Tocynnau Dawns, Cerflunio, Dylunio a Sain In Tandem Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 1 awr In Tandem Dyma berfformiad newydd traws-gelfyddydol, sy’n plethu dawns, cerflunio, dylunio a sain ynghyd. In Tandem Mae In Tandem yn ddigwyddiad prin, sy’n pylu’r ffin rhwng oriel a man perfformio. Beth am gwrdd â thri o’r cyd-artistiaid, y coreograffydd Faye Tan, yr artist aml-gyfrwng Cecile Johnson Soliz a’r cyfansoddwr Richard McReynolds, wrth iddynt rannu eu gwaith newydd, ‘Infinity Duet’, am y tro cyntaf. Yn ystod y perfformiad bydd y gynulleidfa yn derbyn gwahoddiad i symud o amgylch y lleoliad i brofi ‘Infinity Duet’ o sawl safbwynt, ac i archwilio haenau’r cydweithrediad newydd yma. Yn ogystal, cewch y fraint o weld portreadau sy’n cynnwys cerfluniau ar raddfa fawr, sy'n unigryw ar gyfer y digwyddiad hwn, ac mae croeso i chi aros ar y diwedd i sgwrsio â’r artistiaid a’r dawnswyr, er mwyn dysgu mwy am y broses ac i weld y gwaith celf yn agos. Infinity Duet “Ni all y cerfluniau osgoi ildio i ddisgyrchiant, na’u cyrff chwaith. Mae dau berson yn ymdrin ag amser a phwysau yn y synfyfyrdod byr hwn.” Mae Faye yn ddawnswraig a choreograffydd o Singapôr ac ar hyn o bryd yn ddawnswraig llawn amser gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Meithrinwyd ei hymarfer coreograffig gan ei phrofiadau helaeth o weithio gyda choreograffwyr dawns gyfoes o bob rhan o’r byd a’i defnydd o wahanol arddulliau o ddawns, diwylliannau, dulliau a thechnegau. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cymhlethdod yr emosiwn dynol sydd weithiau’n llethol, ac yn aml yn awdlau i brofiadau dynol o’r dyrchafedig. Yn aml yn cydweithio gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, mae hi wedi creu gwaith ar gyfer amrywiaeth o osodiadau a chyd-destunau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, VERVE (DU), Frontier Danceland (Singapôr), y Ganolfan Hyfforddiant Uwch (DU) ac Ysgol Gelfyddydau Singapôr. faye-tan.com/ @fayefayefaye.tan Mae Cecile Johnson Soliz yn Americanes ail genhedlaeth o dreftadaeth Bolifaidd a fagwyd yng Nghaliffornia, Mecsico, Bolifia, Brasil, Ghana, a’r Eidal cyn cyrraedd y D.U. i astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd ac Eurych Caerdydd. Yn dilyn 20 mlynedd yn Llundain, bu i Gymrodoriaeth Henry Moore mewn Cerfluniaeth ddod â hi i Gaerdydd yn 1995 ble mae hi’n byw a gweithio. Mae Cecile wedi arddangos dros gyfnod o 35 mlynedd yn y D.U. a thramor mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan ennill y Wobr Aur mewn Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2017. Ar hyn o bryd mae hi’n cydweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ar gyfer Bio llawn a C.V. ewch i: cecilejohnsonsoliz.net @cecilejohnsonsoliz Mae Richard McReynolds yn gyfansoddwr o Ogledd Iwerddon, yn artist aml-gyfrwng a chynhyrchydd creadigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio yn y croestoriad rhwng cyfryngau, ymchwilio i gysylltiadau newydd rhwng perfformiadau, sain ac elfennau gweledol. Mae ei waith yn cwmpasu gwaith sain, celf-berfformiad, delweddau cynhyrchiol, hyper-offerynnau a gosodiadau. richardmcreynolds.com @mcreynoldsrich Galeri Yn mynd ar daith i Caerdydd Ty Dawns Dydd Iau 30 Ionawr 2025, 19:30 Archebwch Nawr Dydd Gwener 31 Ionawr 2025, 19:30 Archebwch Nawr