Image of dancer and children dancing happily

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i fod yn rhan o #DancePassion BBC Arts ar 5ed Ebrill yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe.

Bydd y BBC, mewn partneriaeth â One Dance UK yn dathlu pob math o ddawns ar draws ei holl lwyfannau cyfryngau fel rhan o #DancePassion ar draws y DU, gyda chanolfan yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe ar 5ed Ebrill gyda ffrydio byw o Ysgolion yn Darganfod Dawns Cwmni Dawns Cenedlaethol Cwmni a golwg y tu ôl i'r llenni yn edrych ar ei brosiect Rygbi gyda'r Gweilch.

Bydd BBC #DancePassion yn ffrydio 11 awr o berfformiadau, ymarferion a chipolwg y tu ôl i'r llenni yn fyw o ar draws y DU. Fel rhan o'r ffrydio byw bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ffrydio'n fyw peth o'i Ysgolion yn Darganfod Dawns a fydd yn gweld plant ysgolion cynradd lleol yn dysgu rhai o'r symudiadau o ddarn dawns CDCCymru a dysgu am fywyd dawnsiwr naill ai o'r awditoriwm neu ar lwyfan gyda'r dawnswyr proffesiynol.

Yn dilyn y 30 munud o ffrydio byw o Darganfod Dawns, bydd y llwyfan yn gweld CDCCymru yn gweithio ar ei gynhyrchiad newydd, Rygbi – Annwyl I Mi / Dear to Me gyda chwaraewyr rygbi o Glwb Rygbi'r Gweilch. Mae Rygbi-Annwyl i mi  /Dear to me yn cysylltu dawns ag angerdd ein cenedl dros rygbi.

Mae prosiect Rygbi  yn gynhyrchiad newydd gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchúir sef darn dawns newydd sy'n archwilio sut y gwneir cyrff Cymru mewn chwaraeon a dawns. Mae'n dathlu nifer y bobl mae'n ei gymryd i wneud tîm effeithiol; ac yn amlygu gobeithion, breuddwydion, gogoniant ac angerdd tynnu at ein gilydd ar y cae ac oddi arno.

Bydd Rygbi yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Caiff y darn ei berfformio dan do ar lwyfannau bach a mawr, yn ogystal ag yn yr awyr agored mewn gwyliau dros y 12 mis nesaf.

Bydd CDCCymru yn gweithio gyda chymunedau rygbi ledled Cymru i ddatblygu syniadau ar gyfer y darn gan gynnwys Clwb Rygbi'r Gweilch fel rhan o #DancePassion. 

"Mae rygbi a dawns yn hanesyddol wedi mwynhau cysylltiad cryf iawn. Mae pencampwyr rygbi y byd, y Crysau Duon, yn agor bob un o'u gemau gyda Dawns Ryfel yr Haka sy'n cyflwyno her i'w gwrthwynebwyr mewn modd theatrig iawn. Hyd yn oed yma yn y Gweilch mae chwaraewyr mawr fel Shane Williams  wedi dawnsio a chreu coreograffi o gwmpas y gwrthwynebwyr i sgorio ceisiau syfrdanol - pwy all anghofio Shane yn ochrgamu a dawnsio o gwmpas tîm yr Ariannin i sgorio cais gwych i Gymru yn 2004? Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru er mwyn helpu i archwilio'r cysylltiad unigryw hwn rhwng dawns a rygbi ar gyfer eu cynhyrchiad o Rygbi – Annwyl i Mi / Dear to Me "- Jamie Rees, Pennaeth Marchnata & Chyfathrebu, Rygbi'r Gweilch

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud gwaith arloesol gyda phob math o bobl, ac ar eu cyfer, mewn pob math o leoedd. Mae'r cwmni yn cyflwyno ei waith mewn cyd-destunau a fformatau gwahanol ar draws Cymru a ledled y byd, gan gomisiynu'n bennaf goreograffwyr nad ydynt wedi'u comisiynu yn y DU o'r blaen, a chanfod perthnasedd cyfoes parhaus mewn repertoire sy'n bodoli eisoes.

Fel rhan o'r ganolfan Gymreig yn Abertawe, bydd hefyd perfformiadau byr yn cael eu ffrydio'n fyw gan y cwmnïau Cymreig Light, Ladd and Emberton a Jukebox Collective. Yn arwain at y digwyddiad bydd sefydliadau ledled Cymru yn rhannu cynnwys dawns ar-lein yn defnyddio #DancePassion rhwng 1-5 Ebrill 2019.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchúir, "Rydym yn un o nifer o ganolfannau ledled y DU sy'n cymryd rhan yn #DancePassion ac mae'n wych gweld ehangder y ddawns sy'n cael ei chipio ar-lein ac fel arall drwy'r BBC. Mae dros 40 o sefydliadau ac artistiaid yn ffrydio'n fyw gyda dros 200 yn cyfrannu i gyfryngau cymdeithasol. Bydd yn wych i gynulleidfaoedd weld yr amrywiaeth o ddawns a sut y gall dawns fod ar gyfer pob math o bobl mewn gwahanol fannau ar draws y DU."

Gellir gwylio BBC #DancePassion ar-lein ar bbc.co.uk/dance neu dilynwch #DancePassion @BBCWales

Gall ysgolion drefnu i fod yn y perfformiad Darganfod Dawns yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin 01792 602060.