mentors for lab

Artistiaid a choreograffwyr mentora wedi'u cyhoeddi ar gyfer Laboratori CDCCymru

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi cyhoeddi'r coreograffwyr mentora ac artistiaid dawns llawrydd a fydd yn rhan o Laboratori, rhaglen sy'n arloesi ffyrdd o weithio a syniadau coreograffig newydd. Bydd ffigyrau benywaidd rhyngwladol megis Shobana Jeyasingh CBE, Bebe Miller a Frances Rings yn gweithio fel mentoriaid gan arwain carfan o ddoniau coreograffig newydd, ffres. Bydd yr artistiaid yn gweithio gyda dawnswyr CDCCymru.

Ymhlith y coreograffwyr sydd wedi cael eu dewis ar gyfer y rhaglen mae'r coreograffydd o Gaerdydd Marcus J Willis, Richard Chappell, a Bakani Pick-Up; Thomas Carsley o Bort Talbot a gyrhaeddodd rownd derfynol Dawnsiwr Ifanc y BBC; a chyn-goreograffydd tŷ CDCCymru Eleesha Drennan. Byddant yn ymuno ag artistiaid CDCCymru Faye Tan, Aisha Naamani ac Ed Myhill yn Laboratori 2020.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyswllt, Lee Johnston "Mae cysylltu â gwreiddioldeb y coreograffwyr hyn yn deimlad cyffrous, ac edrychaf ymlaen at yr ymchwil a'r canfyddiadau y bydd yr artistiaid hyn yn eu datguddio dros gwrs Laboratori."

Mae Laboratori, a lansiwyd yn 2019, yn gyfle i bobl greadigol llawrydd i archwilio ac ymchwilio i'w hymarfer eu hunain, ac arbrofi gyda syniadau newydd wrth weithio gyda thîm dawnsio proffesiynol CDCCymru.  Ar gyfer 2020, bydd CDCCymru yn symud y rhaglen bedair wythnos i leoliad creadigol ar-lein.

Mae'r mentoriaid Laboratori ar gyfer 2020 yn bedwar o goreograffwyr rhyngwladol uchel eu bri, yn cynnwys Shobana Jeyasingh CBE, coreograffydd wedi'i lleoli yn y Deyrnas Unedig sydd wedi creu dros 60 o berfformiadau ar draws gwahanol lwyfannau, gan gynnwys llwyfan, sgrin a lleoliadau cyhoeddus anghonfensiynol. Mae gan Shobana gyfoeth o brofiad o gydweithio gyda gwyddonwyr, curaduron orielau, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilm, pobl greadigol ddigidol, yn ogystal â dawnswyr a dylunwyr i wneud gwaith amlddisgyblaethol, mentrus.

Mae Laboratori yn symud ar-lein wedi caniatáu i CDCCymru weithio â Frances Rings, Cyfarwyddwr Artistig Cyswllt Bangarra Dance Theatre, sydd wedi'i leoli yn Awstralia. Sefydliad o bobl Aboriginaidd ac Ynys Culfor Torres yw Bangarra Dance Theatre ac mae'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei ddawnsio pwerus, gallu nodweddiadol i adrodd straeon, synau, cerddoriaeth a dylunio unigryw.

Bydd Bebe Miller - Coreograffydd o America a Chyfarwyddwr Artistig Bebe Miller Company yn un o'r mentoriaid rhyngwladol ar gyfer Laboratori 2020 hefyd. Mae Bebe yn arweinydd byd yn ei chrefft, yn ehangu iaith ddawns ar draws meysydd coreograffi, ysgrifennu, ffilm, fideo a'r cyfryngau digidol. Mae'r Bebe Miller Company hefyd wedi ymrwymo i sicrhau mynediad at y broses a mynegiant creadigol i gymunedau amrywiol.

Yn hwyluso Laboratori drwy ragoriaeth fydd y perfformiwr a'r coreograffydd, Catherine Bennett o Theatr Volcano. Mae Catherine wedi gweithio gyda Mr a Mrs Clark, Theatr Genedlaethol Cymru, ac wedi arwain gweithdai, dosbarthiadau meistr a chyfnodau preswyl ar gyfer Cwmni Dawns Ieuenctid Cymru, New Adventures Matthew Bourne, CandoCo, Stopgap, Greenwich Dance Agency a Random Dance.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyswllt, Lee Johnston, "Rwyf wrth fy modd bod y coreograffwyr o fri rhyngwladol hyn wedi cytuno i rannu eu gwybodaeth a phrofiad drwy Laboratori. Mae gan bob un ohonynt arferion artistig sy'n hynod berthnasol i'r oes sydd ohoni ac mae gwydnwch eu gyrfaoedd yn rhywbeth gwerthfawr y gallwn ddysgu oddi wrtho."

Bydd Laboratori yn cael ei gynnal ar-lein o 14 Medi hyd at 9 Hydref (Dydd Llun i ddydd Gwener). Ddydd Gwener 9 Hydref bydd cyfle i rannu'n ddigidol yr hyn sydd wedi'i ddatblygu fel rhan o'r rhaglen gyda'r cyhoedd.

Cefnogir Laboratori yn garedig gan Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick

 

https://ndcwales.co.uk/cy/dawnsiwr-laboratori