Riz wears a jacket zipped up and has brown hair tied back and a fringe.

Riz Golden

Myfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol

Tyfais i fyny ym Mryste lle dechreuais fy hyfforddiant mewn dawn gyfoes am y tro cyntaf gyda RISE Youth Dance. Yn 17 oed ymunais â’r National Youth Dance Company lle teithiais a pherfformio gwaith gan Botis Seva, Yna fe es ymlaen i raddio o’r London Contemporary Dance School BA (Anrh), gan fod yn rhan yno o waith creu a pherfformio gwaith gan Liam Francis, Sam Coren a Clod Ensemble yn ogystal â’r Trisha Brown Company yn ystod fy semester Erasmus yn y Conservatoire National Supérieur (CNSMDP) ym Mharis. Wedi i mi raddio gweithiais yn llawrydd yn Llundain, gan weithio’n bennaf mewn dawns, ffilm a ffasiwn gydag artistiaid fel Alexandra Green, Sattva Ninja a Nozomi Yamanami. Mae CDCCymru yn rhoi cymaint o le i mi ddysgu a thyfu ac rwy’n teimlo mor gyffrous am yr hyn sydd ar y gweill.