfartal, sydd at ddibenion monitro ac sydd ar wahân i'ch cais

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun y 24ain o Dachwedd

Addewid Recriwtio

Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd, p’un a ydynt yn cael eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio. Gwahoddir ymgeiswyr anabl sy’n dangos eu bod yn cwrdd â manyleb y person am gyfweliad, ac rydym wedi ymrwymo i fodloni gofynion mynediad; dim ond i chi roi gwybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi.

Cydraddoldeb

Nod CDCCymru yw i ddawns fod yn rhan o fywyd pawb, ac mae'n cyflwyno ei waith mewn gwahanol fformatau a chyd-destunau ledled Cymru a ledled y byd.

Credwn y dylai amrywiaeth gael ei hymgorffori'n llawn yn ein diwylliant a'n gwerthoedd cyfundrefnol, ac rydym yn parhau i ehangu amrywiaeth y Cwmni a'i waith.

I'r perwyl hwnnw rydym yn siarad â phobl o ystod o gymunedau ac yn gwrando arnynt, i gyflwyno dealltwriaeth a mewnwelediad, ac i adnabod newidiadau y gallwn eu gwneud. Mae manylion ynghylch y camau yr ydym yn eu cymryd i'w gweld yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Cyfiawnder Cymdeithasol

Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd holl weithgareddau CDCCymru. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad i ddawns. Bydd CDCCymru yn ceisio sicrhau nad oes neb yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector celfyddydau, a chan y rhai sy’n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, hil, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Gellir talu costau teithio a threuliau ac arian gofal plant.

Diogelu Data

Defnyddir yr wybodaeth a roddwch i greu rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ac i lywio ein penderfyniad ynghylch pwy i’w benodi. Bydd eich holl fanylion yn cael eu cadw’n ddiogel gyda mynediad yn gyfyngedig i’r rhai sy’n ymwneud â’r broses recriwtio yn unig. Bydd eich cais yn cael ei gadw ar ffeil am o leiaf dri mis ar ôl y dyddiad cau a’i ddinistrio ddim hwyrach na deuddeg mis ar ôl hynny. Mae data recriwtio cyfle cyfartal hefyd yn ddienw ac yn cael ei ddefnyddio’n fewnol i nodi ffyrdd i wella ein prosesau a chyrraedd y gronfa ehangaf bosibl o ymgeiswyr. Mae cyflwyno’ch cais i ni yn dangos eich caniatâd i’ch data gael ei ddefnyddio yn y modd hwn.