Roots image, dancer in a blue kitchen with back to the camera and legs in the air holding shoes.

Bake off a dawns yn cyfarfod fel rhan o daith newydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Roots, tymor yr hydref hwn

Mae dawnsiwr yn y gegin yn gwneud llanast gyda blawd ac wyau; straeon ynghylch merched Eidalaidd yn y maffia a ballet hip hop yng nghynesrwydd y Canoldir yn dod i lwyfannau ledled Cymru’r tymor yr hydref hwn gan daith Roots Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – tair stori fer yn cael eu hadrodd drwy ddawns.

Gan gyrraedd cymunedau ledled Caerfyrddin, Ystradgynlais, Pwllheli, Caerdydd, Pontypridd a’r Wyddgrug, mae Roots yn daith dywys drwy ddawns gyfoes. Bob noswaith, mae CDCCymru (cwmni dawns gyfoes genedlaethol Cymru) yn mynd â rhai o’u hoff rannau o ddawns a’u cyfuno â hanesion a chipolwg ar sut y gwnaethpwyd hwy i helpu cynulleidfaoedd fynd at wraidd y straeon.

Mae pob darn o ddawns yn stori fer ac yn wahanol i’w gilydd, mae rhai wedi’u creu gan goreograffwyr wedi’u lleoli yma yng Nghymru ac eraill gan artistiaid sy’n enwog ledled y byd.

Mae gwylio Bernadette gan goreograffydd mewnol CCDCymru, Caroline Finn, fel gwylio rhannau o Great British Bake Off, y ddau’n hynod o ddoniol ond yn wirioneddol drasig. Mae’r darn hwn o ddawns gomedïaidd yn creu llanast, yn gorfforol ac emosiynol: blawd a theimladau ym mhob man.

Mae Omertá gan Matteo Marfoglia, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ynghylch rôl y ferch yn nheuluoedd y Maffia Eidalaidd, mae’n dywyll ac yn ysgogol gyda cherddoriaeth bwerus a gwisgoedd hyfryd o lês du.

Roedd Atalaӱ gan yr hynod lwyddiannus Mario Bermudez Gil yn boblogaidd yn nhaith y Gwanwyn CDCCymru eleni. Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r Canoldir, mae’n cyfuno arddulliau o ddawnsiau a cherddoriaeth hip-hop, ballet, cyfoes a stryd. Mae’n gynnes a dynamig, ac yn llawn teimlad. 

Mae’r daith Roots yn rhan o raglen 4 blynedd i ddatblygu dawns ledled Cymru diolch i grant gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

Fel rhan o’r rhaglen Roots, cyflwynir dros 40 o weithdai i blant ysgolion cynradd ac uwchradd, grwpiau ffoaduriaid, grwpiau dawns a theatr yn ogystal â grwpiau hŷn yn dysgu mwy ynghylch y themâu o ddarnau dawns a hefyd rhai pigion o’r noswaith. Bydd rhai o’r grwpiau hefyd yn perfformio sioeau newydd yng Nghaerdydd a Phwllheli.

Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer Roots yn Nhŷ Dawns (Caerdydd) 5-6 Tachwedd 7.30yh; Canolfan Gelfyddydau Muni (Pontypridd) 7 Tachwedd 7.30yh; Y Lyric (Caerfyrddin) 13 Tachwedd 7.30yh; Y Neuadd Les (Ystradgynlais) 15 Tachwedd 7.30yh; Neuadd Dwyfor (Pwllheli) 20 Tachwedd 7.30yh a Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug) 23-24 Tachwedd 7.45yh. Parhad y perfformiad yw 1 awr a hanner gydag egwyliau. Yn addas i oedrannau 8+.