NDCWales and Literature Wales logos

CDCCymru yn cyhoeddi cywaith traws-gelfyddyd gyda Llenyddiaeth Cymru

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi cyhoeddi ei gywaith ar-lein cyntaf gyda Llenyddiaeth Cymru - prosiect traws-gelfyddyd sy'n dwyn ynghyd beirdd a dawnswyr i greu ffilmiau byr.

Mae'r bartneriaeth ddigidol yn rhan o raglen ar-lein CDCCymru, KiN:Ar-lein. Dros y 10 wythnos diwethaf, mae CDCCymru wedi bod yn rhannu ystod o gynyrchiadau ar-lein am y tro cyntaf, dosbarthiadau, dysgu ar-lein yn ogystal â sesiynau holi ac ateb gyda gweithwyr creadigol.

Fel cwmni dawns gyfoes cenedlaethol Cymru, mae CDCCymru yn creu gwaith dawns gyda phob math o bobl, ac ar gyfer pob math o bobl ym mhob math o leoedd. Mae CDCCymru yn dymuno ehangu'r sbectrwm o beth all dawns ei gyflawni i ganiatáu i fwy o bobl greu, gwylio, cymryd rhan, a dysgu am ddawns yng Nghymru ac ar draws y byd.

Mae'r prosiect ffilm ddigidol newydd, Plethu/Weave yn gweld dawnswyr o CDCCymru a'r sector annibynnol, ynghyd â rhai o feirdd a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru yn creu perfformiadau unigol byw yn ystod y cyfnod clo.

Gofynnir i bob bardd greu cerdd fer, rhai ar fesur caeth y 'gynghanedd', mewn unrhyw iaith sy'n berthnasol i Gymru gyfoes. Bydd yr 8 dawnsiwr a'r 8 bardd yna'n cydweithio mewn parau traws-gelfyddyd gyda phob pâr yn creu darn unigol byr, dim mwy na 90 eiliad o hyd.

I lansio'r prosiect, mae dau o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru eisoes wedi cadarnhau eu rhan yn y cywaith, Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a'r bardd, Mererid Hopwood. Byddant yn cael eu paru â dawnswyr CDCCymru i greu'r cyntaf o'r 8 darn. Dros yr wythnosau nesaf bydd y beirdd a'r dawnswyr yn creu proses o weithio â'i gilydd ar-lein a rhannu eu ffilm gyda chynulleidfaoedd ar-lein. Bydd ffilm newydd yn cael ei darlledu bob bythefnos o 3 Awst drwy Facebook CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru, YouTube a Sianeli AM.

Mae CDCCymru hefyd yn chwilio am ddau ddawnsiwr llawrydd i fod yn rhan o'r cywaith hwn. Gellir dod o hyd i fanylion ynglŷn â sut mae cyflwyno syniadau yn ndcwales.co.uk. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 17 Gorffennaf gyda'r broses greu yn dechrau ar 31 Awst.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyswllt CDCCymru, Lee Johnston, "Gall barddoniaeth a dawns, yn eu ffurfiau eu hunain, gynnig gobaith, cysur, ac ysbrydoliaeth. Rwyf wedi cyffroi ein bod yn gweithio â Llenyddiaeth Cymru i ddwyn y ddwy ffurf ar gelfyddyd ynghyd a chreu gweithiau pwerus llawn symudiadau ac ystyriaethau. Rwyf hefyd yn falch bod y prosiect yn ymgysylltu ag artistiaid dawns annibynnol o Gymru, ac edrychaf ymlaen at yr ehangder hwn o bersbectif a chyfraniad artistig."

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru,."

Mae Plethu/Weave yn rhan o KiN:Ar-lein, rhaglen ddigidol CDCCymru. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn arddangos llawer o'i gynyrchiadau ar-lein am y tro cyntaf er mwyn i gynulleidfaoedd wylio yn rhad ac am ddim fel rhan o'i raglen ar-lein KiN:Ar-lein, gan gynnwys Afterimage (gan Fernando Melo), Rygbi: Annwyl i mi/ Dear To Me (Fearghus Ó Conchúir) yn ogystal â fersiwn ffrydio byw Zoom o 2067: Time and Time and Time. Darllediad nesaf CDCCymru fydd ffrydiad byw ar-lein am y tro cyntaf o, Clapping gan Ed Myhill ar Facebook ar ddydd Iau 25 Mehefin 7pm.