a dancer in a strikign bird mask towers over another on lies on the floor wearing a fish mask - both are mid movement
Osian Meilir

Mabon

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
30 munud

Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi fynd ar daith drwy’r hen Gymru i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd.

Yn teithio fel rhan o
two dancers dressed in wild costumes, one in a large folk inspired bird mask and the other in a top that looks inspired by skeletons, they pose dynamically under blooming light

Surge | Gwefr

Medi-Tachwedd

Darganfyddwch dri byd newydd sy’n ymestyn o chwedloniaeth hynafol i ffuglen wyddonol ddyfodolaidd. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich trawsgludo drwy stori, amser a lle gyda’r triawd o ddawnsfeydd hudolus a chynllunio hyfryd.

Cewch eich trawsgludo ar siwrne i ddarganfod ‘Mabon’ gan Osian Meilir.
Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi fynd ar daith drwy’r hen Gymru i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd.
Mae traddodiad yn cael ei ystumio gan ddychymyg gwyllt yn y chwedl fodern hon. Mae gwisgoedd rhyfeddol a choreograffi gwrthryfelgar yn cael eu gwau i mewn i dreftadaeth, straeon gwerin a dirgelwch. Fe’i hysbrydolwyd gan fyd chwedloniaeth o Gymru ac mae wedi’i gosod i gerddoriaeth newydd gan chwaraewr y delyn deires o Gymru, Cerys Hafana.

Tîm Creadigol

Hyd: 30 minutes
Dawnswyr: 6
Premiere: Hydref 2025 

Dylunio Gwisgoedd: Becky Davies
Dylunio Goleuadau: Marty Langthorne
Cyfansoddwr: Cerys Hafana

Cynorthwyydd Dylunio a Phrif Wneuthurwr Gwisgoedd: Amy Barrett
Cynorthwywyr Gwneud Gwisgoedd: Katie Unwin, Nikita Verboon a Becky Davies.
Prif Dîm Gwneud Masgiau: Rachel Merritt, Angharad Gamble (Rooftop Atelier) a Becky Davies.
Prif Dîm Gwneud Propiau: Rachel Merritt a Becky Davies.
Cynorthwywyr Gwneud Masgiau Ychwanegol: Elliott Ditton, Bethany Seddon, Ruby Aston, Ellie Rogers.

Profiad Gwaith Gwisgoedd: Nancy Chen
Profiad Gwaith Gwneud Masgiau: Nancy Chapple-Hale, Ethan Colwell, Zee Belle (Daisy Braithwaite-Muriel), Riah Betti, Abi Lee, Lea Binder
Profiad Gwaith Gwneud Propiau: Zee Belle (Daisy Braithwaite-Muriel), Seohyun Park, Robin Smith, Lilly Wood 

Coreograffwr

Osian Meilir

Osian is crouched in a dance studio smiling as they direct the dancers of screen. They wear a rust coloured t shirt and grey shorts.

 Osian Meilir 

Yn wreiddiol o Bentre’r Bryn ar arfordir gorllewin Cymru, coreograffydd llawrydd ac artist symudiad yw Osian Meilir, sy’n rhannu eu hamser rhwng Cymru a Llundain ar hyn o bryd. Ers graddio o Trinity Laban yn 2017, bu Meilir yn perfformio ac yn creu gwaith ar gyfer amryw fannau perfformio, yn dilyn ei waith a’i gynyrchiadau dawns ar gyfer yr awyr agored yn bennaf. Bu eu gwaith yn teithio’n helaeth ar hyd a lled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac mae’n cynnwys gŵyl Ten Days on the Island yn Awstralia (2023), Biennale de la Danse yn Lyon (2023) ac yn FIET, sef Ffair Theatr Plant a Phobl Ifanc Ynysoedd Baleares (2024).

Dros y pum mlynedd diwethaf, comisiynwyd Meilir i greu gwaith newydd gan Articulture Wales, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac mae gwaith newydd ar y gweill i’r cwmni ar gyfer eu taith Hydref 2025. 

Mae magwraeth Meilir yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, ynghyd â’u diddordeb mewn syniadau yng nghyswllt hunaniaeth, diwylliant a chymuned, yn bwydo eu creadigrwydd ac yn ysbrydoli eu gwaith. Roedd eu profiadau cynnar iawn a’u cefndir ymhêl a'r ddawns werin Gymreig wedi cael dylanwad mawr ar eu hymarfer cyfoes, ac yn golygu eu bod yn gwerthfawrogi’r modd y gall dawns feithrin pontydd ystyrlon rhwng pobl o bedwar ban byd. Gan gofleidio undod a harmoni, o fewn ein hunain a’r naill a’r llall, mae Meilir yn dathlu harddwch, symlrwydd a phŵer cysylltiadau dynol.

Galeri
a dancer in a stag mask leaps high into the air
a dancer in a toad mask slides across the stage
a dramatically lit scene, one dance closest to the camera postes laid on the floor like a salmon, behind her, two other dancers lift a third into the air by their arms - light comes from behind them making an eerie scene
an owl and eagle masked dance duo, wrapped around one another.
an owl and eagle masked dance duo, wrapped around one another.
dancers in folk style circle, arms outstretched towards one another
dancers in tops that look like rib cages dance in formation, four in a square and one in teh middle, their elbos and knees are bent outwards and heads thrown back, mid dance

The Costumes 

Dyluniwyd y tro modern ar wisgoedd Cymreig gan Becky Davies - a gydweithiodd gydag Osian unwaith yn rhagor i greu byd chwedlonol Mabon.

