Folk

TEITHIAU NDCCYMRU I’R ALMAEN A’R SWISTIR FIS RHAGFYR HWN.

Yn dilyn teithiau ar draws Cymru a Lloegr gyda Roots a Passion, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ymweld â'r Almaen a'r Swistir ym mis Rhagfyr, yna i wlad Pwyl ddechrau gwanwyn 2019.

Mae CDCCymru wedi cynyddu ei bresenoldeb rhyngwladol yn y 2 flynedd ddiwethaf gan berfformio i bron i 500 o gynulleidfaoedd mewn lleoliadau a gwyliau yn Hong Kong, yr Almaen, Budapest a'r Swistir.

Fis nesaf bydd CDCCymru yn dychwelyd i'r Almaen a'r Swistir gyda'r Folk arobryn (Caroline Finn - Gwobrau Theatr Cymru); Atalay (Mario Bermudez Gil) a Tundra (Marcos Morau) a enwebwyd ar gyfer gwobr Theatr y DU.

Mae'r daith yn agor yn theatr Rüsselsheim yn yr Almaen (dydd Sadwrn 8 Rhagfyr); yna ymlaen i Stadttheater, Schaffhausen, y Swistir (dydd Iau 13 Rhagfyr) ac yna yn ôl i'r Almaen i theatr De Stadt, Schweinfurt (dydd Sadwrn 15 & 16 Rhagfyr).

Yn ystod gwanwyn 2019, bydd CDCCymru yn perfformio yn Materia Prima, y 5ed Gŵyl Theatr Ffurf Ryngwladol yn Kraków ar 22 a 23 Chwefror, cyn mynd yn ôl ar gyfer taith wanwyn yn y DU gydag 11 dyddiad - Awakening, sy'n agor ar ddydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2019 yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd. Ym mis Mai bydd y cwmni yn mynd â Folk, Tundra ac Atalay yn ôl i'r Almaen ac Awstria am daith 7 diwrnod. Teithio rhyngwladol