Bakani Pick-Up Cyfarwyddwr Artistig (Prif Weithredwr ar y Cyd) Cefais fy ngeni yn Bulawayo, Zimbabwe, a symudais i'r DU yn 2005. Dechreuodd fy nhaith dawns yn Zimbabwe, lle bûm yn ffodus i fynychu ysgolion a ddatblygodd fy mrwdfrydedd am symudiad. Ar ôl cwblhau fy arholiadau Safon Uwch, es ymlaen i hyfforddi mewn Coreograffi ym Mhrifysgol Falmouth a Trinity Laban. Ymhlith yr artistiaid y gweithiais â hwy ers i mi raddio mae Grace Wales Bonner, Anthea Hamilton, Theo Clinkard a Fevered Sleep. Ochr yn ochr â'm hymarfer symudiadau, gweithiais fel Coreograffydd, Awdur, Darlithydd, Ymchwilydd a Rhaglennydd. Ers 2018, bûm yn gweithio'n llawrydd fel Perfformiwr ac Athro, gan ehangu fy arbenigedd mewn addysgeg, llesiant creadigol, arweinyddiaeth, llywodraethiant a'r celfyddydau rhyngddisgyblaethol. Cyflwynwyd fy ngwaith yn The Place (Llundain); Vienna Secession (Awstria); ac ar BBC Four. Yn 2018, sefydlais Bakani Pick-Up Company, cwmni perfformiad coreograffig sy'n archwilio 'ffyrdd o fod.' Cefnogwyd ein gwaith gan The Place, Goethe Institute, British Council (Sbaen), Yorkshire Dance, FABRIC, Arts Council England a Dans Atelier (NED). Ar hyn o bryd, rwy'n Ymddiriedolwr Cyswllt yn Yorkshire Dance ac yn Ymddiriedolwr yn Chisenhale Dance Space.