the 16 poets and dancers headshots that are involved in the project

Cyhoeddi Beirdd ac Artistiaid Dawns Annibynnol Plethu/Weave; Prosiect ar y cyd rhwng CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru

Fideos cyntaf y prosiect i gael eu harddangos am y tro cyntaf fel rhan o’r Ŵyl AmGen ym mis Awst.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enwau’r beirdd a’r artistiaid dawns annibynnol sydd yn ymuno â dawnswyr CDCCymru fel rhan o Plethu/Weave, cywaith newydd sy’n creu 8 ffilm traws-gelfyddyd byr. Caiff y ddwy ffilm gyntaf eu harddangos am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddechrau mis Awst.

Prosiect ffilm digidol newydd yw Plethu/Weave, sy’n paru dawnswyr o CDCCymru a’r sector annibynnol gyda beirdd a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn creu perfformiadau unigol byw yn ystod y cyfnod clo.

Yn dilyn galwad agored ym mis Mehefin, mae CDCCymru wedi penodi pedwar artist dawns annibynnol: Shakeera Ahmun, Jodi Ann Nicholson, Joe Powell-Main a Jo Shapland, i weithio ochr yn ochr â dawnswyr CDCCymru a’r wyth bardd.

Caiff yr wyth dawnsiwr eu paru gyda rai o feirdd mwyaf blaengar Cymru: Connor Allen, Hanan Issa, Aneirin Karadog, Elan Grug Muse, clare e. potter a Marvin Thompson, ynghyd ag Ifor ap Glyn a Mererid Hopwood sydd eisoes wedi gweithio ar y ddwy ffilm traws-gelfyddyd cyntaf gyda dawnswyr CDCCymru, a’r fideos hynny sydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol.

Meddai Lee Johnson, Cyfarwyddwr Cyswllt CDCCymru, “Roedd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wrth ein boddau gyda’r ystod o ddawnswyr annibynnol ar hyd a lled Cymru a ymgeisiodd i fod yn rhan o’r prosiect arbennig hwn. Bydd y pedwar artist sy’n ymuno â Plethu/Weave yn cyfoethogi ystod eang y cyfraniad artistig yma trwy ymarferion amrywiol sy’n cynnwys arddull hip hop, Butoh, ballet a dawnsfa. Bydd y partneriaethau hyn hefyd yn cymhwyso beth yn union y gall goreograffi fod, gan gynnwys gwrthrychau, tecstilau a brodwaith. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld sut y bydd y dawnswyr a’r beirdd yn plethu’r ddwy ffurf hyn gyda’i gilydd er mwyn creu darnau pwerus llawn symudiad a mewnwelediad.”

Bydd Hirddydd gan Mererid Hopwood a Tim Volleman yn cael ei ddangos am y tro cyntaf am 1pm ar ddydd Llun 3 Awst; tra bydd Ust gan Ifor ap Glyn a Faye Tan yn cael ei ddangos am y tro cyntaf am 1.30pm ar ddydd Gwener 7 Awst ar dudalen Facebook, gwefan, YouTube a sianel AM yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y ddwy fideo ar gael y diwrnod canlynol ar dudalen Facebook, YouTube a sianel AM CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru, 4 ac 8 Awst 2020 ymlaen.

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i weithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru unwaith eto eleni.  Mae dawns yn rhan greiddiol o’r Eisteddfod, ac ry’n ni’n falch o gynnig platfform ar gyfer y premier hwn fel rhan o Eisteddfod AmGen eleni. Wrth gwrs, mae Mererid ac Ifor, ill dau, yn brif enillwyr yn yr Eisteddfod, ac ry’n ni wedi gweithio’n agos gyda Llenyddiaeth Cymru ar gwmpas eang o brosiectau dros y blynyddoedd.  Rwy’n gobeithio y gallwn ddatblygu’r berthynas gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ymhellach yn y dyfodol.”

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hyfryd hwn gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae’r ddau gywaith cyntaf rhwng Ifor, Fay, Mererid a Tim, yn asio gyda’i gilydd yn berffaith, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at rannu’r arlwy hyn gyda chynulleidfa’r Ŵyl AmGen eleni. Mae dathlu diwylliant Cymru yn un o brif nodau Llenyddiaeth Cymru a pa ffordd well o wneud hynny na thrwy greu a rhannu'r cyweithiau creadigol hyn rhwng artistiaid talentog cyfoes Cymru, a fydd yn siŵr o brocio, diddanu a chyffwrdd cynulleidfaoedd newydd a phresennol llenyddiaeth a dawns.”

Yn dilyn y dangosiad ar-lein fel rhan o’r Eisteddfod, caiff y chwe ffilm fer sy’n weddill o brosiect Plethu/Weave eu darlledu pob pythefnos fel rhan o KiN:Ar-lein, rhaglen ddigidol CDCCymru. Mae CDCCymru wedi bod yn arddangos llawer o'i gynyrchiadau ar-lein am y tro cyntaf, er mwyn i gynulleidfaoedd wylio yn rhad ac am ddim fel rhan o'i raglen ar-lein KiN:Ar-lein, gan gynnwys Dream (Christopher Bruce CBE), Rygbi: Annwyl i mi/ Dear To Me (Fearghus Ó Conchúir) yn ogystal â fersiwn ffrydio byw Zoom o Cpalling gan Ed Myhill.

 

Mae manylion llawn KiN:Ar-lein ar gael ar ndcwales.co.uk ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnos nesaf @NDCWales