test

Gwylio Gyda’n Gilydd

Gwyliwch rai o’n darnau dawns mwyaf poblogaidd, yn ogystal â rhai darnau arbennig a grëwyd ar gyfer ffilm. Dyma gyfle i weld y darnau yn ogystal â dysgu mwy am sut y crëwyd nhw. 

Gweithiodd ein Haelodau Cyswllt am wythnos yn ystod mis Hydref i greu'r ffilm ddawns fer hon yn seiliedig ar farddoniaeth yr awdur lleol, Jaffrin Khan, dan fentoriaeth y coreograffwyr Richard Chappell a Kai Tomioka.

Crëwyd Ed and Flow yn ystod tymor Hydref 2020 ein dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s ar-lein. Mae'r ffilm Ddawns hon wedi'i hysbrydoli gan Clapping gan Ed Myhill, fersiwn ar-lein o fersiwn lwyfan Why are People Clapping?!, a grëwyd yn ystod COVID 19.

(1 munud)

Wedi'i greu yn ystod wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud yn sgil COVID-19, roedd ein dawnswyr yn awyddus i bwysleisio'r modd yr arweiniodd yr ynysu yn ein cartrefi atom yn ymdrochi o’r newydd mewn bywyd ar yr aelwyd - ond gyda hynny daeth y potensial i ddarganfod munudau o greadigrwydd a mynegiant personol o fewn y normal newydd hwn. 

Wedi methu ein ffrydiad o BBC Culture in Quarantine dosbarth cyfoes dyddiol, gyda’r athrawes Angela Towler a chyfeiliant byw gan Christopher Benstead. Ymunwch, neu gwyliwch a gweld sut rydym yn parhau i ddawnsio gyda’n gilydd, ar wahân.

Mae Reflections yn ffilm deimladwy a dyrchafol gyda dawnsio gan gyfranogwyr rhaglen Dawnsio ar gyfer Parkinson's CDCCymru. Y ffilm yw’r enghraifft orau o ymrwymiad parhaus Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i wneud dawns ar gyfer pawb, a phob gallu; gan fod ganddi'r pŵer i wella lles meddyliol a chorfforol.