children walking on a fence

Rôl Hwylusydd y Celfyddydau sy’n Dod i’r Amlwg

Above & Beyond, Penrhys

Deadline Date
15/08/2024 - 12:00
Deadline Date
15/08/2024 - 12:00

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru eisiau contractio Hwylusydd Celfyddydau sy’n Dod i’r Amlwg sydd ar ddechrau eu gyrfa i weithio ochr yn ochr ag Artistiaid Arweiniol 'Above & Beyond', prosiect hirdymor a ddarperir ym Mhenrhys (Rhondda Cynon Taf).  Bydd y rôl wedi'i lleoli ym Mhenrhys, Rhondda Cynon Taf.

Cenhadaeth y prosiect yw trawsnewid y gymuned trwy weithgaredd diwylliannol er mwyn sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol ac i bobl Penrhys gael mwy o lais ac edrych tuag at ddyfodol cadarnhaol.

Mae Above & Beyond yn brosiect cymunedol esblygol sy'n dod â chymuned Penrhys a phartneriaid, cydweithwyr a phobl greadigol at ei gilydd. Mae'r partneriaid yn cynnwys Ysgol Gynradd Penrhys, Cymdeithas Tai Trivallis, Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Rhondda Cynon Taf, Tŷ Cerdd, Valleys Kids ac Eglwys Unedig Llanfair.

Mae'r prosiect, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, wedi cael effaith fawr yn y gymuned ac mae pawb sy'n gysylltiedig yn parhau i fod â dyheadau, balchder a gobaith i Penrhys fod yn ganolbwynt ar gyfer mynegiant artistig unigryw, cydlyniant cymunedol a newid cymdeithasol cadarnhaol.

Mae'r rhaglen wedi datblygu ac esblygu mewn ymateb uniongyrchol i ddysgu, profiadau ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae'r rhaglen artistig dros y pum mlynedd wedi canolbwyntio ar Ddawns Parkour yn bennaf, ochr yn ochr â gweithgareddau drama a bît-bocsio. Mae'r cyfuniad unigryw hwn wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth ymgysylltu â phobl ifanc. Mae gweithdai wythnosol wedi gweld cynnydd mewn chwilfrydedd, ffocws ac ymrwymiad gan drigolion ifanc Penrhys. Mae'r rhaglen weithgaredd hefyd yn cynnwys sesiynau symud ar gyfer Mamau, babanod a phlant bach, gweithgareddau clwb ar ôl ysgol, a sesiynau symud iach i oedolion.

Mae'r rôl yn addas i berson ifanc o ardal RhCT sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau cynnar o ran hwyluso gweithdai yn y celfyddydau. Rydym yn agored i gwrdd ag ymgeiswyr sydd â chefndir mewn drama, gwneud ffilmiau, ffotograffiaeth, dylunio, celf, cerddoriaeth, canu, dawnsio, ysgrifennu, gair llafar neu ffurfiau aml-gelfyddydol.

Bydd yr ymgeisydd yn cael ei gefnogi a'i fentora gan Artistiaid Arweiniol y prosiect, Sandra Harnisch-Lacey a Kyle Stead, a fydd yn datblygu eich hyder a'ch sgiliau cyflwyno.

Mae Sandra a Kyle wedi bod yn gweithio yng nghymuned Penrhys ers sawl blwyddyn ac wedi datblygu methodoleg waith benodol yn seiliedig ar gyd-gynhyrchu ac ymarfer myfyriol ac atblygol.

Bydd y rhaglen yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd weithio gyda phob oedran ond yn enwedig pobl ifanc ac o’r herwydd bydd angen i'r ymgeisydd gael gwiriad DBS Uwch. Bydd angen i'r ymgeisydd fedru addasu, ymdopi ag ansicrwydd, ac ymateb i sefyllfaoedd heriol.

Cyfanswm y ffi am y gweithgaredd hwn yw £4,500 a disgwylir y byddwch yn gweithio tua 30 diwrnod (ar gyfradd o £150 y dydd) yn ystod y cyfnod 1 Hydref 2024 i 1 Gorffennaf 2025.

 

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Penrhys neu RCT yn ehangach.

Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth.  Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, ac oherwydd ein bod am adlewyrchu'r gymdeithas yr ydym yn gweithio ynddi ac yn ei charu, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n fyddar ac yn anabl a'r Mwyafrif Byd-eang.

young dancers under lights

Cyfrifoldebau allweddol

  • Gweithio ochr yn ochr â'r Artistiaid Arweiniol i ddarparu gweithdai celfyddydol rheolaidd ar gyfer cymuned Penrhys
  • Cefnogi'r artistiaid arweiniol mewn ymarferion a pherfformiadau
  • Cyfrannu at y weledigaeth artistig hirdymor ar gyfer y prosiect
  • Datblygu perthynas gref gyda chymuned Penrhys
  • Mynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy gydol y prosiect yn ôl yr angen.

Telerau ac Amodau

Ffi: Cyfanswm y ffi ar gyfer y contract hwn yw £4,500 (amcangyfrifir ei fod tua 30 diwrnod ar gyfradd o £150 y dydd).  Pob diwrnod a weithir i’w cytuno ymlaen llaw gyda'r Cynhyrchydd.

Hyd ac amser y contract: 1 Hydref 2024 - 1 Gorffennaf 2025

Lleoliadau ar gyfer cyflawni contractau: Byddwch yn gweithio'n bennaf ym Mhenrhys ond efallai y bydd angen gweithio o bryd i'w gilydd yn Swyddfeydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Y Tŷ Dawns, Bae Caerdydd ac mewn lleoliadau eraill.

Bydd unrhyw gynnig yn amodol ar dderbyn:

  • Geirdaon ar gyfer contractau blaenorol sy'n foddhaol i'r panel contractio
  • Tystiolaeth o hawl i weithio/ymgymryd â chontractau yn y Deyrnas Unedig fel y'u diffinnir gan y Swyddfa Gartref
  • Gwiriad DBS Uwch
young dancers performing in a theatre

Manyleb person

Byddem yn disgwyl i gontractwyr allu dangos cymhwysedd yn y rhan fwyaf o'r meysydd hyn:

  • Hyfforddiant neu brofiad perthnasol o gymryd rhan mewn prosiectau celfyddydol
  • Hyfforddiant mewn ffurf ar gelfyddyd
  • Profiad o gymryd rhan mewn neu arwain gweithdai celfyddydol
  • Profiad o gymryd rhan mewn neu arwain digwyddiadau celfyddydau cymunedol
  • Angerdd am y celfyddydau ac yn benodol am o leiaf un ffurf ar gelfyddyd

Sut i wneud cais

Cyflwynwch CV a chynnig ysgrifenedig yn manylu ar eich profiad a'ch dull o ymdrin â'r contract hwn a'i anfon at megan@ndcwales.co.uk erbyn 15 Awst 2024.

Llenwch ein ffurflen Cyfle Cyfartal hefyd, sydd at ddibenion monitro ac sydd ar wahân i'ch cynnig.

Gallwch wneud cais yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol, yn Gymraeg neu yn Saesneg:

Cynnig o ddim mwy na thair tudalen o A4 (maint ffont 12 pwynt),
Ffeil sain heb fod yn fwy na 10 munud,
Ffeil fideo MP3/MP4 10 heb fod yn fwy na 10 munud gan ddefnyddio We Transfer.

Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd p'un a ydynt ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio.

Bydd ymgeiswyr anabl sy'n dangos bod ganddynt y profiad perthnasol yn cael eu gwahodd am gyfweliad, ac rydym wedi ymrwymo i fodloni gofynion mynediad; gadewch i ni wybod beth sydd ei angen arnoch chi.

Mae'r disgrifiad rôl hwn ar gael yma yn Gymraeg ac mewn print mawr.

E-bostiwch megan@ndcwales.co.uk i ofyn am unrhyw fformatau eraill.

Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd popeth y mae CDCCymru yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad at ddawns. Bydd CDCCymru yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw un yn cael triniaeth llai ffafriol oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig.

Diogelu Data.

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i lunio rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ac i lywio ein penderfyniad ynghylch pwy fydd yn cael y contract. Bydd eich holl fanylion yn cael eu cadw'n ddiogel gyda mynediad wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â'r broses recriwtio yn unig. Bydd eich cais yn cael ei gadw ar ffeil am o leiaf dri mis ar ôl y dyddiad cau a'i ddinistrio heb fod yn hwyrach na deuddeg mis ar ôl hynny. Mae data cyfle cyfartal hefyd yn ddienw ac yn cael ei ddefnyddio'n fewnol i nodi ffyrdd o wella ein prosesau. Mae cyflwyno eich cynnig yn dangos eich bod yn caniatáu i'ch data gael ei ddefnyddio yn y modd hwn.

.

 

partner logos