Gwylio Gyda’n Gilydd Gwyliwch rai o’n darnau dawns mwyaf poblogaidd, yn ogystal â rhai darnau arbennig a grëwyd ar gyfer ffilm. Dyma gyfle i weld y darnau yn ogystal â dysgu mwy am sut y crëwyd nhw.
Plethu / Weave: Aber Bach Mae Aber Bach yn cael ei deitl gan enw cildraeth yng ngorllewin Cymru lle gellir clywed synau melin wlân a'r môr. Mae 'Aber' a 'Bach' i'w cael yn Gymraeg ac yn Almaeneg, er bod ganddynt ystyron gwahanol. O'r syniad hwn, mae'r ffilm, a gafodd ei ffilmio ym Melin Wlân Melin Tregwynt yn Sir Benfro a'i greu mewn cydweithrediad â Rufus Mufasa, Hanan Issa a Tim Volleman, yn archwilio sut y gallwn blethu geiriau i greu patrymau newydd o berthyn. Gwybod fwy
Plethu / Weave: Swyn-gân / Y Galw Mae Swyn-gân / Y Galw, gan y bardd clare e. potter a’r artist dawns Jo Shapland, yn gwrando’n ddwys ar agweddau greddfol a chyfriniol cyfathrebu a sut mae’r corff, y tir a byd natur yn siarad. Gwybod fwy
Plethu/Weave: The Branches of Me ‘The Branches of Me’ yn dechrau edrych ar sut rydym yn dod o hyd i ymdeimlad o harmoni o fewn hunaniaeth gymysg mewn cymdeithas sy'n aml yn siarad o ran bod yn 'Wyn' neu'n 'Ddu'. Gwybod fwy
Plethu/Weave: O’r Lludw Yn seiliedig ar yr ymgyrch #weshallnotberemoved ar gyfryngau cymdeithasol, mae O'r Lludw yn cydnabod ac yn dathlu'r cyfraniad y mae artistiaid anabl yn ei wneud i'r gymuned gelfyddydol yn ei chyfanrwydd. Mae O'r Lludw yn defnyddio delweddau gweledol o ffenics yn codi o'r lludw i gynrychioli adfywiad y celfyddydau, gydag artistiaid anabl yn cael eu hintegreiddio'n fwy i waith prif ffrwd wrth i ni ddechrau pennod gyffrous newydd. Gwybod fwy
Plethu/Weave: Cyswllt | Datgyswllt Mae Cyswllt, Datgyswllt gan y bardd, Elan Grug Muse a'r dawnsiwr, Shakeera Ahmun, yn archwilio ymdeimladau o ymlyniad a datodiad a'r cymhlethdodau o fewn y themâu hyn. Gwybod fwy
Plethu/Weave: Ble Mae Bilaadi? "When my Khala speaks, a metallic voice on the phone, I want to respond ‘زين الحمد الله’ but I have swallowed too many dandelion seeds." ‘Ble Mae Bilaadi?’ gan y bardd Hanan Issa a dawnsiwr CDCCymru Aisha Naamani wedi ei ysbrydoli gan eu hetifeddiaeth gymysg hwy, a’r cysylltiau a datgysylltiad â Chymru. Gwybod fwy
Plethu/Weave: Triptych Part 1 Ysgrifennwyd Triptych fel ymateb i blac a osodwyd yn 2010 yn Aberhonddu, yn cofnodi’r masnachwr caethweision, Capten Thomas Philips. Erbyn hyn mae wedi cael ei rwygo i lawr. Gwybod fwy
Plethu/Weave: Ust Yn ‘Ust’ gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a dawnsiwr CDCCymru Faye Tan, archwilir y syniad o harmoni perffaith rhwng geiriau a symudiadau Gwybod fwy
Plethu/Weave: Hirddydd Cafodd y ffilm gyntaf, ‘Hirddydd’, gan y bardd Mererid Hopwood a dawnsiwr CDCCymru Tim Volleman ei ysbrydoli gan Waldo Williams a sut y collodd pobl de Sir Benfro eu cartrefi mewn amgylchiadau tebyg i deuluoedd Epynt ger Aberhonddu. Gwybod fwy
Plethu / Weave Awst - Tachwedd Prosiect ffilm digidol newydd yw Plethu/Weave, sy’n paru dawnswyr o CDCCymru a’r sector annibynnol gyda beirdd a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn creu perfformiadau unigol byw yn ystod y cyfnod clo. Gwybod fwy
'Clapping' by Ed Myhill (10 munud) Daeth ein dawnswyr ynghyd ledled Cymru, y byd a’r we i berfformio gyda’i gilydd eto dros Zoom ar gyfer fersiwn newydd o ‘Clapping’ gan Ed Myhill Gwybod fwy
Dancing Together Whilst Apart (1 munud) Wedi'i greu yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud yn sgil COVID-19, roedd ein dawnswyr yn awyddus i bwysleisio'r modd yr arweiniodd yr ynysu yn ein cartrefi atom yn ymdrochi o’r newydd mewn bywyd ar yr aelwyd - ond gyda hynny daeth y potensial i ddarganfod munudau o greadigrwydd a mynegiant personol o fewn y normal newydd hwn. Gwybod fwy
Diwrnod Dawns Rhyngwlado #DiwrnodDawnsRhyngwladol, ac rydym yn rhannu rhai o'r ymatebion arbennig ohonoch yn dawnsio yn eich cartrefi i 'Ymadroddion ar gyfer Mannau Bach'. Gwybod fwy
Clap for Carers Mae'r fideo byr yn fodd o ddiolch i'r GIG, gofalwyr a gweithwyr cymorth ledled y DU a thu hwnt. Gwybod fwy
BBC in Quarantine Wedi methu ein ffrydiad o BBC Culture in Quarantine dosbarth cyfoes dyddiol, gyda’r athrawes Angela Towler a chyfeiliant byw gan Christopher Benstead. Ymunwch, neu gwyliwch a gweld sut rydym yn parhau i ddawnsio gyda’n gilydd, ar wahân. Gwybod fwy
Reflections Mae Reflections yn ffilm deimladwy a dyrchafol gyda dawnsio gan gyfranogwyr rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson's CDCCymru. Y ffilm yw’r enghraifft orau o ymrwymiad parhaus Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i wneud dawns ar gyfer pawb, a phob gallu; gan fod ganddi'r pŵer i wella lles meddyliol a chorfforol. Gwybod fwy