Dancers holding their hands out to the audience
CDCCymru yn Cyflwyno

Lunatic

gan Nigel Charnock

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
30 munud
Canllaw oed: 12+

Cynnwrf egnïol yw Lunatic. Mae’n hwyl, yn berthnasol ac yn tanio. Mae’n uno cerddoriaeth a steil y 30au gyda diwydiant pop y 90au. Cafodd ei ddangos 10 mlynedd yn ôl am y tro cyntaf, ac mae’n llawn cwestiynau ynghylch cenedligrwydd, rhyw a dosbarth.

 

 

Tîm Creadigol

Dylunydd Gwisgoedd: Shanti Freed

Cynllunydd Goleuadau: Jackie Shemesh

Cerddoriaeth: Moonlight Serenade, When Johnny Comes, Marching Home, Under A Blanket, American Patrol gan Glenn Miller, Confusion The Waitress gan Underworld, Little Things Mean Alot gan Kitty Kallen, 6 Suites for Cello, 6 Chyfres y Sielo, Cyfres Rhif 1 yn G Fwyaf gan JS Bach, The End Of A Love Affair gan Billie Holiday, Such A Night gan Jonnie Ray, Symffoni Rhif 2 yn C Leiaf ‘Resurrection’n gan Mahler

Headshot: Hugo Glendinning

Coreograffwr

Nigel Charnock

Nigel Charnock Headshot
Adolygiadau

“Lunatic’s energetic, often manic style, reflects modern entertainment sensibilities” 

- New Wales Review 

Pan greodd Nigel Lunatic yn 2009, eglurodd fod y teitl wedi'i ysbrydoli gan freuddwydion, hunllefau a'r lleuad.
Dywedodd “Pan fydd pobl yn edrych ar y gair "Lunatic" maen nhw'n meddwl am wallgofrwydd, felly maen nhw'n barod am unrhyw beth a all ddigwydd ar y llwyfan, nid yw'n rhagweladwy.” Roedd yn cofio, tra ar daith i Prague, ei fod wedi ei chael hi'n anodd cysgu a threuliodd lawer o amser yn effro tra bod eraill yn cysgu dan y lleuad. ‘Moon, Luna, Lunatic’.

Yn dilyn hyn, gwyliodd raglen ddogfen am fethu cysgu, cerdded yn eich cwsg a'r pethau y mae pobl yn eu gwneud wrth gysgu. Gofynnodd pwy sy'n penderfynu pwy oedd yn cael ei labelu fel 'gwallgof’.

Roedd Nigel hefyd yn cael ei gyfareddu gan y 1950au. Roedd cyfnod ar ôl y rhyfel pan oedd pobl yn disgwyl i bethau fod yn well, ond cawsant eu siomi; rhywbeth sydd mor berthnasol yn 2020 ag yr oedd yn 2010 ac yn wir yn 1950.  Mae'r gerddoriaeth, yn arddull a dyluniad y 1950au yn darparu lleoliad ar gyfer Lunatic gan gynnwys, wrth gwrs, Moonlight Serenade, Glenn Miller.

Wedi'i fagu yng Ngogledd Cymru, astudiodd Nigel yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gyd-sefydlu'r cwmni theatr arloesol DV8, aeth ymlaen i deithio yn rhyngwladol gyda chyfres unigryw o berfformiadau unigol a gweithiau cwmni. 

Gwnaeth Nigel ddarnau dawns a oedd yn cysylltu â chynulleidfaoedd. Fe greodd darnau dawns y gallai unrhyw un eu deall ac uniaethu â nhw; ac mae hynny mor wir heddiw ag y bu erioed.

Galeri
2 dancers holding hands, 1 with their leg up in the air
1 male dancer legs spread out, wearing stilettos waving the union jack over his head
1 male dancer legs spread out, wearing stilettos waving the union jack over his head

Mae Archif Nigel Charnock yn cyflwyno dogfen am ail-lwyfannu  ‘Lunatic’, oedd yn rhan o'n taith KIN a gafodd ei ganslo, ond fydd yn mynd ar daith eto yn 2021.
 

Mae'n rhoi darlun arbennig o feddwl Nigel mewn 30 munud, a'r cymhlethdod ac emosiwn oedd ynghlwm ag ail-lwyfannu darn cyfan ers ei farwolaeth.