Open Space image a group sat in a semi circle on the floor

Ballet Cymru, Creu Cymru, Groundwork Pro, Kokoro Arts a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad Ardal Agored ar sail dawns yng Nghymru

Mae Ballet Cymru, Creu Cymru, Groundwork Pro, Kokoro Arts a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad Ardal Agored ar-lein ar y cyd ar sail dawns yng Nghymru ddydd Mawrth 17 Tachwedd.

Mae digwyddiadau Ardal Agored yn ardaloedd i drafod a datrys problemau gyda’n gilydd, gydag agenda sy'n cael ei gosod mewn amser real ar ddiwrnod y digwyddiad gan y rheiny sy’n cymryd rhan.

Dyma'r trydydd digwyddiad Ardal Agored i gael ei gynnal i'r sector dawns yng Nghymru yn y pedair blynedd diwethaf. 

Mae Ardal Agored yn ddigwyddiad am ddim, sy'n agored i unrhyw un ar unrhyw lefel; mae croeso i weithwyr llawrydd, rhai sydd â diddordeb mewn dawns, pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau celfyddydol, a sefydliadau dawns sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ac yn breifat, i ymuno â'r sgwrs.

Mae un prif gwestiwn yn Ardal Agored mis Tachwedd - Sut allwn ni weithio gyda'n gilydd i greu dyfodol tecach a chynaliadwy i ddawns yng Nghymru?

Bydd y cwestiwn hwn yn ffurfio gwraidd holl drafodaethau eraill yn ystod y dydd mewn grwpiau bach, y mae rhwydd hynt i gyfranogwyr eu hawgrymu, mynychu a symud rhyngddynt.

Nod y digwyddiad yw datrys problemau a chreu syniadau a all yna ysgogi gweithred a newid er mwyn i sefydliadau partner weithio gyda'i gilydd i rannu canfyddiadau yn ogystal ag annog pwyntiau gweithredu sy'n deillio o hynny.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein mewn amgylchedd anffurfiol, felly gall mynychwyr fod yn hyblyg o ran diffodd eu fideos, diffodd eu sain neu fewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen.

Bydd yr Ardal Agored yn cael ei chynnal ar-lein ddydd Mawrth 17 Tachwedd, 9.45am - 3.15pm.

Os hoffech fynychu Ardal Agored ar-lein, gwnewch gais ar wefan CDCCymru - ndcwales.co.uk/open-space.

Mae Ardal Agored yn rhad ac am ddim i bawb gymryd rhan, ond mae CDCCymru yn cynnig taliad i weithwyr llawrydd i’w digolledu am incwm drwy gymryd rhan yn y digwyddiad.  Nid oes proses ymgeisio ac mae rhagor o wybodaeth ynghylch y cais llawrydd taledig ar gael ar ndcwales.co.uk/open-space

 

Archebu: https://ndcwales.co.uk/cy/ardal-agored