Daisy Howell Akin | Perthyn Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 4X10 Gwneud am 4x10 gan Daisy Howell Mae 4X10 yn un o’n prosiectau pwysig yn ystod ein deugeinfed flwyddyn. Mae’n gysyniad newydd arwyddocaol o fewn ein rhaglen, sy’n ein galluogi i gynhyrchu a chyflwyno gwaith newydd ac unigryw gan ein Hartistiaid Cyswllt ac artistiaid gwadd. Pedwar darn o waith newydd gan artistiaid sy'n dylanwadu ar y ffordd rydym yn gweld Cymru gyfoes - pob un mewn ffordd wahanol ac o safbwynt gwahanol. Tîm Creadigol Akin | Perthyn: Daisy Howell Cerddoriaeth: Spirit – Jack Larsen Have You Decided? - Ruthven Perfformiad: Mario Manara, Niamh Keeling, Luca Chiodini Gyda diolch i: My Sisters Coreograffwr Daisy Howell Mae Daisy Howell yn goreograffydd, cyfarwyddwr a pherfformiwr yn wreiddiol o Wrecsam, gogledd Cymru, a dechreuodd ei hyfforddiant dawns trwy North East Dance (NEW Dance) a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, cyn hyfforddi yn y Northern School of Contemporary Dance, lle derbyniodd ei MA mewn Perfformiad ar ôl teithio gyda VERVE yn 2018. Mae hi wedi gweithio fel Dawnsiwr Llawrydd, Coreograffydd a Darlithydd am y 5 mlynedd diwethaf a bu’n Gyd-Gyfarwyddwr Night People Events, gan weithio mewn partneriaeth â’r Cyd-Gyfarwyddwr, Aaron Howell, ers creu’r Cwmni swyddogol yn 2020. Mae Daisy hefyd yn Gydlynydd Cynllun Hyfforddiant The Lowry Centre, sy’n arwain ar gyflwyno'r rhaglen mewn modd gweithredol ac artistig. Hi hefyd yw Uwch Arweinydd a Darlithydd Gwadd Cwmni Chameleon ar gyfer rhaglenni MA Prifysgol Salford/rhaglenni Emergence. Mae hi wedi bod yn brif gynhyrchydd ar gyfer Platfform Gŵyl Genedlaethol U.Dance Gogledd Cymru 2022 a 2023, ochr yn ochr â chefnogi artistiaid lleol, rhanbarthol trwy ei gwaith cynhyrchu. Galeri