Cefnogi coreograffwyr y genhedlaeth nesaf yng Nghymru Detholiad o weithiau dawns gan goreograffwyr llawn addewid Byrion – Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru19-22 Mawrth, Y Tŷ Dawns, Caerdydd.Archebwch Tocannau Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno tri o weithiau dawns byr a bachog gan dri choreograffydd addawol fel rhan o ‘Shorts | Byrion’ yng nghartref y cwmni yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, rhwng 19 a 22 Mawrth. Bydd y lleisiau newydd a phwysig hyn yn y byd dawns yn llenwi’r llwyfan gyda drama, comedi dywyll a dylunio clyfar – gyda cherddoriaeth newydd a sawl clasur o gân yn gefndir i’r cwbl. Bydd cynulleidfaoedd yn cael cyfle i fwynhau tri pherfformiad mewn cyn lleied â 90 munud. Bydd yr holl berfformiadau’n wahanol i’w gilydd, felly dyma ddigwyddiad delfrydol i’w rannu gyda chyfeillion neu gyda phobl nad ydynt erioed wedi cael profiad o wylio dawnsio byw o’r blaen. Mae’r digwyddiad yn cynnwys tri darn gwahanol gan Faye Tan, dawnsiwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; Osian Meilir, artist symud, crëwr dawns a pherfformiwr o Gymru; a John-William Watson, dawnsiwr, cyfarwyddwr a choreograffydd o Leeds. “Mae Faye Tan, John-William Watson ac Osian Meilir yn llunio’u gwaith o’u gwahanol safbwyntiau eu hunain. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi gwylio pob un ohonynt yn torri cwys ar gyfer eu gwaith yn y Deyrnas Unedig. Bydd Byrion yn rhannu tri darn o waith sy’n ymgorffori eu llofnod artistig unigryw.” Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig diweddar Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a luniodd y rhaglen ar gyfer Shorts | Byrion Yn ‘Infinity Duet’, mae dau ddawnsiwr yn delio â phwysau ac amser mewn deuawd deimladwy, dwymgalon sy’n mynd ati i blethu lluniau a cherfluniau gan yr artist lleol Cecile Johnson Soliz, dawns gan y coreograffydd Faye Tan a sain gan y cyfansoddwr Richard McReynolds o Gaerdydd, mewn cydweithrediad unigryw. Rhoddir lle blaenllaw i wisgoedd gyda lluniau Cecile wedi’u hargraffu arnynt a hefyd i gerflun papur mawr sy’n hongian. Mae’r cerflun yn siglo ac yn symud gyda’r dawnswyr wrth iddynt wyro, gwau a symud gydag ef. “Mae’r gynulleidfa’n gweld rhywbeth nad yw wedi deillio o syniad neu weledigaeth un person – yn hytrach, gwelir gweledigaeth ar y cyd o rywbeth y mae pob un ohonom yn danbaid drosto.” Y Crëwr, Faye Tan, wrth sôn am Infinity Duet. “Mae’r holl elfennau unigol mor gyfoethog ynddynt eu hunain. Cyffrous iawn yw gweld sut y daw pob un o’r elfennau hynny ynghyd mewn ennyd o berfformio byw.” Richard McReynolds, Dylunydd Sain Yn ‘UN3D’ gan Osian Meilir, y crëwr dawns o Gymru, mae tri dawnsiwr yn symud yn berffaith gyda’i gilydd i gyfeiliant cerddoriaeth The Police a Bjork. Caiff y coreograffi – y dywedir ei fod yn archwilio’r cydamserol, y gwirion a’r aruchel – ei ysbrydoli gan nofio cydamserol, dawnsio llinell a The Supremes. Crëwyd ‘UN3D’ am y tro cyntaf yn 2023, ac mae’n archwilio’r gwahaniaeth rhwng symud mewn ffordd gydamserol ar y naill law, a bod yn feddyliol gydamserol ar y llaw arall, gan hyrwyddo cysylltiad dynol uwchlaw amseru perffaith. Yn sgil y symud llyfn, y trac sain ysgogol a’r gwisgoedd godidog, bydd y gynulleidfa’n siŵr o gael gwledd o berfformiad. “Rydw i wrth fy modd ac yn llawn cyffro o gael ailwampio a chyflwyno UN3D unwaith eto. Cefais gymaint o hwyl yn creu’r gwaith gwreiddiol ar gyfer prosiect 4x10 y cwmni, a gobeithio y bydd y gynulleidfa’n cael cymaint o hwyl wrth ei wylio eto y tro hwn.” Osian Meilir, coreograffydd UN3D Y trydydd darn ‘Byr’, a’r olaf, yw comedi dywyll gan John-William Watson, sef ‘Hang in There, Baby’. Mae’r gwaith hynod ddoniol hwn wedi’i leoli mewn swyddfa yn ystod parti calan. Buan iawn yr aiff pethau’n fwyfwy swreal wrth i undonedd diarbed y swyddfa droi’n hunllef yn hil ‘pac-man’. Gyda choreograffi hynod fanwl, set wedi’i goleuo’n llwm a sgript swreal, mae ymdeimlad sinematig yn perthyn i ‘Hang in There, Baby’ – ac yn ddi-os, bydd yn siŵr o danio sawl trafodaeth. Gan gyfuno sgript ffuglen wyddonol, dylunio dihafal a sgôr wreiddiol gan Adam Vincent Clarke, mae’r ddawns ddoniol a rhyfeddol hon yn eich annog i ddal ati i wylio, doed a ddelo. “Pan berfformiwyd y sioe hon am y tro cyntaf yn Sadler’s Wells yn 2022, bu’n drobwynt i mi. Deallais sut fath o straeon rydw i eisiau eu hadrodd, sut rydw i’n dymuno eu hadrodd a’r hyn rydw i eisiau ei gyfleu i’r bobl sy’n gwylio. Oherwydd hyn, mae’r gwaith hwn yn agos iawn at fy nghalon – rydw i ar dân eisiau ei rannu gyda chriw newydd sbon danlli o ddawnswyr a chynulleidfaoedd newydd!” Crëwr Hang in There, Baby, John-William WatsonBydd Shorts | Byrion gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd rhwng dydd Mercher 19 a dydd Sadwrn 22 Mawrth. Dydd Gwener Iaith Arwyddion Prydain 21 Mawrth, 7.30pm Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane Tocynnau £14, Consesiynau £12, tocynnau hanner pris i bobl dan 26 oed. https://ndcwales.co.uk/cy/shorts-byrion Addasrwydd oedran 12+ Galeri