GARTREF Rhaglen Ddigidol Rhaglen am dimm: GARTREF Croeso i GARTREF. Mae’n braf cael eich cwmni yma heno yn y Tŷ Dawns. Mawr obeithiwn y byddwch yn mwynhau eich hunain, a chofiwch ddweud hynny wrthym ar @cdccymru ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Trefn y digwyddiadau: Wild Thoughtsgan Andrea Costanzo Martini (20 munud)Saib(10-15 munud) NO-SHOWgan Matthew Robinson (11 munud) Cyfwng (20 munud)Ludogan Caroline Finn (30 munud) Cast: Vito Bintchende, Niamh Keeling, Mario Manara, Bianca Mikahil, Ed Myhill, Aisha Naamani, Euan Stephen, Faye Tan, Marine Tournet, Tim Volleman Tîm Technegol: Geraint Chinnock, Harvey Evans, Will Lewis Cyfarwyddwr Artistig: Matthew RobinsonPrif Weithredwr: Paul Kaynes CWRDD Â DDAWNSWYR Dylunio Gwisgoedd: Rike ZöllnerGoruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn TudorGwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu Dyluniad Goleuo: Barnaby BoothCerddoriaeth: Spectacle of Ritual’ gan Kali Malone, Foreign Bodies gan Matthew Herbert “Yn y darn hwn, ar y cyd â dawnswyr CDCCymru, rwy’n archwilio maes chwarae’r corff dynol. Mae Wild Thoughts yn ddathliad dros ben llestri o bengliniau, breichiau, coesau, chwarennau, tafodau, a'u gwybodaeth gorfforol ddi-baid. Mae gweld brwdfrydedd uniongyrchol sydd gan y perfformwyr hyn dros symudiad, a’u haelioni i rannu’r berthynas bersonol ac unigryw sydd ganddynt â’u corff ar y llwyfan, wedi bod yn hynod galonogol i mi." Andrea Costanzo Martini Andrea Costanzo Martini Cafodd Andrea Costanzo Martini ei eni a'i fagu yn yr Eidal lle derbyniodd ei addysg gyntaf mewn dawns gyfoes a bale. Mae wedi dawnsio yn Aalto Theater Essen, Ensemble Ieuenctid Batsheva, Cwmni Dawns Batsheva, Bale Cullberg, Inbal Pinto a Chwmni Dawns A. Pollack. Ers 2013 mae Andrea wedi bod yn creu a pherfformio ei weithiau ei hun. Derbyniodd y wobr gyntaf am ddawns a choreograffi yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Tanz Solo Stuttgart yn 2013 a dyfarnwyd sawl gwobr iddo am y gweithiau unigol “What Happened in Torino” ac “Occhio di Bue”. Mae Andrea wedi canolbwyntio ar weithiau unigol ac i ddau fel Trop, VoglioVoglia, SCARABEO (a ddewiswyd gan Aerowaves 2018), ond yn fwy diweddar dechreuodd gydweithio â chwmnïau fel Balletto di Roma a Balletto Teatro di Torino gyda'r gweithiau Intro a Balera. Yn fwy diweddar, mae ymchwil Andrea mewn dawns yn canolbwyntio ar gorfforolrwydd eithafol a theatreg yn y weithred berfformio ac yn archwilio'r cydbwysedd pŵer rhwng dawnswyr a gwylwyr. Pob tro yn llawn hiwmor, ac wedi ei gefnogi gan ystod eang o sgiliau, mae gwaith Martini yn cwestiynu ac yn chwarae gyda disgwyliadau'r cyfrwng dawns. Wedi'i hyfforddi mewn techneg bale a chyfoes, mae Andrea hefyd yn hyfforddwr Gaga ac mae wedi arwain gweithdai dawns ledled y byd ers 2007. Mae gweithiau diweddaraf Andrea yn cynnwys 'Mood Shifter' a darn ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc o'r enw 'PayPer Play'. Danswir: 2Premiere: Spring 2023Coreograffydd: Matthew Robinson NDCWales’ Artistic Director Dylunio Gwisgoedd a Golau: Matthew RobinsonCerddoriaeth: Concerto Koln: Concerti a quattro da chiesa, Op. 2 [1712]: Concerto No.1 in D minor: III. Andante, IV. Allegro assai and Concert+o No.4 in A minor: III. Presto by Evaristo Felice Dall'Abaco Matthew Robinson Mae Matthew Robinson yn artist ymarferol sydd wedi gweithio fel dawnsiwr, coreograffydd, hwylusydd, Cyfarwyddwr Ymarferion a Chyfarwyddwr Artistig. Ymunodd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Medi 2021. Am nifer o flynyddoedd roedd yn rhan o Theatr Ddawns yr Alban, yn perfformio gwaith gan ystod o goreograffwyr rhyngwladol gan gynnwys Sharon Eval, Damien Jalet, Hofesh Shechter a Victor Quijada. Yn 2013 cafodd ei wahodd i gymryd cyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Ymarferion, yn cefnogi’r dawnswyr a’r artistiaid gwadd yn eu proses greadigol, a’r cwmni ar sawl taith ryngwladol. Yn 2016 cefodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig VERVE. Wedi’i leoli yn y Northern School of Contemporary