Crynhoi 2024 gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Dechreuasom 2024 gyda PULSE, ein bil dwbl o’r Waltz gan Marcos Morau a Say Something gan Sarah Golding ac Yukiko Masui (SAY). Cyflwynasom y gwaith yn Offenburg a Fürth, cyn cyfres o berfformiadau a oedd wedi gwerthu allan yng Ngŵyl schrit_tmacher yn Aachen. Mae’r ŵyl hon yn un o’r rhai mwyaf mawreddog yn y byd, ac roedd yn fraint i’r cwmni gael gwahoddiad yno am y tro cyntaf. Aethom â Say Something ar daith i ysgolion cynradd ar ffurf ryngweithiol, gan eu hannog i ddysgu rhannau o’r perfformiad a gofyn cwestiynau am ein cefndir a’r hyn yr ydym yn ei wneud. Aeth y daith â ni i gymunedau Caernarfon, Pwllheli, Casnewydd, ac Ystradgynlais. Cychwynasom ar brosiect newydd mewn deialog gyda ‘Of Curious Nature’, cwmni dawns sefydlog o Bremen, yr Almaen. Mae In each other's company wedi galluogi cynrychiolwyr o bob cwmni, ac ymarferwyr annibynnol, i ddysgu am eu harferion artistig, cyfranogol a chymunedol eu hunain. Nesaf, perfformiasom Zoetrope, Lea Anderson, ein gwaith cyntaf yn arbennig ar gyfer pobl ifanc. Perfformiasom i dros 1,000 o blant ysgol yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd, cyn mynd ar daith yn yr hydref. Trefnodd ein tîm ymgysylltu gwych weithdai ac adnoddau i ysgolion i gefnogi’r celfyddydau mynegiannol yn y cwricwlwm newydd. Derbyniasom lawer iawn o geisiadau y gwanwyn hwn ar gyfer ein Rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc. Roedd hi’n wych cael bod yn rhan o’r broses glyweliad, a gweld yr angerdd a’r potensial yn y genhedlaeth nesaf. Roedd ein rhaglen Dance for Parkinsons yn parhau ar draws Cymru, ac roeddwn wrth fy modd yn ymweld â’n cyfranogwyr yng Nghaerdydd, a gweld y gwaith yr oeddynt wedi ei greu, wedi’i ysbrydoli gan fy nghreadigaeth ddiweddaraf. Ym mis Tachwedd, cynhaliwyd ein digwyddiad dawns ieuenctid blynyddol Launch|Lansio, oedd yn croesawu grwpiau ieuenctid i’r Tŷ Dawns i berfformio hefo’i gilydd. Pleser gennyf oedd croesawu Jo Fong ar gyfer ein Comisiwn Ymchwil Artistig cyntaf. Dyma fformat newydd i’r cwmni, ble rydym yn gwahodd artistiaid i ymarfer o fewn ein cyd-destun penodol, gan ddod â’u dull unigryw i mewn i’r ddeialog hefo’r cwmni cyfan. Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn wythnosau datblygu gyda’r artistiaid Leo Lerus, a gyda Faye Tan a Cecile Johnson Soliz, gan edrych tua’r dyfodol. Dros yr haf, crëwyd dau waith newydd, AUGUST a Skinners i greu ein bil dwbl newydd Frontiers|Gorwelion. Croesawyd Melanie Lane i Gaerdydd i gynhyrchu Skinners, yn ogystal â thîm rhyngwladol o gydweithwyr o Gymru a thu hwnt. Cydweithiais â thîm gwych ar gyfer AUGUST, ac roedd yn fraint cael gweithio gyda’n dawnswyr ardderchog unwaith eto. Yn ystod yr hydref bu Frontiers ar daith ledled Cymru ac i leoliadau dewisol yn Lloegr, gan ddiweddu ein taith mewn lleoliad hyfryd, Aberystwyth. Bron bob dydd roeddem yn agor ein dosbarth cwmni i ddawnswyr gwadd, ac eleni rydym wedi croesawu 325 o ddawnswyr i hyfforddi gyda ni. Yn ogystal â hynny, hwyluswyd ychydig dros 3 mis o le yn y stiwdio, gan alluogi prosiectau artistig annibynnol i dyfu gyda Stiwdios Wrth Gefn a chyfnodau preswyl creadigol. Yn olaf, i ddiweddu’r flwyddyn cafodd ein cyd-gynhyrchiad gaeafol gyda Theatr Cymru, Dawns y Ceirw, ei berfformio am y tro cyntaf. Canlyniad perthynas artistig werthfawr rhyngof i a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, yw’r sioe hon, sydd ar y gweill ers tair blynedd. Y sioe hon yw ein cynhyrchiad cyntaf yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n arbennig ar gyfer plant. Pobl sy’n gwneud i’n gwaith ni ddigwydd, ac mae wedi bod yn flwyddyn arall o gydweithio ar ac oddi ar y llwyfan. Diolch i holl dîm CDCCymru ac i’r holl unigolion llawrydd sydd wedi cyfrannu o’u hamser a’u hegni at ein gwaith. Diolch i’n cynulleidfaoedd yng Nghymru ac o amgylch y byd, a diolch i bob cyfranogwr a benderfynodd ddawnsio gyda ni. Matthew William Robinson – Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Ffoto: Kirsten McTernan, Jorge Lizalde, Chris Nash Coreograffi: Matthew William Robinson, Melanie Lane, Jack Philp, Marcos Morau, Lea Anderson, Faye Tan