Ar gyfer Mabon, mae Becky wedi dychmygu chwech o gymeriadau anifeiliaid, gan gymryd ysbrydoliaeth o wisgoedd traddodiadol Cymreig, ysgrifen hynafol a thirwedd hynafol Cymru.

Mae Becky wedi cynllunio chwe gwisg anifail anhygoel, pob un gyda lliaws o fanylion cudd; yma, gallwch weld rhai o ddarluniadau hardd Becky ar gyfer cynllunio’r gwisgoedd, sy’n dod yn fyw dan law y gwneuthurwr gwisgoedd Amy Barrett a’r tîm. 

Becky Davies 

Yn wreiddiol o Hen Ynysybwl ger Pontypridd, mae Becky Davies (hi/ei) yn Ymarferydd Creadigol gyda nifer o dannau i’w bwa. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad fel Dylunydd Set a Gwisgoedd, gan gynnwys ei rôl fel un o Artistiaid Cyswllt Cwmni Theatr ‘Taking Flight’ a Cynyrchiadau ‘Leeway’. Mae Becky bellach yn gweithio’n bennaf fel Darlunydd ac Artist Cymunedol, gyda’i hunaniaeth cwiar, niwrowahanol a Chymreig yn llywio ei gwaith yn naturiol. Mae ei harbennigedd mewn Hygyrchedd Creadigol, a’i gwaith fel Hwylusydd Gweithdai Celf gyda phwyslais ar les, yn bwydo mewn i’w rôl rhan-amser fel Uwch-Ddarlithydd ar gyfer y cwrs BA Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru (2011-Presennol).

costume photo test

costume design sketches

more costume sketches

The Music 

Mae byd Mabon yn cael ei siapio ymhellach gan gerddoriaeth gan y chwaraewr telyn deires a’r cyfansoddwr o Gymru, Cerys Hafana.. Ar gyfer Mabon, maent wedi creu sain fendigedig a swynol wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth werin Cymru, sy’n eich tywys i goedwigoedd hynafol llawn chwedlau a hudoliaeth Cymreig.

 

 

Cerys Hafana

Mae Cerys Hafana yn delynor teires a chyfansoddwr sy’n manglo, treiglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Maent yn archwilio posibiliadau creadigol deunydd traddodiadol ac archifol, yn ogystal â chreu cyfansoddiadau gwreiddiol.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Cwmwl, yn 2020. Cafodd eu hail albwm, Edyf, ei dewis fel un o’r Top Ten Folk Albums of 2022 gan y Guardian, a chyrhaeddodd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023. Ym mis Ionawr 2024 rhyddhawyd The Bitter, EP o ganeuon traddodiadol Saesneg ac Albanaidd, ac ym mis Medi 2024 rhyddhawyd Crwydro, EP o ddarnau unawdol i’r piano i ddathlu 2 mlynedd ers rhyddhau Edyf.

Mae Cerys wedi perfformio mewn gwyliau megis Gŵyl Ryngeltaidd Lorient (FR), Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Reeperbahn (DE), Other Voices (IE), WOMAD, End of the Road, Rudolstadt (DE) a Trans Musicales (FR), ac wedi cefnogi artistiaid fel Charlie Cunningham, Adwaith, Andrew Wasylyk a Yann Tiersen. Maent hefyd wedi teithio gydag ensemble clasurol blaengar Sinfonia Cymru.

Mae Cerys wedi perfformio mewn sesiynau byw ar gyfer Radio 6 Music (Cerys MatthewsRiley & Coe), Radio 3 (In Tune a Music Planet), Radio Wales a Radio 4 (Woman’s Hour).

(Ffoto: Sebastien Madej) 

black and white photo of Cerys playing their harp

The Lighting 

Mae awyrgylch Mabon yn cael ei greu gan y dylunydd goleuo Marty Langthorne.
Yn arbenigwr mewn damcaniaeth lliwiau ac mewn cydweithredu, gweithiodd Marty’n agos gyda’r tîm a oedd yn creu byd Mabon. Mae ei waith goleuo yn taflu cysgodion llawn dirgelwch ac yn creu llawenydd gwresog.

Marty Langthorne

Mae gwaith Marty yn ymwneud â theatr, dawns, gosodiadau a chelfyddyd fyw.

Mae Credydau Diweddar yn cynnwys: Zoetrope(Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru); Feral Monster (Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru); In World’s Unknown (Seke Chimutengwende/Canduco); Shuffle (Lea Anderson & We Staged); It begins in Darkness (Seke Chimutengwende); Showmanism & Remember Me (Dickie Beau); Caretakers (Nic Conibere, Sadlers Wells); Watch it (Wendy Houston); Written in the Body (Charlotte Spencer, Brighton Festival); Bottoms, 40/40 (Two Destination Language); Snakeskin in the Wild & Readings of what was never Written (Neurolive); In Floods (Greg Wohead), Pleasure Seekers (Bourgeois and Maurice Soho Theatre); Fat Blokes, Class (Scottee); My Body My Archive (Tate Modern); Our True Feelings, Choreography of an Argument Around a Table, Tug(Dog Kennel Hill Project); Cornelia Parker (Tate Britain); The Candle Project (Abigail Conway); 24/7 (Esmeralda Conde Ruiz & Hellerau Dresden); First Light, a light installation for babies (Daniel Naddafy & Barbican).

Fel rhan o’r casgliad Duckie, mae wedi dylunio llawer o’u digwyddiadau clwb theatraidd fel Princess, Gay Shame, Servants Ball a Border Force. Fel artist golau, mae’n creu darluniadau sy’n archwilio ymateb dynol i liw yn y byd naturiol.

dancers stand in a circle under a bright light, all facing the centre and raising their headpieces aloft