CDCCymru yn Cyflwyno
Codi
gan Anthony Matsena
Mae Codi yn codi o’r lludw i’n hysbrydoli ni yn 2022 gyda stori bwerus, llawn egni, am gryfder cymunedau’n dod ynghyd i fynd i’r afael â chaledi bywyd yn ystod cyfnodau heriol. Wedi'i adeiladu ar sylfeini straeon glofaol Cymru a adroddir drwy ddawns, cân, barddoniaeth a theatr, mae'r gynulleidfa wedi'i lapio mewn blanced o dywyllwch cyn cael ei harwain tuag at oleuni o obaith a dathlu.
Ysgrifennwr a Chynorthwyydd: Kel Matsena
Dramatwrg: Charlie Layburn
Cyfansoddwr: Lara Agar
Dylunio Gwisgoedd: Danna Sim
Dylunio Set: Cory Shipp
Dyluniad Goleuo: Ryan Joseph Stafford
Llisiau: Aled Gomer, Holly Saunders, Bedwyr Bowen, Angharad Jones Young
“Ystyr Codi yw codi mewn ffordd emosiynol ac ysbrydol. Drwy gydol y broses greadigol, rwyf wedi bod yn gweithio i ddeall fy mherthynas â Chymru. Dechreuais edrych yn ôl ar gymunedau glofaol, straeon personol a dogfennau ynghylch sut beth oedd byw yn ystod y cyfnod hwnnw, a sut beth oedd gweithio yn y pyllau glo... Mae’n hynod bwysig ein bod yn trafod hanes, ond os ydych chi’n dewis defnyddio hanes fel ysbrydoliaeth, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ceisio gwneud sylw ar y presennol a’r dyfodol hefyd. Mae’n ymwneud â chreu gwaith sy’n anrhydeddu’r hanes, ac yn ei ail-ddychmygu mewn ffordd hefyd” Anthony Matsena
Anthony Matsena

“The piece was dramatically staged in hues of black and red, with lights flashing in the darkness. Despite its bleakness it contained optimism”
- South Wales Argus
“Anthony Matsena masterfully captures the plight of the Welsh miner in an ever-increasing claustrophobic encounter.”
- Arts Scene in Wales
"The piece’s message – of the importance of our connection to each other and to the earth – was extremely powerful."
- Buzz Magazine


