a series of images showing a dancer doing a cartwheel in stages
CDCCymru yn Cyflwyno

Zoetrope

Ebrill 2024

Perfformiad Ysgolion

Mae dawns yn un o bum disgyblaeth y Maes Celfyddydau Mynegiannol o Ddysgu a Phrofiad
Byddem wrth ein bodd yn eich helpu.

Gall ysgolion yng Nghymru gael tocynnau a theithio am ddim (bron iawn) i Zoetrope trwy gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Zoetrope yn teithio o amgylch Cymru a’r DU yn ystod Hydref 2024, sgroliwch i weld y dyddiadau.

Mae Dawns yn un o’r pum disgyblaeth o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol - ac mae’n gelfyddyd y gellir ei ddefnyddio i sbarduno ac annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau creadigol, artistig a pherfformio, yn ogystal â chynorthwyo gyda chyd symudiad, rhifedd, ac addysg gorfforol.

Gallwn ni helpu

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yw arbenigwyr Cymru ym myd dawns, a hoffem rannu’r wybodaeth honno gydag athrawon y genedl fel bod pawb yn cael cyfle i ddawnsio. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cydweithio gyda’r coreograffydd clodfawr Lea Anderson MBE, sy’n adnabyddus am berfformiadau gwefreiddiol, i greu dawns yn arbennig ar gyfer plant Cymru.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi gweithio ar y cyd â’r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE. Mae Lea’n adnabyddus am greu gwaith sy’n apelio at gynulleidfaoedd iau ac mae hi am greu darn newydd i ni ei rannu gyda chynulleidfaoedd o deuluoedd a phlant ysgol. Rydym yn barod i gydweithio â’ch Ysgol Gynradd chi a rhannu’r prosiect newydd a chyffrous hwn, sef Zoetrope, wedi’i anelu at blant rhwng 7-11 oed.

Skeletons creeping across the stage
costumes that look like a sceintific drawing of protons
a dancer holds a large lizard prop
dancers in monkey masks dance, legs in the air
dancers point towards another dancers' feet - he wears ape feet slippers

Cynnig perfformio

Gwahoddiad i ddod â’ch ysgol i ymuno â ni am berfformiad o Zoetrope. Mae’r darn hwn yn para 60 munud. Wedi’i ysbrydoli gan animeiddiad cynnar ac ysbryd y ffair, bydd y llwyfan wedi'i llenwi ag animeiddiadau a phatrymau symud cyffrous wedi’u perfformio gan ein dawnswyr sy’n chwarae creaduriaid hudolus. Bydd y sioe yn weledol gyffrous ac yn brofiad ysbrydoledig i ddysgwyr rhwng 7-11 oed. 

Hyd y sioe yw un awr.

Pecyn Cymorth i Athrawon

Bydd athrawon sy’n mynychu Zoetrope yn cael Pecyn Cymorth i Athrawon a fydd yn cynnwys adnoddau ar gyfer gwersi a awgrymir eu haddysgu cyn y perfformiad, fel bod y bobl ifanc yn hyderus yn mynychu’r digwyddiad ac yn barod i ymgysylltu â’r hyn y byddant yn ei weld. Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys cynlluniau gwersi a awgrymir eu haddysgu ar ôl y perfformiad, er mwyn annog sgwrs ac i archwilio cynnwys y perfformiad ymhellach.

Trefnwch Weithdy Dawns yn eich ysgol

Byddai Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wrth eu bodd yn cyflwyno gweithdy Dawns yn eich ysgol, gan helpu i rannu buddion lu Dawns gyda’ch pobl ifanc. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
 

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
 

reviews from children exclaiming that Zoetrope is funny and funny

Porth Cyllid a Chost Perfformio

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grant ‘Ewch i Weld’ sy’n talu am hyd at 90% o gost y tocyn a thrafnidiaeth. Byddwn yn helpu i’ch tywys drwy’r broses syml hon. Gweler manylion y cyllid sydd ar gael yma:

https://arts.wales/cy/ariannu/dysgu-creadigol/ewch-i-weld

 

Sut i archebu:

Anfonwch E-BOST atom gydag unrhyw gwestiynau, faint o docynnau yr hoffech eu cael, a pha sioe yr hoffech ei mynychu, ac yna byddwn mewn cysylltiad.

Check out our Zoetrope playlist to learn more about Zoetropes and to know what to expect, interviews and more.

a performer in striped leotard and swimming cap waving a ribbon

Ble rydych chi’n perfformio?

Rydym ni’n perfformio Zoetrope ar gyfer ysgolion ar draws y DU yr Hydref hwn. Gallwch ein gweld ni yma:

Taliesin, Abertawe: Dydd Gwener 4 Hydref 1yp
Theatr Brycheiniog, Brecon: Dydd Iau 17 Hydref 1yp
Y Hafren, Drenewydd: Dydd Gwener 25 Hydref 1yp
Pontio, Bangor: Dydd Iau 7 Tachwedd 1yp 
Lawrence Batley Theatre, Huddersfield: Dydd Mercher 13 Tachwedd 1yp 
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Dydd Iau 21 Tachwedd 1yp

Beth yw Zoetrope?

Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw

gif of a zoetrope depicting a running horse
Adolygiadau

"Everyone thoroughly enjoyed the performance and hopefully we have ignited some passion for the world of dance"

Teacher

"The children loved having the opportunity to ask the dancers questions at the end. The class teacher particularly liked this part too as it made creative arts and dance very accessible to children."

Teacher 

"It was really entertaining, I loved the monkeys and the skeletons."

Student 

"Thank you so much! It makes me want to work there when I grow up!" 

Student 

"I loved it the dancers were great!"

Student

Cefnogi'r gan

funding logos Colwinston LogoHodge foundation

 

Yn digwydd
Abertawe
Taliesin
Dydd Gwener 4 Hydref 2024, 13:00
Drenewydd
Hafren
Dydd Gwener 25 Hydref 2024, 13:00
Bangor
Pontio
Dydd Iau 7 Tachwedd 2024, 13:00
Huddersfield
Lawrence Batley Theatre
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024, 13:00
Aberystwyth
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Iau 21 Tachwedd 2024, 13:00