Dance, datblygodd y cwmni enw da am gomisiynau beiddgar a hyfforddiant artistig o’r radd flaenaf ar gyfer artistiaid dawns newydd. Gan gydweithio â lleisiau coreograffig byd enwog a ffres, gyda’u gilydd llwyddon nhw i greu rhaglenni dawns unigryw a difyr. Gan gyrraedd miloedd o bobl bob blwyddyn, ar y llwyfan, ar-lein a thrwy waith allgymorth, arweiniodd VERVE am bum mlynedd. Fel artist mae’n ceisio trosglwyddo croesosodiadau a theimladau cymhleth trwy adeiladwaith coreograffi beiddgar a chorfforol sydd â sawl haen emosiynol. Mae’n creu ei waith artistig fy hun mewn cyd-destunau annibynnol, cydweithredol a thrwy gomisiynau. Ei waith diweddaraf, September, yw ei ail gydweithrediad â’r cynhyrchydd cerddoriaeth Torben Lars Sylvest. Mae Matthew yn raddedig o Ysgol Ddawns Fodern Llundain. Cynllunio’r Set a’r Goleuo: Joseff FletcherDylunio Sain a Chyfansoddwrr: Charlie KnightDylunio Gwisgoedd: Rike ZöllnerGwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu Cerddoriaeth: ‘Glemmer Du’ gan Agnes Obel, ‘Piano Trio No. 2 in E-Flat Major’ gan Op. 100, ‘D. 929: II. Andante con Moto’ gan Franz Schubert ‘Circular Translation’ gan Christophe Zurfluh, ‘Chaplin Nonsense Song’ gan Vagabond Opera, ‘Tovaritch Waltz’ gan Piotr Moss, ‘Masks’ gan Meredith Monk, ‘Ludo’ gan Charlie Knight, ‘Agua De Beber’ gan Antônio Carlos Jobim “Mae Ludo yn gwahodd cynulleidfaoedd i fydysawd hiraethus, ac unig nod y cymeriadau yw chwarae! Rydym yn ymgymryd â meddwl ystrywus oedolion a gemau pŵer, rydym yn ail-ymweld â chwarae dychmygol, rhyfeddol a mwy digymell ac yn ymgolli yn natur gorfforol ac anifeilaidd chwaraeon a gemau maes chwarae... Rwy’n gobeithio y byddwch yn cael eich ysbrydoli gan Ludo i ystyried rôl chwarae yn eich plentyndod, ac efallai sut mae hynny wedi newid wrth ichi dyfu i fod yn oedolion. A ydych chi wedi canfod ffordd o ddal gafael ar ‘chwarae’ wrth i chi dyfu i fyny?!” Caroline Finn Caroline Finn Wedi’i geni yn Lloegr, mynychodd Caroline Finn yr Arts Educational School, Tring ac yna Juilliard School Efrog Newydd. Fel dawnsiwr, roedd Caroline yn aelod o Ballett Theatre Munich, Ballet Preljoca a Compagnie Carolyn Carlson. Fel coreograffydd, mae Caroline wedi cyflwyno ei darnau ledled y byd, ac wedi ymgymryd â gwaith coreograffi ar gyfer cwmnïau fel National Ballet of Chile, Bayerisches Junior Ballet München, Ballettheater München, Tanz Luzerner Theater a VERVE. Enillodd Wobr Coreograffydd Anturiaethau Newydd Matthew Bourne 2014, ac yna cafodd ei chomisiynu i greu Bloom ar gyfer Phoenix Dance Theatre. Caroline oedd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru rhwng 2015-2017, ac yn ystod yr amser hwnnw, creodd 4 darn newydd ar gyfer y cwmni, gan gynnwys Folk, a enillodd y teitl Artist Benywaidd Gorau iddi. Yn 2018, daeth yn Goreograffydd Preswyl i barhau â’i gwaith gyda’r Cwmni. Caroline oedd coreograffydd a chyd-gyfarwyddwr cyd-gynhyrchiad CDCCymru, Passion, gyda Music Theatre Wales, a gafodd ei enwi yn 10 Perfformiad Clasurol Gorau 2018 (The Guardian). Mae Caroline hefyd wedi gweithio ag Opera Genedlaethol Cymru a Drottningholm Palace Theatre, Stockholm, ac mae hi’n addysgu ac yn ymgymryd â gwaith coreograffi mewn conservatoires a phrifysgolion ar draws y byd. Yn un o sylfaenwyr Cie La Ronde (CH), mae hi’n byw yn Zurich ac yn aelod o Tanztendenz München e.V. Os oes gennych 5 munud i'w sbario, byddem wrth ein bodd yn clywed mwy o'ch meddyliau Llewi'r Arolwg a Ymunwch â’n rhestr Camwch i’n byd ac ymunwch â’n stori. Diolch am brynu tocyn ac am gefnogi Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau camu i faes chwarae gwyllt, llawn dychymyg, ac yn profi grym perfformiad byw. Ond nid dyna ddiwedd y parti.. Gallwch ddarganfod posibiliadau dawns drwy gydol y flwyddyn drwy ddod yn Gefnogwr Lifft. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni ein cynulleidfaoedd i'n helpu ni i gyflwyno llawenydd dawns i’n gilydd mewn ffyrdd ysbrydoledig ac arloesol. Am gost o £2.50 y mis, gallwch ymuno â chymuned sy’n credu y gall dawns drawsnewid bywydau pobl.Cefnogwch Lifft