associates dancing in a line backlit in blue
CDCCymru yn Cyflwyno

Cynefin/Habitat

CDCCYmru Haelodau Cyswllt 2021

Gweithiodd ein Haelodau Cyswllt am wythnos yn ystod mis Hydref i greu'r ffilm ddawns fer hon yn seiliedig ar farddoniaeth yr awdur lleol, Jaffrin Khan, dan fentoriaeth y coreograffwyr Richard Chappell a Kai Tomioka.

Mae’r prosiect wythnos o hyd hwn yn rhan o hyfforddiant parhaus aelodau Cyswllt ifanc CDCCymru - sydd â'r nod o baratoi dawnswyr ifanc ar gyfer bywyd fel artistiaid proffesiynol. Yn ystod yr wythnos, arweiniwyd yr aelodau Cyswllt drwy broses o greu dawns neu ffilm, o’r cysyniad i’r creu, yn ystyried pwyntiau o ysbrydoliaeth, a sut y gellir mowldio coreograffi i weddu i gynulleidfaoedd - yn yr achos hwn, drwy lens camera. Cafodd y dawnswyr eu cefnogi gan Jaffrin Khan a chreu eu hymatebion llafar eu hunain i'r syniad o Cynefin – eu cynefin, y cartrefi y maent yn teimlo'n ddiogel ynddynt.

Coreograffi a chyfarwyddyd: Kai Tomioka ar y cyd â Richard Chappell

Ffilm wedi’i Ffilmio a’i Golygu: Jonathan Dunn

Wedi’i dawnsio a’i hadrodd: Megan Burke, Mariella Cass, Seren Cook, Ruby Davies, Claire-Isabella Irwin, Megan Morgan, Heidi Thomas, Sophie Watkins

Cefnogir gan Darkley Trust.