Melanie Lane Skinners Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 30 minutes Yn teithio fel rhan o Frontiers | Gorwelion Hydref 2024 Hydref 2024: Dewch i ddianc i fyd llawn cyffro Gwybod mwy Tocynnau Teithio rhyngwladol Dysgwch fwy am berfformiadau rhyngwladol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gwybod mwy Skinners gan Melanie Lane Rydym yn byw mewn oes ddigidol. Rydym yn defnyddio hidlyddion i bylu realiti, a rhithffurfiau i guddio pwy ydym ni. Rydym yn siarad gyda Deallusrwydd Artiffisial, ac mae’r Deallusrwydd hwnnw yn siarad yn ôl gyda ni. Rydym yn gwegian ar ymyl dyfodol gwefreiddiol a dychrynllyd lle mae’r corff dynol yn camweithio rhwng cnawd a rhith, ffaith a ffuglen. Y tu hwnt i’r ffantasïau a wireddir gan dechnoleg, erys ein dynoliaeth. Sut y gallwn ddychwelyd at y byd go iawn? Sut y gallwn ddychwelyd at ein croen, sy’n rhan annatod ohonom? Mae Skinners gan Melanie Lane (coreograffydd o Awstralia o darddiad Ewropeaidd a Jafanaidd) yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Yamila Rios, gwisgoedd gan Don Aretino a goleuadau gan y dylunydd Cymreig Ceri James. Tîm Creadigol Coreograffwr: Melanie Lane Cyfansoddwr: Yamila Rios Dylunio Gwisgoedd: Don Aretino Dyluniad Goleuo: Ceri James Creu Gyda: Alys Davies, Samuel Gilovitz, Jill Goh, Niamh Keeling, Mario Manara, Edward Myhill a Faye Tan Melanie Lane Coreograffydd a pherfformiwr o Awstralia a chanddi dreftadaeth ddiwylliannol Jafanaidd/Ewropeaidd yw Melanie Lane. Mae’n gweithio ar draws y celfyddydau gweledol, theatr, cerddoriaeth a ffilm. Mae ei gwaith yn ymdrin â hanes ffisegol a diwylliannol er mwyn archwilio mytholegau cymdeithasol cyfredol, gan eu hallosod ar ffurf dyfodol swreal sy’n ddryslyd, yn doredig ac wedi’i ad-drefnu. Cyflwynwyd y gweithiau annibynnol hyn ledled y byd mewn gwyliau a theatrau yn Ewrop, Indonesia, Unol Daleithiau America ac Awstralia. Gan ddefnyddio’i threftadaeth Ewropeaidd ac Indonesaidd, mae Lane yn symud rhwng tirluniau a dylanwadau diwylliannol. Mae Melanie yn ymgysylltu’n rheolaidd ar draws prosiectau yn Indonesia fel coreograffydd, cydweithredwr, perfformiwr a mentor. Ffoto: Barbara Dietl Coreograffwr Melanie Lane Galeri Yn mynd ar daith i Aberystwyth Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024, 19:30 Archebwch Nawr
Teithio rhyngwladol Dysgwch fwy am berfformiadau rhyngwladol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gwybod mwy