CDCCymru yn Cyflwyno Dancing Together Whilst Apart (1 munud) Wedi'i greu yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud yn sgil COVID-19, roedd ein dawnswyr yn awyddus i bwysleisio'r modd yr arweiniodd yr ynysu yn ein cartrefi atom yn ymdrochi o’r newydd mewn bywyd ar yr aelwyd - ond gyda hynny daeth y potensial i ddarganfod munudau o greadigrwydd a mynegiant personol o fewn y normal newydd hwn. Cafodd y fideo ei greu ar gyfer #Digithon Wales Arts Review gyda'r bwriad o gasglu arian ar gyfer artistiaid llawrydd yng Nghymru sydd wedi colli gwaith yn ystod yr argyfwng. https://www.walesartsreview.org/announcement-digithon-the-wales-arts-review-online-fundraising-festival/